Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyflogaeth

Gweithwyr yn ôl diwydiant; Cyflogaeth yn ôl Galwedigaeth; Diweithdra.

Gweithwyr yn ôl diwydiant

Mae amcangyfrifon cyflogaeth yn y gweithle ar gael drwy'r Gofrestr Busnes ac Arolwg Cyflogaeth(BRES), sef arolwg busnes blynyddol a gynhelir gan SYG sy'n casglu gwybodaeth am gyflogaeth.  Mae data BRES ar gael ar hyn o bryd ar gyfer y blynyddoedd 2009 i 2024.

Mae gan economi Abertawe gyfran fawr o weithwyr yn ôl cyfran yn y sectorau gweinyddiaeth gyhoeddus, iechyd, addysg, gwasanaethau ariannol a manwerthu. O'r 108,000 o weithwyr yn Abertawe (2024), amcangyfrifir bod 88.9% (96,000) wedi'u cyflogi yn y sectorau gwasanaeth (SICs G-U yn y tabl isod), gyda 31.3% (33,700) yn gweithio o fewn y sector cyhoeddus. Yng Nghymru, mae cyfran y gweithwyr yn y sectorau gwasanaeth yn is, sef 82.0%, gyda 26.2% yn y sector cyhoeddus. Mae'r sectorau gweithgynhyrchu ac adeiladu yn Abertawe'n cyflogi cyfanswm o 9,500 o bobl yn fras, gyda chyfran y gweithwyr gweithgynhyrchu islaw'r cyfartaledd ar gyfer Cymru a Phrydain Fawr.

Tabl 3: Gweithwyr (amcangyfrifon yn seiliedig ar weithleoedd) (Word doc, 25 KB)

Mae'r amcangyfrifon yn awgrymu bod cyfanswm y gweithwyr yn Abertawe wedi aros yn ddigyfnewid rhwng 2023 a 2024, a bod y cyfanswm wedi lleihau yng Nghymru (-0.7%) ac wedi cynyddu ym Mhrydain Fawr (+0.5%). Ni newidiodd nifer y gweithwyr yn y sectorau gwasanaethau (SICs G-U) yn Abertawe dros y flwyddyn. Amcangyfrifwyd bod cynnydd bach ym meysydd iechyd a gweinyddiaeth gyhoeddus wedi'i wrthbwyso'n rhannol gan ostyngiadau yn y sectorau llety a gweinyddu busnes. Dros gyfnod hwy (2019-2024), gostyngodd cyfanswm y gweithwyr yn Abertawe 2,000 (1.8%); wrth i'r cyfansymiau cyfwerth gynyddu yng Nghymru (+1.7%) a PF (+4.7%). Eto, mae'r newidiadau tymor hwy hyn yn cynnwys gwahaniaethau sy'n seiliedig ar y sector, ond ni fu llawer o newid yn Abertawe yn unrhyw un o'r sectorau bras yn ystod y cyfnod o bum mlynedd.

 

Cyflogaeth yn ôl Galwedigaeth

Gan ddefnyddio'r amcangyfrifon diweddaraf sy'n seiliedig ar breswylwyr o'r Arolwg Poblogaeth Blynyddol, mae dadansoddi cyflogaeth yn ôl galwedigaeth yn tueddu i adlewyrchu rôl Abertawe fel canolfan gwasanaethau rhanbarthol. Mae cyfrannau uwch (na Chymru) wedi'u cyflogi mewn galwedigaethau sy'n gysylltiedig â'r sector gwasanaeth, gan gynnwys gofalu/hamdden, gwerthu/gwasanaethau cwsmeriaid a galwedigaethau elfennol.  Mae'r data cyfatebol ar gyfer y gweithle yn Abertawe yn dangos amrywiad gyda ffigurau sy'n seiliedig ar breswylfeydd mewn rhai categorïau ond patrwm cyffredinol tebyg ar y cyfan.

Tabl 4: Cyflogaeth yn ôl Galwedigaeth (Word doc, 27 KB)

 

Diweithdra

Mae ffigurau diweithdra (y cyfrif gweinyddol a'r cyfrif sy'n seiliedig ar arolwg) yn ddangosyddion o berfformiad y farchnad lafur leol a ddefnyddir yn helaeth.  Mae nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau ym mis Hydref 2025 a'r amcangyfrifon o ddiweithdra sy'n seiliedig ar fodel ar gyfer cyfnod yr arolwg a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025, ynghyd â'r newid diweddar, i'w gweld yn y tabl 5.

Tabl 5: Diweithdra (Word doc, 27 KB)

Yn Abertawe, mae ffigurau nifer yr hawlwyr fesul ward (Hydref 2025) yn dangos bod nifer o ardaloedd lleol yn profi cyfraddau sylweddol uwch na chyfartaledd Abertawe (3.4%); yn arbennig Townhill (7.1%), Y Castell (6.4%), Penderi (6.3%), a Glandŵr (4.5%).  Y gyfradd isaf yw Mayals (0.9%).

 

Mae'r we-dudalen hon hefyd yn cynnwys tablau a graffiau sy'n dangos dueddiadau diweithdra hawlwyr yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf a'r 24 mlynedd diwethaf yn Abertawe, yng Nghymru ac yn y DU, yn ogystal â thueddiadau lleol a chenedlaethol fel rhan o fesur ehangach wedi'i seilio ar arolwg o ddiweithdra (gan gynnwys amcangyfrifon wedi'u seilio ar fodel i Abertawe).

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Tachwedd 2025