Hyfforddiant FIS - diogelu lefel 2
Mae'r hyfforddiant hwn yn agored i bawb yn y sector gofal plant a chwarae.
Nod y cwrs
- Ailedrych ar y Codau Arfer Proffesiynol.
- Ystyried beth yw cam-drin ac esgeulutod.
- Deall y gwahaniaeth rhwng y termau 'Diogelu' ac 'Amddiffyn Plant'.
- Ystyried y gyfraith o ran plant y mae angen eu hamddiffyn.
- Pwy sy'n cam-drin plant?
- Enwi a diffinio categoriau cam-drin (Sylwi Arno).
- Gwybod sut i ymateb os bydd plentyn yn gwneud honiad.
- Gwybod sut i adrodd am unrhyw bryderon, ac i bwy i adrodd (Rhowch Wybod Amdano).
Mae'r cwrs undydd hwn yn hanfodol (ac yn hyfforddiant sy'n orfodol mewn rhai lleoliadau) ar gyfer unrhyw un y mae ei waith yn golygu y daw i gysylltiad â phlant drwy amryw rolau.
Rhaid i chi gymryd cyfrifoldeb am yr hyn rydych chi'n ei rannu ar y cyrsiau hyn sy'n aml yn rhai emosiynol. Os oes gennych unrhyw bryderon, bydd croeso i chi eu trafod â'r swyddog hyfforddi ar ôl yr hyfforddiant.
Darperir y cwrs hwn gan: Ganolfan Hyfforddi Gwasanaethau Cymdeithaol Cyngor Abertawe. Bydd yn dyfarnu'r cymhwyster hwn: Diogelu Lefel 2.
Cyfarwyddiadau'r cwrs
Bydd gofyn i bob cyfranogwr ymgyfarwyddo â'r astudiaeth achos berthnasol cyn dyddiad yr hyfforddiant - rhoddir hyn i bob cynrychiolydd gan Dîm y Blynyddoedd Cynnar.
Cynhelir y cwrs ar-lein drwy MS Teams.
Caiff gwerthusiadau ar ôl y cwrs eu hanfon ymlaen gan yr adran hyfforddiant at y sawl a gymerodd ran yn y cwrs.
Darperir tystysgrifau presenoldeb i'r rheini sy'n cwblhau'r hyfforddiant ac yn cymryd rhan yn llawn ynddo'n unig..
Bydd tîm gweinyddol yr hyfforddiant yn anfon e-byst cadarnhau ynghyd â dolenni cyswllt MS Teams i'r rheini sydd wedi cofrestru o leiaf 48 awr cyn dyddiad yr hyfforddiant. Os nad yw unigolion wedi derbyn cadarnhad e-bost 48 awr cyn dyddiad y cwrs, ffoniwch yr adran hyfforddiant ar 01792 636111 neu e-bost social.servicesTraining@swansea.gov.uk.
Os hoffech dderbyn gohebiaeth / dogfennau'r hyfforddiant yn Gymraeg, e-bostiwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn fis@swansea.gov.uk.
Manylion
20 Medi 2021 - 10.00am - 4.00pm.
Nifer y lleoedd: 20
Iaith y cwrs: Saesneg
Costau: £20 y cynrychiolydd.
Hyfforddiant FIS ar gael Hyfforddiant FIS ar gael
Am ymholiadau, ffoniwch 01792 517222.