Gadael tai cyngor
Os ydych chi'n ystyried dod a'ch tenantiaeth i ben, mae un neu ddau o bethau y mae angen i chi eu gwneud cyn gadael.
Pan fyddwch yn dod â'ch tenantiaeth cyngor i ben, rhaid i chi roi o leiaf 4 wythnos o rybudd i'ch swyddfa dai ardal, yn ysgrifenedig, cyn i chi adael eich cartref.
Rhaid i'r cyfnod 'rhybudd' pedair wythnos ddod i ben ar fore Llun, a rhaid i chi ddychwelyd eich allweddi i'r swyddfa dai cyn 12 ganol dydd y diwrnod rydych yn gadael (neu'r diwrnod gwaith nesaf os yw'n wŷl y banc).
Hefyd, mae'n rhaid i chi sicrhau eich bod yn clirio'r tŷ cyn gadael. Yn aml, pan ddaw tenantiaeth i ben, gadewir eiddo personol, celfi, sbwriel ac ati ar ôl. Hefyd, weithiau caiff malurion, sbwriel, adeileddau anniogel a chynnwys o'r tu mewn i'r cartref eu gadael yn yr ardd.
Os byddwch yn gadael eitemau ar ôl y bydd rhaid i ni eu clirio, byddwn yn codi tâl arnoch am wneud hyn. Mae amodau eich tenantiaeth yn esbonio'r hyn sy'n rhaid i chi ei wneud a'r hyn fydd yn digwydd os na fyddwch, felly mae'n bwysig iawn eich bod yn cydymffurfio.
Os bydd rhaid i ni glirio eich cartref, bydd y swm y byddwn yn ei godi arnoch yn dibynnu ar faint y gadawsoch ar eich ôl. Rydym hefyd yn cadw tystiolaeth ffotograffig rhag ofn bydd anghydfod.
Dyma'r taliadau a godir:
- clirio mewnol: rhwng £50 - £500
- glanhau mewnol: rhwng £50 - £200
- clirio allanol: rhwng £50 - £500 - mewn achosion eithafol, hyd at £2,000 (dylai hyn hefyd gynnwys dymchwel strwythurau)
- ailaddurno: rhwng £50 - £300
Pan fyddwch yn rhoi rhybudd o fwriad i ddiweddu eich tenantiaeth, byddwch yn derbyn rhestr safonol o gost atgyweirio a/neu amnewid gosodiadau a ffitiadau. Os byddwn yn dod o hyd i unrhyw ddifrod i'r cartref, ac asesir bod hyn oherwydd esgeulustra a/neu wedi'i achosi'n fwriadol gan y tenant blaenorol, bydd rhestr o eitemau y mae'n rhaid eu hamnewid/atgyweirio ac anfoneb am gost amnewid/atgyweirio'n cael eu hanfon atoch.
Os codir tâl arnoch am naill ai symud eiddo personol a/neu atgyweiriadau, ac yn y dyfodol rydych yn gwneud cais am gartref gyda ni, efallai na chewch gartref arall - felly mae'n werth talu unrhyw gostau clirio a/neu atgyweirio y byddwch yn eu derbyn.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ddiddymu eich tenantiaeth neu unrhyw beth sy'n ymwneud â'r pwnc hwn, cysylltwch â'ch swyddfa dai ardal leol.