Gorsaf Fysus Abertawe
Gwybodaeth am Orsaf Fysus Abertawe, gan gynnwys amserau agor a chyfleusterau.
Oriau agor yr orsaf fysus
Mae'r brif orsaf fysus ar agor saith niwrnod yr wythnos rhwng 5.00am a 11.15pm.
Os ydych chi'n gadael ar goets cyn i'r brif orsaf fysus agor, gallwch gael mynediad i'r ardal ymadael ar gyfer coetsis trwy'r fynedfa i'r de gan bwyso'r seiniwr a dangos eich tocyn teithio i'r gwarchodwr diogelwch sydd ar ddyletswydd.
Toiledau cyhoeddus Gorsaf Fysus y Cwadrant Toiledau cyhoeddus Gorsaf Fysus y Cwadrant
Desg wybodaeth
Mae'r ddesg wybodaeth ar agor rhwng 8.30am a 5.30pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.
Gall ceidwaid yr orsaf fysus hefyd helpu teithwyr gydag eiddo coll ac ymholiadau.
Man storio bagiau
Mae'r cyfleusterau hyn ar gael yn Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe drws nesaf i'r orsaf fysus.
Cyfleusterau gorsaf fysus i deithwyr ag anableddau
Mae gan yr orsaf fysus farciau llawr lliwgar i ddod o hyd i'r ffordd.
Mae mapiau Braille o'r orsaf fysus a'r orsaf reilffordd ar gael o'r ddesg wybodaeth.
Mae gan bob cilfan lle mae bysus yn gadael system arwyddion siarad REACT yr RNIB. Mae ffobiau REACT ar gael o'r ddesg wybodaeth am flaendal ad-daladwy o £15.
Mae gan yr orsaf fysus doiledau i bobl anabl, ger mynedfa'r de. Mae cyfleuster Changing Places hefyd yn swyddfa Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe sydd yn yr orsaf fysus ei hun.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch publictransport@swansea.gov.uk
