Toglo gwelededd dewislen symudol

Hyfforddiant FIS - Cymorth Braenaur WellComm ar gyfer Gwarchodwyr

Mae'r sesiynau hyn yn benodol ar gyfer Gwarchodwyr Plant, nid ydynt ar gael i unrhyw sector arall.

Nod y cwrs

Offeryn sgrinio a ddefnyddir yn helaeth yw WellComm, y gall darparwyr y blynyddoedd cynnar ei ddefnyddio gyda phlant 6 mis oed i 6 blwydd oed. Gall yr offeryn helpu i nodi plant sy'n profi anawsterau iaith a lleferydd.

Mae'r 'Big Book of Ideas' yn darparu gweithgareddau sy'n seiliedig ar chwarae y gellir eu defnyddio i gefnogi'r plant hyn. Bydd y sesiwn gyflwyniadol yn rhoi trosolwg i chi o'r broses sgrinio ac enghreifftiau o'r mathau o weithgareddau yn y 'Big Book of Ideas'. Os, ar ôl y sesiwn gyflwyniadol, yr hoffech chi fod yn rhan o Brosiect Braenaru Wellcomm, darperir copi i chi o'r 'Big Book of Ideas' am ddim (PMA £205.00), a chewch eich gwahodd i ddod i'r sesiwn Sut i Ymyrryd.

Bydd yr hyfforddiant hwn yn esbonio sut, gyda'ch cefnogaeth chi, y bydd ein hymarferydd Blynyddoedd Cynnar yn sgrinio'r plant dan eich gofal ac yn eich cyfeirio at weithgareddau yn y 'Big Book of Ideas' i gefnogi datblygiad iaith y plant hyn. Bydd y pecyn hyfforddiant a chefnogaeth hwn yn darparu'r sgiliau a'r wybodaeth i chi allu tynnu sylw at blant y gall fod angen cefnogaeth arnynt, ac ynghylch sut i ymyrryd.

Cewch hefyd fynediad at gefnogaeth barhaus gan y Tîm Braenaru sy'n cynnwys dau Therapydd Iaith a Lleferydd ac Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar.

Am ragor o wybodaeth am y prosiect, e-bostiwch Mary Pridmore yn mary.pridmore@abertawe.gov.uk.

Darperir y cwrs hwn gan: Tîm Partneriaethau a Chomisiynu'r Blynyddoedd Cynnar. Bydd yn dyfarnu'r cymhwyster hwn: Digwyddiad gwybodaeth.

Cyfarwyddiadau'r cwrs

Bydd y cwrs deuddydd hwn sydd wedi'i rannu'n sesiwn ragarweiniol ar ddiwrnod un a sesiwn 'sut i ymyrryd' ar ddiwrnod dau, yn cael ei gynnal ar-lein trwy Microsoft Teams. Rhaid bod camerâu ymlaen ar gyfer parhad yr hyfforddiant.

Bydd trefnydd y cwrs yn anfon y dolen atoch.

Os hoffech dderbyn gohebiaeth / dogfennau'r hyfforddiant yn Gymraeg, e-bostiwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn fis@abertawe.gov.uk.

Manylion

Dydd Iau 16 Medi 2021 - 6.30pm - 7.30pm a dydd Iau 30 Medi 2021 - 6.30pm - 8.00pm.

Nifer y lleoedd: 15

Iaith y cwrs: Saesneg

Costau: AM DDIM

Hyfforddiant FIS ar gael Hyfforddiant FIS ar gael

Am ymholiadau, ffoniwch 01792 517222.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Awst 2021