Toglo gwelededd dewislen symudol

Miloedd o aelwydydd i gael rhagor o gymorth costau byw

Bydd miloedd o aelwydydd nad ydynt eto wedi elwa o'r cynllun Cymorth Costau Byw yn cael taliad annisgwyl o hyd at £150 yn y misoedd sy'n dod.

Swansea at night

Ers dechrau 2022, mae'r cyngor wedi talu dros 145,000 o grantiau gwerth dros £21m i aelwydydd y ddinas sy'n wynebu'r argyfwng costau byw a biliau ynni cynyddol.

Nawr mae Cabinet Cyngor Abertawe wedi cytuno i glustnodi bron £720,000 i gannoedd o aelwydydd nad ydynt wedi hawlio'u grant ac eraill nad oeddent yn gymwys o'r blaen dan gynllun Cymorth Costau Byw Llywodraeth Cymru.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae miloedd lawer o aelwydydd wedi elwa o'r cynllun cymorth costau byw gwerth £150 ers y llynedd.

Fodd bynnag, mae ein timau'n gwybod nad yw pob aelwyd cymwys wedi gwneud cais ac yn ogystal â hynny, mae grwpiau o bobl y mae angen ychydig mwy o gymorth arnynt.

"Dyna pam, dan o cynllun disgresiynol diweddaraf hwn, rydym wedi ceisio targedu'r rheini a oedd yn gymwys ond y gwyddwn nad oeddent wedi gwneud cais a'r rheini ym Mand E y cyngor nad oeddent yn gymwys ond sy'n haeddu rhywfaint o gymorth ychwanegol hefyd."

Cymeradwyodd y Cabinet adroddiad ar 16 Chwefror am yr hyn yw grantiau disgresiynol, gyda thaliadau ar gyfer y rheini sy'n derbyn gostyngiadau Treth y Cyngor oherwydd problemau iechyd meddwl difrifol neu ddeiliaid tai lle mae gofalwr yn byw yn yr eiddo. 

Deiliaid tai eraill sy'n cael eu targedu yw tenantiaid y cyngor ac eraill a oedd yn gymwys ar gyfer y cynllun cymorth ond nad oeddent wedi gwneud cais amdano.

Dywedodd yr adroddiad a gyflwynwyd i'r Cabinet y bydd cyllid ar gyfer y rownd ddiweddaraf o daliadau yn dod o danwariant o £717,000 sydd ar ôl o'r dyraniad grant gwreiddiol a wnaed i Abertawe gan Lywodraeth Cymru dan y Cynllun Cymorth Costau Byw.

Dywed yr adroddiad fod timau treth y cyngor a budd-daliadau'r cyngor wedi gallu nodi'r rheini sy'n gymwys ar gyfer y rownd ddiweddaraf o daliadau a bydd yr arian yn cael ei dalu'n syth i gyfrifon treth y cyngor deiliaid tai neu, yn achos tenantiaid y cyngor, i'w cyfrifon rhent.

 

 

 

Close Dewis iaith