Gwarchodfa Natur Leol Cors Cilâ
Mae Cors Cilâ yn ymestyn dros 21.3 erw (8.62 hectar), yn cynnwys mosäig o gynefinoedd ac yn meddu ar rai enghreifftiau rhagorol o lawer o gynefinoedd gwlypdir a ddiogelir ac sydd dan fygythiad.
Mae coetir gwlyb (ffeniau gwern a helyg) a chynefin mignen a chors yn stradlo Afon Clun uchaf, gyda chors agored, ffen a rhostir gwlyb, a chyda glaswelltir a choetir mwy sych ar yr ardal ffiniol sydd ychydig yn fwy sych. Mae'r cynefinoedd yn cyfuno i ffurfio amrywiaeth cyfoethog o blanhigion ac anifeiliaid.
Mae'r Warchodfa Natur Leol yn weddill ardal lawer mwy o wlypdir a ddinistriwyd gan weithgarwch adfer tir i'w ddatblygu, gan gynnwys tai a thirlenwi rhwng 1930 a 1970. Mae Dinas a Sir Abertawe'n berchen ar y tir ac mae wedi cael ei reoli gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru ers 1995.