
Gwerthwch anrhegion dieisiau neu eu rhoi i rywun arall
Mae'n bosib y bydd rhywun arall wrth ei fodd â'ch eitemau dieisiau. Mae llawer o wefannau'n rhoi cyfle i chi werthu, cyfnewid neu roi eitemau.
Gallwch ddefnyddio gwefannau megis:
- ebayYn agor mewn ffenest newydd
- GumtreeYn agor mewn ffenest newydd
- freecycleYn agor mewn ffenest newydd
- freegleYn agor mewn ffenest newydd
Gallwch werthu eitemau mewn arwerthiant cist car hefyd, eu rhoi i siop elusen neu eu rhoi i'n siop ailddenfyddio yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Llansamlet.
Mae nifer o sefydliadau ailddefnyddio yn Abertawe sy'n derbyn pob math o eitemau diangen, a bydd rhai ohonynt yn casglu oddi wrthych hefyd:
- Sefydliad Prydeinig y Galon - ar gyfer eitemau dodrefn a thrydanol, ffoniwch 0808 250 0030 neu, ar gyfer siopau'r Stryd Fawr, ffoniwch 0808 250 0024. Fel arall, gallwch drefnu casgliad am ddim ar-leinYn agor mewn ffenest newydd.
- Cynllun Celfi Caer Las 01792 653553
- H Phillips Electricals 01792 773039 / 01792 411039
- Local Aid 01792 794673 / 01792 655771
- More Green Recycling 01792 466102 neu 07967 421662
- YMCA Abertawe 01792 466240