Toglo gwelededd dewislen symudol

Yr Economi

Ystadegau'r farchnad lafur a'r economi ar gyfer Abertawe - gan gynnwys 'Proffil Economaidd Abertawe' a bwletin 'Ystadegau'r Farchnad Lafur'.

Dadansoddiad cryno o ystadegau lleol, economaidd a'r farchnad lafur diweddar yw Proffil Economaidd Abertawe.  Mae'r proffil, sydd yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd, yn edrych ar sut mae Abertawe'n cymharu â'r darlun cenedlaethol (Cymru a'r DU) ac mae'n amlinellu tueddiadau diweddar.  Mae'n cynnwys data lleol a chenedlaethol am strwythur y gweithlu, gweithgarwch economaidd, cyflogaeth ac ystadegau'r farchnad lafur ac economaidd eraill; gan gynnwys cymudo, cymwysterau'r gweithlu, strwythur busnes, perfformiad economaidd lleol, cyflogau cyfartalog a phrisiau/gwerthiannau tai.

Ar ben hynny, mae ein dudalen Ystadegau'r farchnad lafur yn cynnwys y ffigurau hawlwyr di-waith diweddaraf a gyhoeddir yn fisol ar gyfer Abertawe yn ogystal â bwletin chwarterol sy'n crynhoi ystadegau allweddol y farchnad lafur leol a chenedlaethol.

Mae amrywiaeth eang o wybodaeth ychwanegol ar gyfer Abertawe ac ardaloedd eraill ar gael.  Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill ynghylch ystadegau'r farchnad lafur leol a'r economi, cysylltwch â ni.

Close Dewis iaith