Ystadegau'r farchnad lafur
18 Gorffennaf 2024
Crynodeb diweddaraf nifer yr hawlwyr ac ystadegau diweithdra Dinas a Sir Abertawe yw:
Cyfanswm nifer yr hawlwyr* (13 Mehefin 2024): 5,235; Canran: 3.5%
Newid (fesul mis): +40 (+0.8%); (dros y flwyddyn): +55 (+1.1%).
Amcangyfrif diweithdra** (blwyddyn arolwg hyd at fis Mawrth 2024): 4,400; Canran: 3.6%
Newis (dros y flwyddyn): -400 (-8.3%). Cyfwng hyder 95% (blwyddyn hyd at Mawrth 2024): +/-1,200 (pobl); +/-1.0% (cyfradd).
Mae ein chwarterol diweddaraf bwletin Ystadegau'r Farchnad Lafur (PDF) [544KB] yn crynhoi'r data lleol a chenedlaethol sy'n cael eu rhyddhau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ym mis Ebrill 2024.
Mae tudalen 1 yn cynnwys crynodeb ystadegol o Farchnad Lafur Abertawe (ar gyfer cyfnod yr arolwg a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2023) a data ar nifer yr hawlwyr sy'n ddi-waith ar gyfer Dinas a Sir Abertawe, yr Ardal Teithio i'r Gwaith, yr ardaloedd etholaeth lleol a ffigurau cyfatebol ar gyfer Cymru a'r DU ar 14 Mawrth 2024, yn unol â data nifer yr hawlwyr wedi'i addasu'n dymhorol (Cymru a'r DU yn unig) ac ystadegau diweithdra cenedlaethol. Mae tudalen 2 y bwletin yn cynnwys data ar nifer yr hawlwyr ar gyfer o wardiau etholiadol Abertawe, wedi'u trefnu yn ôl eu cyfradd ddiweithdra (uchel i isel).
Mae'r ystadegau cenedlaethol diweddaraf ar gyfer amrywiaeth o newidynnau allweddol y farchnad lafur leol a'r economi ar gael ar wefan y SYG, gweler y dolenni isod:
- Marchnad Lafur y DU, gan gynnwys gweithgarwch economaidd a chyflogaeth, swyddi gwag, enillion
- Marchnad Lafur Ranbarthol - Cymru
- Chwyddiant pris defnyddwyr y DU
- Gwerthiannau manwerthu
- Cyfrifon cenedlaethol chwarterol, gan gynnwys Cynnyrch Domestig Gros.
Ceir mwy o ddata'r farchnad lafur leol a chenedlaethol ac economaidd yma Proffil Economaidd Abertawe. Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill ynghylch ystadegau'r farchnad lafur leol a'r economi, cysylltwch â ni.
Nodiadau
* Mae cyfrif hawlwyr yn mesur nifer y bobl sy'n derbyn budd-dal yn bennaf oherwydd eu bod yn ddi-waith. O fis Ebrill 2015, mae nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau wedi cynnwys yr holl hawlwyr Credyd Cynhwysol y mae'n ofynnol iddynt chwilio am waith, yn ogystal â'r holl hawlwyr Lwfans Ceisio Gwaith. Mae'r gyfradd hawlio wedi'i mynegi fel cyfran o'r boblogaeth oedran gweithio sy'n byw yma, a ddiffinnir fel yr holl bobl rhwng 16 a 64 oed. Dan CC, mae'n ofynnol i fwy o hawlwyr chwilio am waith na'r hyn sy'n ofynnol dan reolau Lwfans Ceisio Gwaith. Mae'r hawlwyr hyn yn cyfrannu at gynyddu nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau ac yn effeithio ar ei ddibynadwyedd fel dangosydd economaidd. Nid oes ganddo statws Ystadegau Gwladol mwyach ac fe'i hystyrir fel 'ystadegyn cenedlaethol sy'n cael ei ddatblygu' gan SYG.
** Seilir amcangyfrifon diweithdra sy'n seiliedig ar fodel ar Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APB) a data nifer yr hawlwyr. Mae'r amcangyfrif yn berthnasol i'r cyfnod 12 mis cyn y dyddiad a roddir. Nifer y di-waith wedi'i rannu gan y boblogaeth sy'n weithgar yn economaidd 16 oed ac yn hŷn yw'r gyfradd hon.
Ffynhonnell Ddata: Nifer yr hawlwyr a'r Arolwg Poblogaeth Blynyddol, SYG/Nomis.