Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwneud cais am ostyngiad Treth y Cyngor i berson sengl

Os rydych dros 18 oed a'r unig berson sy'n byw yn yr eiddo, gallwch wneud cais am ostyngiad 25% ar eich bil.

Mae bil Treth y Cyngor yn rhagdybio bod o leiaf 2 oedolyn (dros 18 oed) yn byw yn eich cartref. Gallech gael gostyngiad hefyd os ydych yn byw gyda phobl nad ydynt yn cael eu cyfrif fel oedolion at ddibenion Treth y Cyngor ac yn cael eu diystyru.

Os yw hwn yn gais newydd ar gyfer gostyngiad person sengl, cwblhewch y ffurflen isod.

Adolygiad gostyngiad person sengl - Os yw'ch gostyngiad person sengl wedi'i ganslo oherwydd i chi fethu â dychwelyd ffurflen adolygu ddiweddar neu wybodaeth o fis Mehefin 2023, mae'n rhaid i chi gyflwyno cais arall am y gostyngiad hwn drwy'r ddolen isod. Bydd methu â chyflwyno cais am y gostyngiad hwn drwy'r ddolen hon dan yr amgylchiadau hyn yn golygu y bydd oedi wrth brosesu'r wybodaeth.
Cliciwch yma i ailgyflwyno cais am ostyngiad person sengl os yw wedi'i ganslo'n ddiweddar oherwydd eich bod wedi methu â dychwelyd ffurflen adolygu

Close Dewis iaith