Proffil Economaidd Abertawe
Mae'r proffil yn darparu trosolwg ystadegol o farchnad lafur ac economi Abertawe gan ddefnyddio data cyhoeddedig gan ffynonellau swyddogol.
Mae gwybodaeth ac ystadegau ar gyfer Abertawe ar gael ar gyfer y pynciau canlynol:
- Tabl: Dangosyddion economaidd a'r farchnad lafur allweddol.
Strwythur y Gweithlu a Gweithgarwch Economaidd
- Data Arolwg Poblogaeth Blynyddol y chwarter diwethaf a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy'n cynnwys y cyfnod arolygu i fis Mawrth 2024, gan gynnwys gweithgarwch economaidd a chyfraddau cyflogaeth, ynghyd â nifer o amrywiadau allweddol eraill.
- Cyflogaeth yn ôl diwydiant: amcangyfrifon 2022 ar sail gweithle drwy Gofrestr Busnes ac Arolwg Cyflogaeth (BRES), arolwg busnes blynyddol sy'n casglu gwybodaeth am gyflogaeth.
- Cyflogaeth yn ôl Galwedigaeth: Ystadegau APS ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024.
- Diweithdra: data lleol a chenedlaethol ar nifer yr hawlwyr (ym mis Mehefin 2024) a'r amcangyfrifon diweithdra chwarterol diweddaraf yn seiliedig ar fodel (ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024). Mae ffeiliau hefyd ar gael sy'n dangos tueddiadau yn yr ystadegau hyn.
Mae mwy o ystadegau lleol a chenedlaethol wedi'u cynnwys ym mwletin chwarterol 'Ystadegau'r Farchnad Lafur' sydd ar gael ar y we-dudalen Ystadegau'r farchnad lafur.
Dangosyddion Marchnad Lafur Ychwanegol
- Cymudo: crynodeb o'r ystadegau blynyddol a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru (yn seiliedig ar ddata APB ar gyfer 2023), sy'n dangos amcan llif dyddiol i mewn ac allan o Abertawe ac ardaloedd awdurdod lleol cyfagos.
- Cymwysterau'r Gweithlu: amcangyfrifon APB blynyddol (ar gyfer 2023) sy'n dangos cyrhaeddiad addysgol y boblogaeth oed gweithio (16-64) fesul lefel FfCRh.
- Data SYG sy'n crynhoi nifer y busnesau gweithredol yn Abertawe yn 2022, nifer y busnesau a ddechreuwyd, nifer y busnesau a ddaeth i ben a chyfraddau goroesi busnes.
- GYG (Gwerth Ychwanegol Gros): Data GYG (ar gyfer 2022) a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ym mis Ebrill 2024, gan gynnwys ffigurau GYG y pen a thueddiadau diweddar (2017-2022) ar gyfer Abertawe, Cymru a'r DU.
- Incwm Gwario Gros yr Aelwyd (IGGA): Data 2021 ar gyfer Abertawe a gyhoeddwyd gan y SYG ym mis Medi 2023, gan gynnwys ffigurau IGGA y pen, tueddiadau diweddar (2016-2021) a data rhanbarthol a chenedlaethol cyfwerth.
- Enillion: canlyniadau o Arolwg Blynyddol Oriau ac Enillion y SYG - enillion wythnosol a blynyddol amser llawn gros gweithwyr mewn cyflogaeth ym mis Ebrill 2023.
- Prisiau a Gwerthiannau Tai: data prisiau tai cyfartalog ar gyfer Abertawe (o fis Mai 2024 ymlaen), yn ogystal â'r ystadegau diweddaraf ar werthiannau tai a gwblhawyd, sydd wedi'i gasglu gan y SYG/Mynegai Prisiau Tai Cofrestra Tir.
Mae'r ddogfen broffil (PDF) [1MB] gyflawn (Gorffennaf 2024) hefyd ar gael i'w gweld neu ei lanlwytho.