Toglo gwelededd dewislen symudol

Dangosyddion Economaidd

CDG (Cynnyrch Domestig Gros); Incwm Gwario Gros Aelwydydd; Enillion; Prisiau a Gwerthiannau Tai.

Cynnyrch Domestig Gros (CDG)

Mae amcangyfrifon Cynnyrch Domestig Gros (CDG) yn darparu mesur o faint economi a thwf economaidd ardal yn seiliedig ar werth y nwyddau a'r gwasanaethau a gynhyrchir yn ystod cyfnod penodol.  Mae amcangyfrifon blynyddol ar gael fesul gwlad, rhanbarth ac ardal leol yn y DU ym mhrisiau cyfredol y farchnad a mesuriadau cyfaint cadwynog.  Mae amcangyfrifon hyd at 2023 ar gael, gan gynnwys ar gyfer Abertawe fel rhanbarth ystadegol Lefelau Tiriogaethol Rhyngwladol (ITL) 3 ac awdurdod lleol.  Mae amcangyfrifon Gwerth Ychwanegol Gros (GYG) cytbwys ar wahân ar gael hefyd fel elfen o ddata'r CDG.

Yn Abertawe, y CDG tybiedig oedd oddeutu £7,300 miliwn yn 2023.  Roedd CDG y pen Abertawe yn £29,592, sy'n 0.9% uwchben cyfartaledd Cymru ond 24.9% islaw'r DU.  CDG y pen Abertawe yw'r uchaf o'r pedair ardal ITL3 yn ardal ITL2 'Canolbarth a De-orllewin Cymru', a'r pedwerydd uchaf o'r 12 ardal ITL3 yng Nghymru, islaw 'Sir y Fflint a Wrecsam' (£38,096), 'Caerdydd a Bro Morgannwg' (£37,759) a 'Sir Fynwy a Chasnewydd' (£31,929).

Tabl 9: Cynnyrch Domestig Gros (CDG) (Word doc, 68 KB) (yn cynnwys Ffigur 1: CDG go iawn y pen 2018-2023)

Roedd twf blynyddol rhwng 2022 a 2023 mewn 'CDG go iawn' (mesuriad cyfaint cadwynog) yr un peth yn Abertawe ac yng Nghymru, sef 0.6%, ychydig yn uwch na thwf yn y DU (+0.3%).  Fodd bynnag, dengys data'r DU dwf is na'r holl genhedloedd cyfansoddol oherwydd effaith 'Extra-Regio'.

O ran CDG go iawn y pen, mae ffigurau 2022 i 2023 yn dangos gostyngiad yn Abertawe o 1.3%, sy'n fwy na'r gostyngiadau cyfwerth yng Nghymru (-0.4%) a'r DU (-0.5%).  Dros y tymor hwy, adroddodd Abertawe, ar y cyd â rhannau eraill o'r DU, dwf negyddol yn 2020 oherwydd effaith economaidd y pandemig coronafeirws (COVID-19), gydag adferiad rhannol yn ei ddilyn yn 2021). 

 

Incwm Gwario Gros Aelwydydd

Mae'r SYG wedi cyhoeddi amcangyfrifon is-ranbarthol o Incwm Gwario Gros Aelwydydd (GDHI) hyd at 2023.  GDHI yw'r swm o arian sydd ar gael gan yr holl unigolion yn y sector aelwydydd i'w wario neu ei arbed ar ôl i fesurau dosbarthu incwm (er enghraifft trethi, cyfraniadau cymdeithasol a budd-daliadau) ddigwydd.  Yn gysyniadol mae'n adlewyrchu 'lles materol y sector aelwydydd, a'i nod yw mesur amrywiaeth economaidd a lles cymdeithasol o lefelau rhanbarthol i lefel leol.  Er bod GDHI yn werthfawr fel mesur o gyfoeth cymharol rhwng ardaloedd, nid yw'n rhoi unrhyw wybodaeth am batrymau gwario aelwydydd nac unedau teuluol.

Yn 2023, cyfanswm y GDHI ar gyfer awdurdod lleol Abertawe a'r ardal 'ITL3' oedd £4,726miliwn.  Ei ffigur GDHI y pen oedd £19,152; sydd 4.9% yn is na chyfartaledd Cymru a 22.9% yn is na lefel y DU.  Ffigur GDHI y pen Abertawe yw'r deunawfed uchaf o blith y ardal awdurdod lleol yng Nghymru; Sir Fynwy yw'r uchaf (£26,030) a Blaenau Gwent yw'r isaf (£16,611).

Mae tueddiadau diweddar yn awgrymu bod ffigur GDHI y pen Abertawe wedi cynyddu 5.7% rhwng 2022 a 2023, sy'n is na chynnydd Cymru a'r DU.  Yn y tymor hwy (y cyfnod diweddaraf o bum mlynedd o 2018 i 2023), mae twf Abertawe, sef 20.9%, eto'n is na chanrannau Cymru (+22.3%) a'r DU (+25.3%).

Tabl 10: Incwm Gwario Gros Aelwydydd (Word doc, 25 KB)

 

Enillion

Mae'r Arolwg Blynyddol o Oriau Ac Enillion (ASHE) yn darparu gwybodaeth am lefelau, dosbarthiad a chyfansoddiad enillion a'r oriau a weithiwyd gan weithwyr i lefel awdurdodau lleol.  Mae data ar gyfer diwydiannau a galwedigaethau penodol hefyd ar gael ar lefelau daearyddol uwch.

Y ffigwr enillion amser llawn wythnosol canolrifol diweddaraf ar gyfer preswylwyr yn Abertawe yw £718.80 (Ebrill 2025); sydd 0.1% yn is na ffigur Cymru ond 6.2% yn is na chyfartaledd y DU.  Yn yr arolwg hwn, mae'r ffigur enillion wythnosol amser llawn sy'n seiliedig ar weithleoedd a gyhoeddwyd ar gyfer Abertawe ychydig yn is na'r ffigur sy'n seiliedig ar breswylwyr.

Tabl 11 a 12: Enillion wythnosol, Enillion blynyddol (Word doc, 26 KB)

Dros y cyfnod diweddaraf o flwyddyn (Ebrill 2024 i Ebrill 2025), mae amcangyfrifon yr arolwg yn awgrymu bod enillion wythnosol amser llawn yn Abertawe wedi cynyddu 7.1%, sy'n is na'r cynnydd cyfartalog yng Nghymru ac yn y DU.

Mae data enillion blynyddol hefyd ar gael gan ASHE.  Mae ffigur amser llawn canolrifol Abertawe (2025), sef £36,586, yn agos at gyfartaledd Cymru, er bod ffigurau Abertawe a Chymru yn is na chyfartaledd y DU (mae ffigur Abertawe 7.4% yn is). Dros y flwyddyn ddiwethaf, cynyddodd yr enillion amser llawn cyfartalog yn Abertawe 5.5%, sydd ychydig yn uwch na'r cynnydd cyfatebol a gafwyd yng Nghymru a'r DU.

 

Prisiau a Gwerthiannau Tai

Er bod nifer o arolygon rheolaidd o brisiau tai yn cael eu cynnal gan y prif ddarparwyr morgeisi ac ymgyngoriaethau eiddo, mae data mynegai prisiau tai'r Swyddfa Ystadegau Gwladol/y Gofrestrfa Tir (HPI) yn cofnodi'r holl eiddo preswyl a brynwyd am bris y farchnad yn y DU (ac ardaloedd lleol) ac fel arfer caiff ei ddiweddaru'n fisol.

Mae ffigurau diweddar (wedi'u haddasu'n dymhorol) ar gyfer Awst 2025 yn nodi mai'r pris gwerthu cyfartalog yn Abertawe yw £210,836; sydd 0.2% yn is na chyfartaledd Cymru a 22.8% yn is na ffigur y DU.  Mae'r data hwn, gan gynnwys y newid diweddar a'r pris cyfartalog yn ôl y math o eiddo, wedi'i grynhoi yn Nhabl 13.

Tabl 13: Prisiau tai (Word doc, 55 KB) (yn cynnwys Ffigur 2: Tueddiadau prisiau tai, y tair blynedd diwethaf)

Dangosir tueddiadau prisiau tai cyfartalog yn Abertawe dros y tair blynedd diwethaf yn y graff llinell (Ffigur 2), gyda thueddiadau cyfatebol Cymru a'r DU.  Mae'r graff yn dangos bod prisiau wedi bod yn gymharol wastad yn gyffredinol ers 2022. Mae'r bylchau o ran prisiau cyfartalog rhwng Abertawe, Cymru a'r DU hefyd wedi aros yn sefydlog yn gyffredinol yn ddiweddar, er bod y bwlch rhwng Abertawe a Chymru wedi lleihau.

Gellir cael rhagor o arwyddion o weithgarwch yn y farchnad dai leol a chenedlaethol o'r data ar nifer y trafodion neu'r gwerthiannau a gwblhawyd.  Mae Tabl 14 yn dangos y ffigurau ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ym mis Mai 2025 ar gyfer Abertawe, Cymru a'r DU a'r newid dros un a dwy flynedd.  Mae nifer y gwerthiannau wedi lleihau ers 2023.

Tabl 14: Gwerthiannau Tai (Word doc, 21 KB)

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Tachwedd 2025