Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyllid ychwanegol i gefnogi banciau bwyd ac elusennau

Mae cyllid ychwanegol ar gael ar gyfer banciau bwyd a grwpiau eraill sy'n darparu cefnogaeth mewn argyfwng i bobl sy'n wynebu tlodi bwyd yn Abertawe.

Foodbank generic

Foodbank generic

Mae nifer yn adrodd am y galw ychwanegol am eu gwasanaethau gyda'r lefelau uchaf erioed o achosion o Coronafeirws yn y ddinas yn effeithio arnynt.

Drwy gydol y pandemig, mae Cyngor Abertawe wedi cefnogi'r rhwydwaith o fanciau bwyd ac eraill i gynnal a chynyddu'r gwasanaethau maent yn eu darparu.

Derbyniwyd cyllid ychwanegol o bron £42,000 gan Lywodraeth Cymru a gall sefydliadau nawr wneud cais i'r cyngor am gyfran o'r arian.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd, ddydd Mercher 26 Ionawr.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, Alyson Pugh, "Mae biliau cartref cynyddol a chanlyniadau economaidd y pandemig yn golygu bod mwy a mwy o bobl yn ei chael hi'n anodd o ddydd i ddydd.

"Mae Abertawe'n lwcus iawn i gael rhwydwaith o fanciau bwyd, elusennau a sefydliadau sy'n darparu cefnogaeth mewn argyfwng ac mae'r cyngor wedi gwneud popeth o fewn ei allu i'w cefnogi.

"Rwy'n ddiolchgar i'n holl gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru am ddarparu cymorth ariannol ychwanegol a hoffwn annog y rheini sy'n helpu pobl sy'n profi tlodi bwyd i wneud cais am gyfran o'r arian. 

"Gellir defnyddio'r arian i brynu nwyddau ychwanegol o fwyd o safon a nwyddau hanfodol; treuliau megis costau ychwanegol cyffredinol, costau gwirfoddolwyr ychwanegol neu gostau ychwanegol eraill o ganlyniad i alw cynyddol ac am aelodaeth FareShare Cymru."

Derbynnir ceisiadau am gostau yr aed iddynt rhwng 1 Chwefror a 31 Mawrth 2022.

https://www.abertawe.gov.uk/cronfaCymorthiAelwydydd

Close Dewis iaith