Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwahoddiad ar gyfer taith gerdded gymunedol i gŵn i hwb cymunedol newydd

Gwahoddir perchnogion cŵn i ymuno â thaith gerdded gymunedol i gŵn ddydd Sul 13 Tachwedd lle gallant nodi Dydd y Cofio ac yna ymuno mewn digwyddiad addas i deulu.

Dog walk - generic image from Canva

Dog walk - generic image from Canva

Mae rhwydwaith atal troseddau Pawennau ar Batrol Abertawe yn trefnu'r digwyddiad lle bydd grwpiau'n cychwyn o bedwar lleoliad yn Abertawe - Parc Cwmbwrla, Parc Polly, Canolfan y Ffenics a bwyty The Secret Bar and Kitchen am 10.30am.

Gan ddilyn llwybrau a gynlluniwyd o flaen llaw ac wedi'u harwain gan arweinydd, byddant i gyd yn cwrdd yn Unedau Hwb Cymunedol Greenhill Parade ger goleuadau Dyfaty mewn pryd ar gyfer y ddwy funud ddistaw genedlaethol am 11am.

Ar ôl talu teyrnged cynhelir digwyddiad cymunedol gyda lluniaeth a stondinau tan 2pm.

Close Dewis iaith