Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Awst

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Dangosyddion Economaidd

CDG (Cynnyrch Domestig Gros); Incwm Gwario Gros Aelwydydd; Enillion; Prisiau a Gwerthiannau Tai.

Cynnyrch Domestig Gros (CDG)

Mae amcangyfrifon Cynnyrch Domestig Gros (CDG) yn darparu mesur o faint economi a thwf economaidd ardal yn seiliedig ar werth y nwyddau a'r gwasanaethau a gynhyrchir yn ystod cyfnod penodol.  Mae amcangyfrifon blynyddol ar gael fesul gwlad, rhanbarth ac ardal leol yn y DU ym mhrisiau cyfredol y farchnad a mesuriadau cyfaint cadwynog.  Mae amcangyfrifon hyd at 2023 ar gael, gan gynnwys ar gyfer Abertawe fel rhanbarth ystadegol Lefelau Tiriogaethol Rhyngwladol (ITL) 3 ac awdurdod lleol.  Mae amcangyfrifon Gwerth Ychwanegol Gros (GYG) cytbwys ar wahân ar gael hefyd fel elfen o ddata'r CDG.

Yn Abertawe, y CDG tybiedig oedd oddeutu £7,300 miliwn yn 2023.  Roedd CDG y pen Abertawe yn £29,592, sy'n 0.9% uwchben cyfartaledd Cymru ond 24.9% islaw'r DU.  CDG y pen Abertawe yw'r uchaf o'r pedair ardal ITL3 yn ardal ITL2 'Canolbarth a De-orllewin Cymru', a'r pedwerydd uchaf o'r 12 ardal ITL3 yng Nghymru, islaw 'Sir y Fflint a Wrecsam' (£38,096), 'Caerdydd a Bro Morgannwg' (£37,759) a 'Sir Fynwy a Chasnewydd' (£31,929).

Tabl 9: Cynnyrch Domestig Gros (CDG) (Word doc, 68 KB) (yn cynnwys Ffigur 1: CDG go iawn y pen 2018-2023)

Roedd twf blynyddol rhwng 2022 a 2023 mewn 'CDG go iawn' (mesuriad cyfaint cadwynog) yr un peth yn Abertawe ac yng Nghymru, sef 0.6%, ychydig yn uwch na thwf yn y DU (+0.3%).  Fodd bynnag, dengys data'r DU dwf is na'r holl genhedloedd cyfansoddol oherwydd effaith 'Extra-Regio'.

O ran CDG go iawn y pen, mae ffigurau 2022 i 2023 yn dangos gostyngiad yn Abertawe o 1.3%, sy'n fwy na'r gostyngiadau cyfwerth yng Nghymru (-0.4%) a'r DU (-0.5%).  Dros y tymor hwy, adroddodd Abertawe, ar y cyd â rhannau eraill o'r DU, dwf negyddol yn 2020 oherwydd effaith economaidd y pandemig coronafeirws (COVID-19), gydag adferiad rhannol yn ei ddilyn yn 2021). 

 

Incwm Gwario Gros Aelwydydd

Mae'r SYG wedi cyhoeddi amcangyfrifon is-ranbarthol o Incwm Gwario Gros Aelwydydd (GDHI) hyd at 2022.  GDHI yw'r swm o arian sydd ar gael gan yr holl unigolion yn y sector aelwydydd i'w wario neu ei arbed ar ôl i fesurau dosbarthu incwm (er enghraifft trethi, cyfraniadau cymdeithasol a budd-daliadau) ddigwydd.  Yn gysyniadol mae'n adlewyrchu 'lles materol y sector aelwydydd, a'i nod yw mesur amrywiaeth economaidd a lles cymdeithasol o lefelau rhanbarthol i lefel leol.  Er bod GDHI yn werthfawr fel mesur o gyfoeth cymharol rhwng ardaloedd, nid yw'n rhoi unrhyw wybodaeth am batrymau gwario aelwydydd nac unedau teuluol.

Yn 2022, cyfanswm y GDHI ar gyfer awdurdod lleol Abertawe a'r ardal 'ITL3' oedd £4,351miliwn.  Ei ffigur GDHI y pen oedd £17,978; sydd 3.6% yn is na chyfartaledd Cymru a 21.2% yn is na lefel y DU.  Ffigur GDHI y pen Abertawe yw'r trydydd ar ddeg uchaf o blith y 22 ardal awdurdod lleol yng Nghymru; Sir Fynwy yw'r uchaf (£24,081) a Blaenau Gwent yw'r isaf (£15,568).

Mae tueddiadau diweddar yn awgrymu bod ffigur GDHI y pen Abertawe wedi cynyddu 2.2% rhwng 2021 a 2022, sy'n is na chynnydd Cymru a'r DU.  Dros y tymor hwy, fodd bynnag (y cyfnod pum mlynedd diweddaraf 2017-2022), mae twf Abertawe o 16.1% yn uwch na Chymru (+14.9%) a'r DU (+15.8%).

Tabl 10: Incwm Gwario Gros Aelwydydd (Word doc, 24 KB)

 

Enillion

Mae'r Arolwg Blynyddol o Oriau Ac Enillion (ASHE) yn darparu gwybodaeth am lefelau, dosbarthiad a chyfansoddiad enillion a'r oriau a weithiwyd gan weithwyr i lefel awdurdodau lleol.  Mae data ar gyfer diwydiannau a galwedigaethau penodol hefyd ar gael ar lefelau daearyddol uwch.

Y ffigwr enillion amser llawn wythnosol canolrifol diweddaraf ar gyfer preswylwyr yn Abertawe yw £670.60 (Ebrill 2024); sydd 2.0% yn is na ffigur Cymru ond 7.9% yn is na chyfartaledd y DU.  Yn yr arolwg hwn, mae'r ffigur enillion wythnosol amser llawn seiliedig ar weithleoedd ar gyfer Abertawe sydd wedi'i gyhoeddi yn agos iawn i'r ffigur seiliedig ar breswylwyr.

Tabl 11 a 12: Enillion wythnosol, Enillion blynyddol (Word doc, 25 KB)

Dros y cyfnod blwyddyn diweddaraf (Ebrill 2023 i Ebrill 2024), mae amcangyfrifon yr arolwg yn awgrymu bod enillion wythnosol amser llawn yn Abertawe wedi codi 4.3%, sy'n is na'r cynnydd cyfartalog yng Nghymru ac yn y DU.

Mae data enillion blynyddol hefyd ar gael gan ASHE.  Mae ffigur amser llawn canolrifol Abertawe (2024) sef £34,682, yn agos iawn at gyfartaledd Cymru, er bod y ddau ffigur isod yn is na chyfartaledd y DU (yn Abertawe o 7.3%).  Dros y flwyddyn ddiwethaf, cododd yr enillion amser llawn cyfartalog yn Abertawe 5.3%, sydd ychydig yn is na'r cynnydd cyfwerth a gafwyd yng Nghymru a'r DU.

 

Prisiau a Gwerthiannau Tai

Er bod nifer o arolygon rheolaidd o brisiau tai yn cael eu cynnal gan y prif ddarparwyr morgeisi ac ymgyngoriaethau eiddo, mae data mynegai prisiau tai'r Swyddfa Ystadegau Gwladol/y Gofrestrfa Tir (HPI) yn cofnodi'r holl eiddo preswyl a brynwyd am bris y farchnad yn y DU (ac ardaloedd lleol) ac fel arfer caiff ei ddiweddaru'n fisol.

Mae ffigurau diweddar (wedi'u haddasu'n dymhorol) ar gyfer Mai 2025 yn nodi mai'r pris gwerthu cyfartalog yn Abertawe yw £207,873; sydd 0.8% yn is na chyfartaledd Cymru a 22.6% yn is na ffigur y DU.  Mae'r data hwn, gan gynnwys y newid diweddar a'r pris cyfartalog yn ôl y math o eiddo, wedi'i grynhoi yn Nhabl 13.

Tabl 13: Prisiau tai (Word doc, 78 KB) (yn cynnwys Ffigur 2: Tueddiadau prisiau tai, y tair blynedd diwethaf)

Dangosir tueddiadau prisiau tai cyfartalog yn Abertawe dros y tair blynedd diwethaf yn y graff llinell (Ffigur 2), gyda thueddiadau cyfatebol Cymru a'r DU.  Mae'r graff yn dangos bod prisiau wedi codi'n gyson yn ystod 2022, ond maent wedi bod yn gymharol wastad yn gyffredinol ers hynny.  Mae'r bylchau mewn prisiau cyfartalog rhwng Abertawe, Cymru a'r DU wedi aros yn gymharol gyson yn ddiweddar.

Gellir cael rhagor o arwyddion o weithgarwch yn y farchnad dai leol a chenedlaethol o'r data ar nifer y trafodion neu'r gwerthiannau a gwblhawyd.  Mae Tabl 14 yn dangos y ffigurau ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ym mis Chwefror 2025 ar gyfer Abertawe, Cymru a'r DU a'r newid dros un a dwy flynedd.  Mae nifer y gwerthiannau, yn genedlaethol ac yn lleol, wedi gostwng ers 2023.

Tabl 14: Gwerthiannau Tai (Word doc, 21 KB)

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Awst 2025