Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Awst

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Hyfforddiant FIS - cymorth cyntaf pediatrig

Mae'r cymhwyster hwn wedi'i anelu at unigolion sy'n dymuno ennill yr wybodaeth a'r sgiliau sy'n ofynnol i'w galluogi i ddarparu cymorth cyntaf pediatreg brys effeithiol.

Nod y cwrs

Mae'r pynciau'n cynnwys rôl a chyfrifoldebau'r person cymorth cyntaf pediatreg a darparu cymorth cyntaf i faban neu blentyn nad yw'n ymateb sy'n anadlu'n normal. Mae'r cymhwyster hefyd yn cynnwys sut i roi cymorth cyntaf i faban neu blentyn sy'n tagu neu'n dioddef o sioc hypofolemig a sut i drin mân anafiadau.

Cyfarwyddiadau'r cwrs

Cynhelir y diwrnod cyntaf rhwng 9.00am a 4.00pm drwy Teams. Rhaid bod camerau ymlaen ar gyfer parhad y hyfforddiant.

Darperir y ddolen ar-lein gan ddarparwr yr hyfforddiant ychydig o ddyddiau cyn i'r cwrs gael ei gynnal. Byddwch yn derbyn slot amser ar gyfer yr ail ddiwrnod lle bydd gofyn i chi fynd i Neuadd y Ddinas ar gyfer y prawf ymarferol.

Os hoffech dderbyn gohebiaeth/taflenni'r hyfforddiant yn Gymraeg, e-bostiwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd fis@abertawe.gov.uk.

Manylion

Ar-lein - slotiau amser ar gyfer diwrnod un a diwrnod dau yn Neuadd y Ddinas.

Ar-lein drwy MS Teams - mewngofnodi am 9am er mwyn dechrau am 9.15am - gorffen am 4.30pm.

23 a 24 Medi 2021

25 a 26 Hydref 2021

27 a 28 Ionawr 2022

21 a 22 Chwefror 2022

28 a 29 Mawrth 2022

Nifer y lleoedd: 12

Iaith y cwrs: Saesneg

Costau: £20 y cynrychiolydd.

Hyfforddiant FIS ar gael Hyfforddiant FIS ar gael

Am ymholiadau, ffonwich 01792 517222.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Awst 2021