Toglo gwelededd dewislen symudol

Proffil Economaidd Abertawe

Mae'r proffil yn darparu trosolwg ystadegol o farchnad lafur ac economi Abertawe gan ddefnyddio data cyhoeddedig gan ffynonellau swyddogol.

Mae gwybodaeth ac ystadegau ar gyfer Abertawe ar gael ar gyfer y pynciau canlynol:

Cyflwyniad a chrynodeb

  • Tabl:  Dangosyddion economaidd a'r farchnad lafur allweddol.

Strwythur y Gweithlu a Gweithgarwch Economaidd

  • Data Arolwg Poblogaeth Blynyddol y chwarter diwethaf a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy'n cynnwys y cyfnod arolygu i fis Medi 2023, gan gynnwys gweithgarwch economaidd a chyfraddau cyflogaeth, ynghyd â nifer o amrywiadau allweddol eraill.

Cyflogaeth

  • Cyflogaeth yn ôl diwydiant: amcangyfrifon 2022 ar sail gweithle drwy Gofrestr Busnes ac Arolwg Cyflogaeth (BRES), arolwg busnes blynyddol sy'n casglu gwybodaeth am gyflogaeth.
  • Cyflogaeth yn ôl Galwedigaeth: Ystadegau APS ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben ym mis Medi 2023.
  • Diweithdra: data lleol a chenedlaethol ar nifer yr hawlwyr (ym mis Rhagfyr 2023) a'r amcangyfrifon diweithdra chwarterol diweddaraf yn seiliedig ar fodel (ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben ym mis Medi 2023).  Mae ffeiliau hefyd ar gael sy'n dangos tueddiadau yn yr ystadegau hyn.

Mae mwy o ystadegau lleol a chenedlaethol wedi'u cynnwys ym mwletin chwarterol 'Ystadegau'r Farchnad Lafur' sydd ar gael ar y we-dudalen Ystadegau'r farchnad lafur.

Dangosyddion Marchnad Lafur Ychwanegol

  • Cymudo: crynodeb o'r ystadegau blynyddol a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru (yn seiliedig ar ddata APB ar gyfer 2022), sy'n dangos amcan llif dyddiol i mewn ac allan o Abertawe ac ardaloedd awdurdod lleol cyfagos.
  • Cymwysterau'r Gweithlu: amcangyfrifon APB blynyddol (ar gyfer 2022) sy'n dangos cyrhaeddiad addysgol y boblogaeth oed gweithio (16-64) fesul lefel FfCRh.

Gweithgaredd Busnes

  • Data SYG sy'n crynhoi nifer y busnesau gweithredol yn Abertawe yn 2022, nifer y busnesau a ddechreuwyd, nifer y busnesau a ddaeth i ben a chyfraddau goroesi busnes. 

Dangosyddion Economaidd

  • GYG (Gwerth Ychwanegol Gros): Data GYG (ar gyfer 2021) a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ym mis Ebrill 2023, gan gynnwys ffigurau GYG y pen a thueddiadau diweddar (2016-2021) ar gyfer Abertawe, Cymru a'r DU.
  • Incwm Gwario Gros yr Aelwyd (IGGA): Data 2021 ar gyfer Abertawe a gyhoeddwyd gan y SYG ym mis Medi 2023, gan gynnwys ffigurau IGGA y pen, tueddiadau diweddar (2016-2021) a data rhanbarthol a chenedlaethol cyfwerth.
  • Enillion: canlyniadau o Arolwg Blynyddol Oriau ac Enillion y SYG - enillion wythnosol a blynyddol amser llawn gros gweithwyr mewn cyflogaeth ym mis Ebrill 2023.
  • Prisiau a Gwerthiannau Tai: data prisiau tai cyfartalog ar gyfer Abertawe (o fis Tachwedd 2023 ymlaen), yn ogystal â'r ystadegau diweddaraf ar werthiannau tai a gwblhawyd, sydd wedi'i gasglu gan y SYG/Mynegai Prisiau Tai Cofrestra Tir.

Mae'r ddogfen broffil (PDF) [1MB] gyflawn (Ionawr 2024) hefyd ar gael i'w gweld neu ei lanlwytho.

Cyflwyniad a chrynodeb

Dangosyddion economaidd a'r farchnad lafur allweddol.

Strwythur y Gweithlu a Gweithgarwch Economaidd

Data'r Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APB).

Cyflogaeth

Cyflogaeth yn ôl diwydiant; Cyflogaeth yn ôl Galwedigaeth; Diweithdra.

Dangosyddion Economaidd

GYC (Gwerth Ychwanegol Crynswth); Incwm Gwario Gros Aelwydydd; Enillion; Prisiau a Gwerthiannau Tai.