Toglo gwelededd dewislen symudol

Yr Economi

Ystadegau'r farchnad lafur a'r economi ar gyfer Abertawe, gan gynnwys 'Proffil Economaidd Abertawe'.

Dadansoddiad cryno o ystadegau lleol, economaidd a'r farchnad lafur diweddar yw Proffil Economaidd Abertawe.  Mae'r proffil, sydd yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd, yn edrych ar sut mae Abertawe'n cymharu â'r darlun cenedlaethol (Cymru a'r DU) ac mae'n amlinellu tueddiadau diweddar.  Mae'n cynnwys data lleol a chenedlaethol am strwythur y gweithlu, gweithgarwch economaidd, cyflogaeth ac ystadegau'r farchnad lafur ac economaidd eraill, gan gynnwys cymudo, cymwysterau'r gweithlu, strwythur busnes, perfformiad economaidd lleol, cyflogau cyfartalog a phrisiau/gwerthiannau tai.

Ar ben hynny, mae ein dudalen Ystadegau'r farchnad lafur yn cynnwys y ffigurau di-waith diweddaraf a gyhoeddir ar gyfer Abertawe.

Mae'r ystadegau cenedlaethol diweddaraf ar gyfer amrywiaeth o newidynnau allweddol y farchnad lafur a'r economi leol ar gael yn y dolenni allanol isod (Swyddfa Ystadegau Gwladol):

Mae amrywiaeth eang o wybodaeth ychwanegol ar gyfer Abertawe ac ardaloedd eraill ar gael.  Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill ynghylch ystadegau'r farchnad lafur leol a'r economi, cysylltwch â ni.

Proffil Economaidd Abertawe

Mae'r proffil yn darparu trosolwg ystadegol o farchnad lafur ac economi Abertawe gan ddefnyddio data cyhoeddedig gan ffynonellau swyddogol.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Tachwedd 2025