Toglo gwelededd dewislen symudol

Ystadegau'r farchnad lafur

11 Tachwedd 2025

Crynodeb diweddaraf nifer yr hawlwyr ac ystadegau diweithdra ar gyfer Dinas a Sir Abertawe:

Cyfanswm nifer yr hawlwyr* (9 Hydref 2025): 5,220; Canran: 3.4%

Newid (fesul mis): +155 (+3.1%); (dros y flwyddyn): -160 (-3.0%).

Amcangyfrif diweithdra** (blwyddyn arolwg hyd at fis Mehefin 2025): 6,900; Canran: 5.9% 

Newis (dros y flwyddyn): +2,700 (+64.3%).  Cyfwng hyder 95% (blwyddyn hyd at Mehefin 2025): +/-1,900 (pobl); +/-1.7% (cyfradd).

Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) a Nomis. 

 

Mae'r dudalen hon hefyd yn cynnwys tablau a graffiau sy'n dangos dueddiadau diweithdra hawlwyr yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf a'r 24 mlynedd diwethaf yn Abertawe, yng Nghymru ac yn y DU, yn ogystal â thueddiadau lleol a chenedlaethol fel rhan o fesur ehangach wedi'i seilio ar arolwg o ddiweithdra (gan gynnwys amcangyfrifon wedi'u seilio ar fodel i Abertawe).

Ceir mwy o ddata'r farchnad lafur leol a chenedlaethol ac economaidd yma Proffil Economaidd Abertawe. Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill ynghylch ystadegau'r farchnad lafur leol a'r economi, cysylltwch â ni.


Nodiadau

* Mae cyfrif hawlwyr yn mesur nifer y bobl sy'n derbyn budd-dal yn bennaf oherwydd eu bod yn ddi-waith.  O fis Ebrill 2015, mae nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau wedi cynnwys yr holl hawlwyr Credyd Cynhwysol y mae'n ofynnol iddynt chwilio am waith, yn ogystal â'r holl hawlwyr Lwfans Ceisio Gwaith.  Mae'r gyfradd hawlio wedi'i mynegi fel cyfran o'r boblogaeth oedran gweithio sy'n byw yma, a ddiffinnir fel yr holl bobl rhwng 16 a 64 oed. 

Dan CC, mae'n ofynnol i fwy o hawlwyr chwilio am waith na'r hyn sy'n ofynnol dan reolau Lwfans Ceisio Gwaith.  Mae'r hawlwyr hyn yn cyfrannu at gynyddu nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau ac yn effeithio ar ei ddibynadwyedd fel dangosydd economaidd. Nid oes ganddo statws Ystadegau Gwladol mwyach a chaiff ei ystyried fel 'ystadegau swyddogol sy'n cael eu datblygu' gan y SYG.

** Seilir amcangyfrifon diweithdra sy'n seiliedig ar fodel ar Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APB) a data nifer yr hawlwyr.  Mae'r amcangyfrif yn berthnasol i'r cyfnod 12 mis cyn y dyddiad a roddir.  Nifer y di-waith wedi'i rannu gan y boblogaeth sy'n weithgar yn economaidd 16 oed ac yn hŷn yw'r gyfradd hon.

Mae'r SYG wedi bod yn wynebu her oherwydd gostyngiad mewn cyfraddau ymateb ar gyfer arolygon aelwydydd, gan gynnwys yr Arolwg o'r Llafurlu (LFS) a'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (APS). Er yr ystyrir bod ansawdd yr APS yn gadarn ar gyfer amcangyfrifon cenedlaethol a phrif amcangyfrifon rhanbarthol, mae pryderon ynghylch ansawdd yr amcangyfrifon ar gyfer awdurdodau lleol.  Felly, mae allbynnau SYG a gynhyrchir gan ddefnyddio data'r APS, gan gynnwys yr amcangyfrifon diweithdra yn seiliedig ar fodel, yn cael eu hystyried ar hyn o bryd fel 'ystadegau swyddogol sy'n cael eu datblygu'.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Tachwedd 2025