Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Ffioedd claddu ac amlosgi

Manylion costau claddedigaethau ac amlosgiadau yn ein mynwentydd a'n hamlosgfa.

Os na welwch y ffioedd sy'n berthnasol i chi isod, cysylltwch â Claddedigaethau ac amlosgiadau

Does dim claddedigaethau nac amlosgiadau ar ŵyl banc (ac eithrio diwrnod statudol adeg y Nadolig - 27 Rhagfyr fel arfer).

Gwasanaethau amlosgi

Ffïoedd amlosgi ychwanegol

Ffïoedd coffáu

Ffïoedd ar gyfer claddedigaethau eirch

Ffïoedd ar gyfer claddu llwch

Ffïoedd claddu ychwanegol

Ffïoedd hawlen carreg goffa

 

Ffïoedd ar gyfer gwasanaethau amlosgi
Math o wasanaethFfi

Gwasanaeth safonol

  • Dydd Llun i ddydd Gwener 10.30am tan 3.30pm (hyd at 3pm ar ddydd Gwener) i bobl 18+ oed
  • Hyd gwasanaeth safonol yw 30 munud, sy'n cynnwys yr amser i fynd i mewn i'r capel a'i adael;
  • Ni chynhelir unrhyw wasanaethau amlosgi yn y capel rhwng 1.00pm a 2.00pm;
  • Uchafswm maint arch (gan gynnwys dolenni) yw hyd at 88 modfedd o hyd x 33 modfedd o led x 20 modfedd o uchder

Mae'r ffi'n cynnwys:

  • Cerddoriaeth drwy system gerddoriaeth ddigidol (Obitus)
  • Gordal amgylcheddol;
  • Ffi canolwr meddygol
  • Y trefnydd angladdau/ymgeisydd/cynrychiolydd a enwyd yn casglu'r llwch
  • Blwch llwch bioddiraddadwy;
  • Storio llwch am un mis;
  • Tystysgrif amlosgi
  • Gwasgaru llwch yn y Gerddi Coffa heb dystion - dydd Llun i ddydd Gwener.
£805

Amlosgi Uniongyrchol (neb yn bresennol)

  • Dydd Llun i ddydd Gwener, 9.00am a 9.15am i bobl 18+ oed
  • Ni chynhelir gwasanaeth a ni chaniateir i unrhyw alarwyr fod yn bresennol.

Mae'r ffi'n cynnwys

  • Darn o gerddoriaeth wrth fynd i mewn i'r amlosgfa;
  • Gordal amgylcheddol;
  • Ffi canolwr meddygol;
  • Y trefnydd angladdau / ymgeisydd /cynrychiolydd a enwyd yn casglu'r llwch;
  • Blwch llwch bioddiraddadwy;
  • Storio llwch am un mis;
  • Tystysgrif amlosgi;
  • Gwasgaru llwch yn y Gerddi Coffa heb dystion - dydd Llun i ddydd Gwener.
£395

Baban - colli beichiogrwydd cynnar

  • Dydd Llun i ddydd Gwener 10.00am neu 10.30am
  • Hyd y gwasanaeth yw 30 munud, sy'n cynnwys yr amser i fynd i mewn i'r capel a'i adael;

Mae'r gwasanaeth am ddim yn cynnwys:

  • Cerddoriaeth drwy system gerddoriaeth ddigidol (Obitus);
  • Gordal amgylcheddol;
  • Ffi canolwr meddygol;
  • Os ceir llwch, bydd y trefnydd angladdau/ymgeisydd/cynrychiolydd a enwyd yn ei gasglu;
  • Wrn baban;
  • Storio llwch am un mis;
  • Tystysgrif amlosgi;
  • Gwasgaru llwch yn y Gerddi Coffa/Gardd Goffa'r Babanod, gyda thystion neu hebddynt - dydd Llun i ddydd Gwener.
  • Dim ffi
 

Plentyn hyd at 17 oed

  • Dydd Llun i ddydd Gwener 10.00am tan 3.30pm (hyd at 3pm ddydd Gwener)
  • Hyd y gwasanaeth yw 30 munud, sy'n cynnwys yr amser i fynd i mewn i'r capel a'i adael;

Mae'r gwasanaeth am ddim yn cynnwys:

  • Cerddoriaeth drwy system gerddoriaeth ddigidol (Obitus);
  • Gordal amgylcheddol;
  • Ffi canolwr meddygol;
  • Y trefnydd angladdau / ymgeisydd /cynrychiolydd a enwyd yn casglu'r llwch;
  • Blwch llwch bioddiraddadwy;
  • Storio llwch am un mis;
  • Tystysgrif amlosgi;
  • Gwasgaru llwch yn y Gerddi Coffa gyda thystion neu hebddynt - dydd Llun i ddydd Gwener.
Dim ffi

Caiff yr holl amlosgiadau eu cynnal yn unol â Chôd Ymddygiad (Yn agor ffenestr newydd) Amlosgi y Ffederasiwn Awdurdodau Claddu ac Amlosgi (FBCA).

Ffïoedd amlosgi ychwanegol
Math o wasanaethFfi

Gwasanaeth dwbl

  • 30 munud yn ychwanegol, dydd Llun i ddydd Iau 10.00am tan 3.00pm (hyd at 2.30pm ar ddydd Gwener a 11.30am ar ddydd Sadwrn)

£390

(ac eithrio ffi amlosgi safonol)

Gwasanaeth safonol ar ddydd Sadwrn (plentyn neu oedolyn)

  • Dydd Sadwrn 9.30am-12.00pm

£375

(ac eithrio ffi amlosgi safonol)

Gwasgaru llwch heb dystion

  • Yn dilyn amlosgi yn Amlosgfa Abertawe
Dim ffi

Gwasgaru llwch gyda thystion

  • Yn dilyn amlosgiad yn Amlosgfa Abertawe
£50

Gwasgaru llwch gyda/ heb dystion

  • Yn dilyn amlosgiad mewn amlosgfa arall
£100

Cerddoriaeth organ

  • Dewis o emynau Cymraeg a Saesneg i gael eu chwarae gan ein horganydd preswyl (talu yn uniongyrchol i'r organydd)

£31

Gweddarllediad byw

£60

Gweddarllediad byw a dolen y gellir ei lawrlwytho

£70

Copi o'r gwasanaeth i'w gadw a teyrnged

  • DVD/ Blu-ray/ Cof bach/ CD sain mewn cas
£70

 

Ffïoedd coffáu
Math o wasanaethFfi

Arysgrifau yn y Llyfr Coffa yn Amlosgfa Abertawe (gan gynnwys TAW)

  • Ar gael yn Amlosgfa Abertawe

Cofnod 2 linell a fydd ar gael am byth

Cofnod 5 linell a fydd ar gael am byth

Cofnod 8 linell a fydd ar gael am byth

£77 (2 linell)

£96 (5 linell)

£113 (8 linell)

Arysgrifau yn y Llyfr Coffa i Fabanod yn Amlosgfa Abertawe (gan gynnwys TAW)

  • Ar gael yn Amlosgfa Abertawe

Cofnod 2 linell a fydd ar gael am byth

Cofnod 5 linell a fydd ar gael am byth

Cofnod 8 linell a fydd ar gael am byth

£77 (2 linell)

£96 (5 linell)

£113 (8 linell)

Darparu cerdyn/ffolder goffa gydag arysgrif

Arysgrif 2 linell

Arysgrif 5 llinell

Arysgrif 8 llinell

£90 (2 linell)

£108 (5 linell)

£125 (8 linell)

Darparu llyfr bach gydag arysgrif

Arysgrif 2 linell

Arysgrif 5 linell

Arysgrif 8 linell

£112 (2 linell)

£130 (5 linell)

£142 (8 linell)

Llinellau ychwanegol mewn cerdyn/ffolder/llyfr sy'n bodoli

Arysgrif 2 linell

Arysgrif 5 linell

Arysgrif 8 linell

£77 (2 linell)

£96 (5 linell)

£113 (8 linell)

Placiau coffa ar Blannwr Coffa yn Amlosgfa Abertawe

  • Gwenithfaen caboledig 6 modfedd x 3 modfedd
  • Wedi'i osod ar ddysgl blannu goffa yng ngerddi 3 a 4 yr amlosgfa
  • Mae lle ar bob plac ar gyfer arysgrif 5 llinell
  • Prydles 5 mlynedd - pan ddaw'r brydles i ben, gallwch ei hadnewyddu neu gasglu'r plac.

£245

Prydles 5 mlynedd

Calon goffa ar Goeden Goffa (Morwydden) yn Amlosgfa Abertawe

  • Gwenithfaen caboledig wedi'i osod ar goeden goffa (Morwydden) ar y brif rodfa i'r amlosgfa
  • Mae lle i roi dau enw/ddyddiad/arwyddlun ar bob calon
  • Prydles 5 mlynedd - pan ddaw'r brydles i ben, gallwch ei hadnewyddu neu gasglu'r galon.

£175

Prydles 5 mlynedd

Deilen goffa ar Goeden Goffa (Helygen) yn Amlosgfa Abertawe

  • Gwenithfaen caboledig wedi'i osod ar goeden goffa (Helygen) ar y brif rodfa i'r amlosgfa
  • Mae lle ar bob deilen am un enw a dyddiad
  • Prydles 5 mlynedd - pan ddaw'r brydles i ben, gallwch ei hadnewyddu neu gasglu'r ddeilen.

£120

Prydles 5 mlynedd

Iâr fach yr haf goffa ar Gofeb Rhagfur y Glöynnod Byw yng ngardd y babanod ym Mynwent Treforys

  • Gwenithfaen caboledig 6 modfedd x 4.7 modfedd mewn dewis o 8 lliw, wedi'i osod ar garreg goffa yng ngardd y babanod ym mynwent Treforys
  • Mae lle ar bob llechen am arysgrif byr ac arwyddlun iâr fach yr haf (gyda dewis o 3 lliw)
  • Prydles 5 mlynedd - pan ddaw'r brydles i ben, gallwch ei hadnewyddu neu gasglu'r lechen.

£125

Prydles 5 mlynedd

Arysgrif ychwanegol ar Ymylfeini Coffa yn Amlosgfa Abertawe

  • Mae ymylfeini coffa ar gael o amgylch y gerddi yn Amlosgfa Abertawe ar gyfer arysgrifau ychwanegol yn unig.

Arysgrif ychwanegol

Ailwynebu ac ychwanegu arysgrif

Ail-beintio arysgrifau

£220 (arysgrif ychwanegol)

£350 (ailwynebu ac ychwanegu arysgrif)

£100 (ail-beintio arysgrifau)

Plac ychwanegol ar Fainc Goffa

  • Nid ydym yn darparu meinciau coffa newydd yn unrhyw un o'n mynwentydd nac yn yr amlosgfa.
  • Rydym yn gallu darparu placiau ychwanegol ar gyfer meinciau sydd eisoes yn bodoli
£130

 

Ffïoedd ar gyfer claddedigaethau eirch hyd at 17 oed
Math o wasanaethFfi

Claddu baban/plentyn hyd at 17 oed mewn unrhyw fedd (yn amodol ar argaeledd)

  • Yn cynnwys Hawl Claddu Unigryw (HCU)
Dim ffi

 

Ffïoedd ar gyfer claddedigaethau eirch 18+ oed
Math o wasanaethFfi

Bedd pridd newydd - yn ddigon dwfn i un

  • Dydd Llun i ddydd Gwener
£2015

Bedd pridd newydd - yn ddigon dwfn i ddau

  • Dydd Llun i ddydd Gwener
£2240

Bedd pridd newydd - yn ddigon dwfn i dri

  • Dydd Llun i ddydd Gwener
£2500

Claddedigaeth goetir bridd newydd (Ystumllwynarth) neu gladdedigaeth ddôl (Pontybrenin)

  • Dydd Llun i ddydd Gwener
£1360

Ailagor bedd pridd - yn ddigon dwfn i un

  • Dydd Mawrth i ddydd Gwener
£965

Ailagor bedd pridd - yn ddigon dwfn i ddau

  • Dydd Mawrth i ddydd Gwener
£1190

Ailagor bedd pridd - yn ddigon dwfn i dri

  • Dydd Mawrth i ddydd Gwener
£1450

 

Claddu gweddillion amlosgedig
Math o wasanaethFfi

Llain frics newydd ar gyfer gweddillion amlosgedig (llechen goffa ar oleddf yn unig))

  • Dydd Llun i ddydd Gwener
£850

Llain bridd newydd ar gyfer gweddillion amlosgedig (llechen goffa ar oleddf yn unig)

  • Coed Gwilym, Rhydgoch a Chwmgelli yn unig
  • Dydd Llun i ddydd Gwener
£615

Bedd pridd newydd maint llawn ar gyfer gweddillion amlosgedig (carreg fedd safonol a ganiateir)

  • Dydd Llun i ddydd Gwener
£1350

Bedd pridd newydd maint llawn ar gyfer gweddillion amlosgedig mewn coetir

  • Ystumllwynarth a Pontybrenin
  • Dydd Llun i ddydd Gwener
£615

Ailagor llain frics/bridd lle claddwyd gweddillion amlosgedig

  • Dydd Llun i ddydd Gwener
£285

Claddu gweddillion amlosgedig lluosog (fesul cynhwysydd ychwanegol)

£145

 

Ffïoedd claddu ychwanegol
Math o wasanaethFfi

Claddedigaeth ar ddydd Sadwrn

  • Ac eithrio ffïoedd claddu
£375

Os ydych yn defnyddio arch/ casged ag ochrau syth (nid yw'n berthnasol ar gyfer yr adrannau coetir/ dôl)

  • Ac eithrio ffïoedd claddu
£295

Llogi capel yr amlosgfa

  • Ar gyfer cynnal gwasanaeth cyn y gladdedigaeth
  • Dydd Llun i ddydd Gwener
£225

 

Ffïoedd hawlen carreg goffa
Math o wasanaethFfi

Gosod carreg goffa newydd

£220

Gosod arysgrif ychwanegol

£170

Marciwr bedd pren

  • Claddedigaeth goetir (Ystumllwynarth) a dôl (Pontybrenin)
£120

Cais am hawlen goffa ar gyfer baban/plentyn hyd at 17 oed

Dim ffi

 

Talu'ch Ffioedd

Gellir talu ffioedd dros y ffôn, drwy'r post neu'n bersonol yn y Swyddfa Claddedigaethau ac Amlosgiadau, Ystafell LG.4.5, Y Ganolfan Ddinesig, Abertawe SA1 3SN.

Rydym yn derbyn taliadau drwy'r dulliau canlynol cerdyn debyd/credyd, siec (yn daladwy i Gyngor Abertawe), arian parod.

Close Dewis iaith