Toglo gwelededd dewislen symudol

Mae cynnig Bysus Am Ddim ein dinas yn ôl ar gyfer hanner tymor y Jiwbilî

Mae cynnig bysus am ddim hynod boblogaidd Abertawe yn ôl ar gyfer penwythnos olaf mis Mai a phenwythnos hir Gŵyl y Banc ar ddechrau'r mis nesaf.

free bus logo whitsun 2022

Mae digonedd o bethau i'w gwneud ar draws y ddinas yn ystod yr hanner tymor, a hwn sy'n codi'r llen, yn ôl yr arfer, i'r haf yn Abertawe.

A ph'un a ydych am fynd ar daith i Lido Blackpill, taith i Barc Singleton neu diwrnod mas ar y traeth, bydd ein gwasanaethau bysus am ddim ar gael am chwe diwrnod dros gyfnod yr hanner tymor.

Bydd pob taith ar fws i deithwyr sy'n dechrau ac yn gorffen yn Abertawe am ddim os bydd eich taith yn dechrau cyn 7pm nos Sadwrn, Mai 28 a nos Sul Mai 29. Bydd y gwasanaeth am ddim hefyd ar gael cyn 7pm ar 2, 3, 4 a 5 Mehefin, fel y gall teuluoedd fynd o le i le gyda'i gilydd heb boeni am bris y tocynnau.

Mae angen i bob taith ddechrau a gorffen yn Abertawe a'r unig wasanaeth nad yw'n cael ei gynnwys yn y cynnig yw bws agored First Cymru rhwng canol y ddinas a'r Mwmbwls.

Lansiwyd y fenter teithio am ddim yn ystod gwyliau haf y llynedd, ac roedd degau ar filoedd o bobl wedi achub ar y cyfle i deithio am ddim er mwyn siopa, gweld ffrindiau am goffi neu ymweld â thirnodau lleol.

Dywedodd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, fod yn cynnig yn ôl oherwydd galw gan y cyhoedd. Meddai, "Mae'r fenter bysus am ddim wedi bod yn llwyddiant ysgubol dros y 10 mis diwethaf a nawr bod yr haf yn agosáu ac mae Gŵyl y Banc hir o'n blaenau, mae cyfle arall i bawb yn Abertawe fanteisio arno.

"Yr adborth rwyf wedi'i gael gan deuluoedd sy'n poeni am gostau byw cynyddol yw bod hwn wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol oherwydd gallant wario'u cyflogau haeddiannol ar bethau eraill yn lle pan fyddant yn mynd ar eu teithiau.

"Mae gan y cyngor lawer o leoliadau ac mae llawer o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal dan do ac yn yr awyr agored, i'w mwynhau am ddim a chyda bysus am ddim hefyd, mae gan deuluoedd gyfleoedd gwych i gynllunio diwrnodau mas, sy'n rhad.

"Ar adeg pan fo pobl yn gorfod gwneud dewisiadau anodd oherwydd chwyddiant cynyddol, a chynnydd mewn biliau ynni a bwyd, gall ychydig o help ar y bysus wneud y gwahaniaeth rhwng mynd ar daith neu aros gartref.

Ychwanegodd, "Mae awdurdodau lleol eraill yng Nghymru a Lloegr wedi bod yn gwylio'r hyn rydym wedi bod yn ei wneud yn Abertawe hefyd, gan addasu'r syniad i gefnogi teuluoedd yn eu hardaloedd hwy."

Mae'r fenter bysus am ddim yn berthnasol i bob taith fws sy'n dechrau ac yn gorffen yn ardal Cyngor Abertawe, tan 7pm ar ddiwrnodau pan fo'r cynnig ar waith. Bydd angen i deithwyr gydymffurfio ag unrhyw reolau pandemig Llywodraeth Cymru sydd mewn grym ar y pryd.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynnig i deithio ar fysus am ddim, ewch i https://www.abertawe.gov.uk/bysus

I gael gwybod beth sy'n digwydd yn Abertawe dros yr hanner tymor, cymerwch gip ar ein rhestrau yma: https://www.abertawe.gov.uk/gweithgareddaugwyliau neu ewch i Joio Bae Abertawe yma: https://www.croesobaeabertawe.com/events/