Hyfforddiant FIS - diogelu lefel 3
Mae'r hyfforddiant hwn yn agored i bawb yn y sector gofal plant a chwarae.
Nod y cwrs
- Amddiffyn plant a'r gyfraith.
- Adnabod cam-drin plant.
- Plant sydd ar goll, Cyfarfodydd Strategaeth Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant (CSE) a Chamfanteisio ar Blant (CE).
- Ffaith a barn.
- Rôl GCChI - Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth Integredig.
- Cyfrannu at Gynhadledd Achos Amddiffyn Plant a grŵp craidd - rolau a chyfrifoldebau.
- Y broses benderfynu, trothwyau a gwahaniaethau proffesiynol.
- Adolygiadau Arfer Plant.
- Cyfarfodydd Strategaethau Proffesiynol.
Rhaid eich bod wedi cwblhau hyfforddiant Lefel 2 Amddiffyn Plant / Ymwybyddiaeth o Ddiogelu Abertawe cyn dod i'r hyfforddiant hwn. Mae 'Gweithio Gyda'n Gilydd i Ddiogelu Plant 2010' yn ei gwneud hi'n ofynnol i gyflogwyr sicrhau bod eu staff yn gymwys i gyflawni eu cyfrifoldebau am ddiogelu a hyrwyddo lles plant. Bydd y cwrs hyfforddiant Amddiffyn / Diogelu Plant Lefel 3 hwn yn fuddiol i bob gweithiwr proffesiynol y mae angen iddo ddeall y rolau a'r cyfrifoldebau am ddiogelu lles plant a phobl ifanc ar lefel uwch, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Bob aelod o staff sy'n gyfrifol am fod yn Berson Diogelu a Enwir / Arweinydd Diogelu Dynodedig o fewn eu sefydliad.
- Unrhyw berson a chanddo'r cyfrifoldeb am fynd i gynadleddau amddiffyn plant a/neu grwpiau craidd.
- Aelodau staff â rôl oruchwylio.
Rhaid i chi gymryd cyfrifoldeb am yr hyn rydych chi'n ei rannu ar y cyrsiau hyn sy'n aml yn rhai emosiynol.
Os oes gennych unrhyw bryderon, bydd croeso i chi eu trafod â'r swyddog hyfforddi ar ôl yr hyfforddiant.
Darperir y cwrs hwn gan: Ganolfan Hyfforddi Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Abertawe. Bydd yn dyfarnu'r cymhwyster hwn: Diogelu - Lefel 3.
Cyfarwyddiadau'r cwrs
Cynhelir y cwrs ar-lein drwy MS Teams.
Caiff gwerthusiadau ar ôl y cwrs eu hanfon ymlaen gan yr adran hyfforddiant at y sawl a gymerodd ran yn y cwrs.
Darperir tystysgrifau presenoldeb i'r rheini sy'n cwblhau'r hyfforddiant ac yn cymryd rhan yn llawn ynddo'n unig.
Bydd tîm gweinyddol yr hyfforddiant yn anfon e-byst cadarnhau ynghyd â dolenni cyswllt MS Teams i'r rheini sydd wedi cofrestru o leiaf 48 awr cyn dyddiad yr hyfforddiant. Os nad yw unigolion wedi derbyn cadarnhad e-bost 48 awr cyn dyddiad y cwrs, ffoniwch yr adran hyfforddiant ar 01792 636111 neu e-bost social.servicesTraining@abertawe.gov.uk.
Os hoffech dderbyn gohebiaeth / dogfennau'r hyfforddiant yn Gymraeg, e-bostiwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn fis@abertawe.gov.uk.
Manylion
29 Medi 2021 - 10.00am - 4.00pm.
Nifer y lleoedd: 20
Iaith y cwrs: Saesneg
Costau: £20 y cynrychiolydd.
Hyfforddiant FIS ar gael Hyfforddiant FIS ar gael
Am ymholiadau, ffoniwch 01792 517222.