Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyflwyniad a chrynodeb

Dangosyddion economaidd a'r farchnad lafur allweddol.

Mae Proffil Economaidd Abertawe yn darparu trosolwg ystadegol o farchnad lafur ac economi Abertawe ac mae'n cynnwys data a gyhoeddwyd yn ddiweddar o amrywiaeth o ffynonellau cenedlaethol swyddogol.  Mae'n cynnwys y setiau data allweddol sydd ar gael ar lefel awdurdod lleol ac yn awgrymu sut mae Abertawe yn cymharu â Chymru a'r DU neu Brydain.  Fodd bynnag, bydd y dangosyddion a gynhwysir yn adlewyrchu dyddiadau a chyfnodau amser gwahanol.

Mae'r wybodaeth hon, sy'n cael ei diweddaru wrth i ddata newydd ddod i law, yn anelu at gyflwyno darlun cyffredinol o strwythur a pherfformiad yr economi leol gan ddefnyddio'r data diweddaraf sydd ar gael. Mae'r adroddiad hefyd yn amlinellu tueddiadau fel sy'n briodol, yn gyffredinol dros un flwyddyn ond hefyd yn y tymor hwy.

Mae Tabl 1 yn darparu crynodeb cyffredinol o'r dangosyddion allweddol a ddefnyddiwyd yn y proffil, sef y gwerthoedd diweddaraf ar gyfer Abertawe, Cymru a'r DU neu Brydain; y gwerthoedd wedi'u mynegeio yn erbyn cyfartaledd cenedlaethol (lle bo'n berthnasol); a'r newid canrannol blynyddol.  Mae mwy o fanylion yn yr adrannau unigol.

 

Tabl 1: Dangosyddion economaidd a'r farchnad lafur allweddol
DangosyddArdalGwerth diweddarafMynegai (DU/PF=100)newid % blynyddol

Cyfradd Gweithgarwch Economaidd

(oed gweithio, cyfnod hyd at Meh-25)

Abertawe

Cymru

Y DU

73.2%

75.9%

78.7%

93

96

100

-0.4%

+1.0%

+0.9%

Cyfradd cyflogaeth

(oed gweithio, cyfnod hyd at Meh-25)

Abertawe

Cymru

Y DU

67.0%

72.7%

75.4%

89

96

100

-5.0%

-0.1%

+0.6%

Gweithwyr 

(amcangyfrifon gweithle, 2024)

Abertawe

Cymru

Prydain

108,000

1,291,000

31,476,000

n/a

n/a

n/a

0.0%

-0.7%

+0.5%

Cyfradd Diweithdra 

(wedi'i modelu, cyfnod hyd at Meh-25)

Abertawe

Cymru

Y DU

5.9%

4.1%

4.0%

148

103

100

+64.3%

+30.7%

+9.9%

Stociau busnes

(busnesau gweithredol, 2023)

Abertawe

Cymru

Y DU

7,290

102,215

2,870,295

n/a

n/a

n/a

-1.4%

-2.2%

-1.9%

CDG y pen (2023)

(Cynnyrch Domestig Gros)

Abertawe

Cymru

Y DU

£29,592

£29,316

£39,403

75

74

100

-1.3%

-0.4%

-0.5%

GDHI y pen (2023)

(Incwm Gwario Gros Aelwydydd)

Abertawe

Cymru

Y DU

£19,152

£20,140

£24,836

77

81

100

+5.7%

+6.8%

+8.4%

Enillion

(wythnosol gros amser llawn, 2025)

Abertawe

Cymru

Y DU

£718.80

£719.30

£766.60

94

94

100

+7.1%

+5.0%

+5.3%

Prisiau tai

(pris gwerthu cyfartalog, Awst-25)

Abertawe

Cymru

Y DU

£210,836

£211,361

£272,995

77

77

100

+5.5%

+2.0%

+3.0%

Trafodion tai

(y chwarter a ddaeth i ben Mai-25)

Abertawe

Cymru

Y DU

562

7,280

182,314

n/a

n/a

n/a

-13.3%

-15.6%

-9.2%

 

Nodiadau:

  i.  Mae'r ffigurau 'newid % blynyddol' ar gyfer cyfradd gweithgarwch economaidd, cyfradd cyflogaeth a chyfradd diweithdra yn cyfeirio at newidiadau dros y cyfnod yn niferoedd y rheini sy'n weithgar yn economaidd, yn gyflogedig ac yn ddi-waith, yn hytrach na newidiadau yn y cyfraddau.

 ii.  Gan nad oes modd cymharu'r ffigurau cenedlaethol a lleol ar gyfer gweithwyr, trafodion stociau busnes a thai yn uniongyrchol, ni ddarperir gwerthoedd mynegai (lle mae'r DU = 100).

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Tachwedd 2025