Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyflogaeth

Gweithwyr yn ôl diwydiant; Cyflogaeth yn ôl Galwedigaeth; Diweithdra.

Gweithwyr yn ôl diwydiant

Mae amcangyfrifon cyflogaeth yn y gweithle ar gael drwy'r Gofrestr Busnes ac Arolwg Cyflogaeth (BRES), sef arolwg busnes blynyddol a gynhelir gan SYG sy'n casglu gwybodaeth am gyflogaeth.  Mae data BRES ar gael ar hyn o bryd ar gyfer y blynyddoedd 2009 i 2023.

Mae gan economi Abertawe gyfran fawr o weithwyr yn ôl cyfran yn y sectorau gweinyddiaeth gyhoeddus, iechyd, addysg, gwasanaethau ariannol a manwerthu. O'r 108,000 o weithwyr yn Abertawe (2023), amcangyfrifir bod 88.9% (96,000) wedi'u cyflogi yn y sectorau gwasanaeth (SICs G-U yn y tabl isod), gyda 30.4% (32,800) yn gweithio o fewn y sector cyhoeddus. Yng Nghymru, mae cyfran y gweithwyr yn y sectorau gwasanaeth yn is, sef 81.7%, gyda 25.6% yn y sector cyhoeddus. Mae'r sectorau gweithgynhyrchu ac adeiladu yn Abertawe'n cyflogi cyfanswm o 11,000 o bobl yn fras, gyda chyfran y gweithwyr gweithgynhyrchu islaw'r cyfartaledd ar gyfer Cymru a Phrydain Fawr.

Tabl 3: Gweithwyr (amcangyfrifon yn seiliedig ar weithleoedd) (Word doc, 25 KB)

Mae gan economi Abertawe gyfran fawr o weithwyr yn ôl cyfran yn y sectorau gweinyddiaeth gyhoeddus, iechyd, addysg, gwasanaethau ariannol a manwerthu. O'r 108,000 o weithwyr yn Abertawe (2023), amcangyfrifir bod 88.9% (96,000) wedi'u cyflogi yn y sectorau gwasanaeth (SICs G-U yn y tabl isod), gyda 30.4% (32,800) yn gweithio o fewn y sector cyhoeddus. Yng Nghymru, mae cyfran y gweithwyr yn y sectorau gwasanaeth yn is, sef 81.7%, gyda 25.6% yn y sector cyhoeddus. Mae'r sectorau gweithgynhyrchu ac adeiladu yn Abertawe'n cyflogi cyfanswm o 11,000 o bobl yn fras, gyda chyfran y gweithwyr gweithgynhyrchu islaw'r cyfartaledd ar gyfer Cymru a Phrydain Fawr.

 

Cyflogaeth yn ôl Galwedigaeth

Gan ddefnyddio'r amcangyfrifon diweddaraf sy'n seiliedig ar breswylwyr o'r Arolwg Poblogaeth Blynyddol, mae dadansoddi cyflogaeth yn ôl galwedigaeth yn tueddu i adlewyrchu rôl Abertawe fel canolfan gwasanaethau rhanbarthol. Mae cyfrannau uwch (na Chymru) wedi'u cyflogi mewn galwedigaethau sy'n gysylltiedig â'r sector gwasanaethu, gan gynnwys swyddi gweinyddol/ysgrifenyddol, gofal/hamdden a gwerthu/gwasanaethau cwsmeriaid.  Mae'r data cyfatebol ar gyfer y gweithle yn Abertawe yn dangos amrywiad gyda ffigurau sy'n seiliedig ar breswylfeydd mewn rhai categorïau ond patrwm cyffredinol tebyg ar y cyfan.

Tabl 4: Cyflogaeth yn ôl Galwedigaeth (Word doc, 27 KB)

 

Diweithdra

Mae ffigurau diweithdra (y cyfrif gweinyddol a'r cyfrif sy'n seiliedig ar arolwg) yn ddangosyddion o berfformiad y farchnad lafur leol a ddefnyddir yn helaeth.  Mae nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau ym mis Mawrth 2025 - holl hawlwyr y Lwfans Ceisio Gwaith (JSA),   a hawlwyr Credyd Cynhwysol (UC) y mae'n ofynnol iddynt chwilio am waith - a'r amcangyfrifon o ddiweithdra sy'n seiliedig ar fodel (ar gyfer cyfnod yr arolwg a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2024), ynghyd â'r newid diweddar, i'w gweld yn y tabl 5.

Tabl 5: Diweithdra (Word doc, 26 KB)

Yn Abertawe, mae ffigurau nifer yr hawlwyr fesul ward (Mawrth 2025) yn dangos bod nifer o ardaloedd lleol yn profi cyfraddau sylweddol uwch na chyfartaledd Abertawe (3.4%); yn arbennig Townhill (7.2%), Y Castell (6.7%), Penderi (6.5%), a Glandŵr (5.3%).  Y gyfradd isaf yw Llangyfelach (1.0%).

 

Mae'r we-dudalen hon hefyd yn cynnwys tablau a graffiau sy'n dangos dueddiadau diweithdra hawlwyr yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf a'r 24 mlynedd diwethaf yn Abertawe, yng Nghymru ac yn y DU, yn ogystal â thueddiadau lleol a chenedlaethol fel rhan o fesur ehangach wedi'i seilio ar arolwg o ddiweithdra (gan gynnwys amcangyfrifon wedi'u seilio ar fodel i Abertawe).

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 01 Mai 2025