Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud
Gwybodaeth am strwythur y cyngor a sut y mae'n gweithredu.
Ein cyfansoddiad
Amlinella fframwaith cyfansoddiad y cyngor sut rydym yn gweithredu a sut gwneir penderfyniadau yn unol â'r prosesau sydd i'w dilyn er mwyn sicrhau bod penderfyniadau a gweithrediadau yn effeithiol, yn dryloyw ac yn atebol i bobl leol.
Cyfansoddiad y cyngor (modern.gov) (Yn agor ffenestr newydd)
Strwythur democrataidd y Cyngor (gwleidyddol)
Cyfansoddwyd y cyngor o 72 aelod wedi'u hethol (y cynghorwyr) o ystod o bleidiau gwleidyddol a nhw yw'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau, yn cytuno ar bolisïau ac yn blaenoriaethu gwariant ariannol y cyngor. Eich cynghorwyr (modern.gov) (Yn agor ffenestr newydd)
Etholir arweinydd y cyngor gan y cyngor ei hun, ac ef/hi sy'n arwain y cabinet.
Cyfansoddwyd y cabinet o'r arweinydd a 9 o gynghorwyr a apwyntir i'r cabinet.
Caiff yr arglwydd faer ei benodi yn flynyddol gan y cyngor.
Rheolaeth y Cyngor a Strwythur y Cyfarwyddiaethau (rheolaeth bob dydd)
Strwythur yr uwch-dîm rheoli (PDF, 113 KB)
Canlyniadau'r etholiad diweddaraf
Gweld canlyniadau'r etholiad diweddaraf yn Abertawe.
Cynghorau cymuned a thref
Cynghorau cymuned a thref - manylion cyswllt (modern.gov) (Yn agor ffenestr newydd)
Gweithio gyda chyrff annibynnol
Er mwyn i'r cyngor allu cynnal partneriaethau effeithiol gyda chyrff annnibynnol sy'n effeithio ar wasanaethau'r cyngor, eistedda gynrychiolwyr y cyngor (fel arfer cynghorwyr etholedig) ar y pwyllgorau a fforymau gwahanol sy'n gyfrifol amdanynt. Cyrff allanol (modern.gov) (Yn agor ffenestr newydd)
Canolfan Gyswllt
Lleolir y Ganolfan Gyswllt yn y Ganolfan Ddinesig ac mae'n darparu siop dan yr unto i breswylwyr sydd am gyflawni sawl tasg wahanol, yn cynnwys talu am Dreth y Cyngor. Pan nad yw cyswllt personol yn angenrheidiol, darparwn nifer helaeth o wasanaethau ar-lein.