Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithio Abertawe - Gofyn am help

Eich taith i fod yn fwy cyflogadwy.

Gweithio Abertawe - yr olwyn yrfa

1. Gofyn am help

Mae angen help ar bawb er mwyn symud ymlaen. Nid yw dod o hyd i fai yn negyddol. Dyma'ch cyfle chi i newid eich hun ac eraill. Mae'n anodd datblygu heb ddod o hyd i feiau. Gofynnwch i chi'ch hun; Pa gymorth sydd ei angen arnaf? Ble gallaf gael hyd i help? Pa newidiadau a hyfforddiant sydd angen i mi eu gwneud?

2. Sut ydw i'n dirnad fy nghryfderau a'm gwendidau?

Dechreuwch drwy restru'ch cryfderau er mwyn canfod cydbwysedd yn erbyn eich beiau. Weithiau mae hyn yn anodd, fodd bynnag, mae gofyn am help ac awydd i ddatblygu'ch hun yn gryfder mawr ynddo'i hun. Weithiau mae angen help eraill er mwyn adnabod eich cryfderau. Unwaith y byddwch wedi adnabod eich cryfderau a'ch gwendidau, gallwch ganolbwyntio ar y rhain er mwyn i chi ddatblygu.

3. Sut ydw i'n edrych neu'n cyflwyno fy hun?

Meddyliwch am sut rydych yn cyflwyno'ch hun ar bapur, wyneb yn wyneb ac ar-lein - (CV, llythyr eglurhaol, ceisiadau, cyfweliadau ac ar-lein).

Mae sut rydym yn cyflwyno'n cryfderau'n bwysig er mwyn symud ymlaen mewn bywyd ac yn ein gyrfa. Rydych am gyflwyno'ch hun yn y modd gorau posib a gadael i eraill wybod dyma'r fersiwn orau ohonoch chi. Mae dangos cryfder yn anodd ar adegau, ond drwy ymarfer, gallwch wneud hyn.

4. Sut ydw i'n dechrau mynd ati i wneud newidiadau?

Cynlluniwch yr hyn rydych am ei gyflawni drwy gasglu gwybodaeth am eich llwybr cynnydd dewisol gyda gweithiwr proffesiynol a gwnewch hwn yn nod i chi'ch hun wrth i chi symud ymlaen. Mae cefnogaeth yno bob amser i'ch helpu i gyflawni hyn.

Gan eich bod wedi cynllunio'ch llwybr cynnydd, peidiwch â rhuthro drwy'r broses hon er mwyn symud ymlaen. Dechreuwch ar eich cyflymdra eich hun a chofiwch ymddiried yn eich cred y byddwch yn cyrraedd y llinell derfyn gyda'ch dysgu a'ch datblygiad.

Cymerwch amser i ddechrau mynd i'r afael â'ch newidiadau a datblygu'ch sgiliau. 

5. Sut ydw i'n rhoi fy sgiliau newydd ar waith?

Dechreuwch ddefnyddio'ch sgiliau newydd a'ch cryfderau yn eich gyrfa. Canolbwyntiwch y sgiliau hyn ar gael cyflogaeth neu ddatblygu yn eich cyflogaeth bresennol, neu wrth gymryd y cam cyntaf tuag at eich gyrfa ddelfrydol.

6. Sut ydw i'n aros yn fy swydd neu'n datblygu yn fy ngyrfa?

Mae aros yn eich swydd neu ddatblygiad proffesiynol parhaus yn y gwaith yn ymwneud â'ch perfformiad a'ch ysfa. Mae'n gadael i eraill wybod mai chi oedd y person cywir am y swydd, fodd bynnag, mae gwella'ch hun a pharhau i ddatblygu hefyd yn bwysig.

Mae'r cylch gyrfa'n ddiddiwedd os oes gennych yr ewyllys i lwyddo. Symudwch ymlaen drwy gymryd cam yn ôl (i gam un) a dechreuwch y broses unwaith eto o'r dechrau.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 26 Ionawr 2023