Gwasanaethau Cymdeithasol - Polisi Codi Tâl - Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Cymorth a Gwasanaethau Eraill a ddarperir gan Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Abertawe
1. Cynnwys
2. Cyflwyniad
3. Crynodeb
4. Y sail statudol ar gyfer codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol a chymorth
5. Datganiad polisi mewn perthynas â chodi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol a chymorth
6. Gwasanaethau y codir tâl amdanynt
7. Gwasanaethau na chodir tâl amdanynt
8. Beth fydd y gost lawn am wasanaethau gofal cymdeithasol?
9. Adolygiad blynyddol o daliadau gofal cymdeithasol
10. Newidiadau yn ystod y flwyddyn i daliadau gofal cymdeithasol presennol neu newydd
11. Faint o arian fydd yn rhaid i berson ei dalu tuag at y gost lawn am ei ofal?
12. Dyled
13. Costau ychwanegol (taliadau trydydd parti ychwanegol)
14. Beth fydd y gost lawn am wasanaethau gofal cymdeithasol?
15. Ailasesu a dulliau apelio
16. Twyll
17. Gwasanaethau a ddarperir gan y Gyfarwyddiaeth Gofal Cymdeithasol y tu allan i ddarpariaeth y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.
18. Atodiad 1 - Canllawiau a dogfennau perthnasol
19. Atodiad 2 - gwariant sy'n gysylltiedig ag anabledd (Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Chymorth)
20. Atodiad 3 - Isafswm Incwm
21. Atodiad 4 - Penderfyniadau mewn perthynas â darpariaethau dewisol yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac is-ddeddfwriaeth
2. Cyflwyniad
2.1. Yn wahanol i ofal iechyd y GIG, nid yw gwasanaethau gofal a chymorth yr awdurdod lleol am ddim fel arfer. Yn draddodiadol, mae pobl wedi gorfod talu tuag at gost eu gofal, os gallant fforddio gwneud hynny.
2.2. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn parhau â'r egwyddor hon ac yn galluogi awdurdodau lleol i benderfynu a ddylid codi tâl ar bobl am wasanaethau gofal a chymorth a drefnir ac a ariennir ganddynt ai peidio.
2.3. Fel y mwyafrif helaeth o gynghorau, os nad pob un, mae Cyngor Abertawe wedi penderfynu codi tâl am ofal. Mae hyn oherwydd bod yr incwm a dderbynnir o daliadau gofal yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn gallu cyflawni ei ymrwymiadau ariannu statudol a gosod cyllideb gytbwys. Heb yr incwm hwnnw, ni fyddai'n bosib darparu gofal cymdeithasol, felly mewn gwirionedd nid oes gan Gyngor Abertawe unrhyw opsiwn ymarferol arall heblaw am godi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol. Bydd yr incwm a godir yn helpu i ddiogelu, cynnal, datblygu ac ehangu'r gwasanaethau gofal a chymorth yn y ffordd gywir i ddiwallu anghenion oedolion agored i niwed yn ein hardal.
3. Crynodeb
3.1. Mae Cyngor Abertawe wedi penderfynu, lle caniateir iddo wneud hynny, y bydd ei Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol yn codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol a chymorth. Bydd hyn yn cael ei wneud yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, y Rheoliadau a'r Côd Ymarfer cysylltiedig, unrhyw derfynau cyfraniad a bennir gan Lywodraeth Cymru, ac mewn ymarfer cyffredinol ar sail deg a chyfartal.
3.2. Bydd y gost wirioneddol o ddarparu'r gwasanaethau gofal cymdeithasol amrywiol yn cael ei chyfrifo bob blwyddyn yn y cyfnod cyn pennu cyllideb flynyddol y Cyngor gan ddefnyddio'r wybodaeth sydd ar gael bryd hynny. Bydd y cyfrifiad hwnnw'n cael ei ddefnyddio i gyfrifo'r tâl llawn ar gyfer pob math o wasanaeth a bydd yn cael ei gyhoeddi'n flynyddol.
3.3. Mae'n ofynnol i'r Cyngor roi sylw i anghenion holl drethdalwyr/ddinasyddion Abertawe a rhaid iddo sicrhau nad yw'r taliadau sy'n cael eu codi'n esgeulus mewn perthynas ag incwm posib i'r awdurdod.
3.4. Os bydd defnyddwyr gwasanaeth yn penderfynu nad ydynt am i'r Cyngor gynnal asesiad ariannol o'u gallu i dalu'r tâl llawn, bydd yn ofynnol iddynt dalu'r tâl llawn am eu gofal, yn amodol ar unrhyw derfynau cyfraniad sy'n cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru. Bydd yr un peth yn wir am unrhyw un sy'n gwrthod darparu'r wybodaeth y mae ei hangen ar y Cyngor er mwyn cynnal asesiad ariannol o'r fath.
3.5. Ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth sy'n gofyn am asesiad ariannol o'u gallu i dalu taliadau gofal cymdeithasol, ac sy'n darparu'r wybodaeth angenrheidiol i'r Cyngor, bydd eu cyfraniad tuag at y taliadau hynny'n cael ei gyfrifo'n unol â'r ddeddfwriaeth / canllawiau perthnasol a bydd hefyd yn amodol ar unrhyw derfynau cyfraniad sy'n cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru.
3.6. Mae darpariaethau yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant sy'n caniatáu rhywfaint o ddisgresiwn i awdurdodau lleol mewn perthynas â thaliadau gofal cymdeithasol ac elfennau amrywiol o'r asesiad ariannol. Mae manylion ynghylch penderfyniadau'r awdurdod mewn perthynas â'r meysydd hyn ar gael yn Atodiad 4 yr adroddiad hwn.
3.7. Ar hyn o bryd, mae'r Gyfarwyddiaeth Gofal Cymdeithasol yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau eraill nad ydynt efallai'n cael eu hystyried yn draddodiadol yn ddarpariaeth gofal cymdeithasol (er enghraifft gwasanaethau dysgu gydol oes a chanolfannau dysgu awyr agored). Lle caniateir gwneud hynny, bydd y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol yn codi tâl am wasanaethau o'r fath, yn amodol ar unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol ac o dan yr egwyddor gyffredinol o adennill costau llawn. Caiff manylion y taliadau eu cyhoeddi'n flynyddol yn adroddiad adolygiad blynyddol y Cyngor o daliadau'r Gwasanaethau Cymdeithasol.
3.8. Bydd y Cyngor bob amser yn ceisio casglu cyfraniadau llawn defnyddwyr gwasanaeth tuag at gost eu gofal, gan fod angen yr incwm hwn i ariannu'r ddarpariaeth gofal yn ardal Abertawe.
4. Y sail statudol ar gyfer codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol a chymorth
4.1. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ("y Ddeddf") yn darparu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer codi tâl am wasanaethau gofal a chymorth. Mae Adran 59 o'r Ddeddf yn caniatáu i'r awdurdod lleol godi tâl ar unigolyn sy'n defnyddio'r gwasanaethau gofal a chymorth. Mae Adrannau 50 a 63 yn rhoi dyletswydd ar yr awdurdod lleol i gynnal asesiad o adnoddau ariannol unigolyn er mwyn pennu'r swm y bydd yn ofynnol iddo ei dalu tuag at gostau'r gwasanaethau gofal a chymorth y mae'n eu derbyn.
4.2. Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015 (fel y'i diwygiwyd), Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffïoedd) (Cymru) 2015 (fel y'i diwygiwyd) a Chôd Ymarfer Rhan 4 a 5 (Codi Ffïoedd ac Asesiadau Ariannol) Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd o dan Adran 145 o'r Ddeddf yn nodi'r manylion ynghylch codi tâl am wasanaethau gofal a chymorth.
5. Datganiad polisi mewn perthynas â chodi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol a chymorth
5.1. Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015 (fel y'i diwygiwyd), Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffïoedd) (Cymru) 2015 (fel y'i diwygiwyd) a Chôd Ymarfer Rhan 4 a 5 (Codi Ffïoedd ac Asesiadau Ariannol) Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd o dan Adran 145 o'r Ddeddf yn nodi'r manylion ynghylch codi tâl am wasanaethau gofal a chymorth.
5.2. O dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, gall yr awdurdod lleol godi tâl ar gyfer y canlynol yn unig:
- hyd at y gost o ddarparu'r gwasanaeth
- yr hyn y gall y person ei fforddio (fel a bennir gan y broses asesu ariannol)
5.3. Ni fydd Cyngor Abertawe'n codi tâl am wasanaethau:
- Lle na chaniateir iddo wneud hynny o dan y rheoliadau neu pan gaiff ei gynghori i beidio â gwneud hynny yng Nghôd Ymarfer Llywodraeth Cymru.
- NEU pan fydd wedi dewis arfer ei ddisgreiswn i beidio â gwneud hynny ar ôl ystyried blaenoriaethau strategol corfforaethol a chanlyniadau lles y boblogaeth.
- NEU pan ddarperir gwasanaeth o dan grant penodol sy'n talu am gost lawn y gwasanaeth hwnnw.
5.4. Mae Cyngor Abertawe'n cadw'r hawl i wneud newidiadau i'w drefniadau codi tâl y tu hwnt i'r rhai a nodir yn y polisi hwn neu ar wahân iddynt, pe bai'n ofynnol iddo wneud hynny oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'w reolaeth. Er enghraifft, os yw llywodraeth genedlaethol (Cymru neu'r DU) yn diwygio'r trefniadau ariannol ar gyfer gofal cymdeithasol, trethiant cyflogwyr neu ddeddfwriaeth reoleiddiol arall (er enghraifft cynnydd i'r cyflog byw), gan roi pwysau ariannol, rheoleiddiol, gweithdrefnol neu bwysau ychwanegol eraill ar yr awdurdod lleol y mae angen eu hariannu.
6. Gwasanaethau y codir tâl amdanynt
6.1. Mae Cyngor Abertawe wedi penderfynu codi tâl am y gwasanaethau canlynol o fis Ebrill 2025, p'un a ydynt yn cael eu darparu'n fewnol neu gan y sector preifat:
6.2. Taliadau cyffredinol:
- Gofal preswyl
- Gofal a chymorth cartref (gan gynnwys gwasanaethau gofal ychwanegol)
- Gwasanaethau dydd
- Teleofal - lle mae'n rhan o anghenion asesedig person
- Taliadau uniongyrchol / cymorth a gyfeirir gan ddinasyddion / cyllidebau cymorth
- Rhannu Bwydyau
- Byw â Chymorth
- Costau sefydlu a gweinyddu Cynlluniau Taliadau Gohiriedig
- Seibiant yn y cartref.
6.3. Taliadau am wasanaethau nad ydynt yn rhan o anghenion asesedig person:
- Prydau a dderbynnir yn ystod y cyfnod o amser a dreulir yn y ganolfan ddydd neu mewn lleoliadau tai gofal ychwanegol
- Lifeline / Larymau Cymunedol
6.4. Ffïoedd yr Is-adran Eiddo ac Arian Cleientiaid
7. Gwasanaethau na chodir tâl amdanynt
7.1. Ni chodir tâl am y gwasanaethau canlynol ar hyn o bryd:
- Gwasanaethau Gofalwyr
- Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
- Darparu gwybodaeth a chyngor
- Gwasanaethau ailalluogi sydd â therfyn amser
- Cyfleoedd gwaith
- Cost weinyddol trefnu gwasanaethau ar ran y rhai sy'n hunanariannu eu gofal a'u cymorth
- Gweithgareddau addysg
7.2. Mae deddfwriaeth yn atal codi tâl am y canlynol:
- Gofal a chymorth a ddarperir fel ailalluogi ar gyfer unigolyn (am hyd at 6 wythnos fel arfer) i'w alluogi i gynnal neu adennill ei allu i fyw'n annibynnol gartref, darparu cludiant i deithio i wasanaeth dydd lle mae'r cludiant yn cael ei ddarparu neu ei drefnu gan yr awdurdod lleol, a lle mae'r gwasanaeth dydd a'r cludiant yn rhan o'r cynllun gofal a chymorth a reolir ar gyfer yr unigolyn.
- Ni ddylid codi tâl am ddarparu asesiad o anghenion, cynllunio gofal, cynlluniau gofal a darparu datganiadau o daliadau, gan nad yw'r prosesau hyn yn gyfwerth â darparu gofal a chymorth. Mae hyn yn cynnwys darparu gwybodaeth a chyngor.
- Cynnal adolygiad o benderfyniad i godi tâl lle mae'n ofynnol i wneud hynny.
- Gofal a chymorth ar gyfer plentyn neu gymorth ar gyfer plentyn sy'n ofalwr a thaliadau uniongyrchol i sicrhau cymorth o'r fath.
- Cludiant i wasanaethau dydd lle darperir cludiant er mwyn diwallu anghenion unigolyn.
- Eiriolaeth broffesiynol annibynnol, lle bo awdurdod lleol wedi trefnu i hon gael ei darparu yn unol â'r côd ymarfer eiriolaeth o dan ran 10 (Cwynion, Sylwadau a Gwasanaethau Eirioli) o'r Ddeddf, lle nad yw unigolyn yn gallu goresgyn y rhwystrau i gymryd rhan lawn yn y prosesau asesu, cynllunio gofal a chymorth, adolygu a diogelu heb gymorth unigolyn priodol, ac nad oedd unrhyw unigolyn o'r fath ar gael.
- Gwasanaethau synhwyraidd.
8. Beth fydd y gost lawn am wasanaethau gofal cymdeithasol?
8.1. Ymagwedd Cyngor Abertawe at godi tâl yw y dylai gefnogi blaenoriaethau strategol corfforaethol, bod yn gynaliadwy yn y tymor hwy a dylai trefniadau codi tâl fod yn gyfartal ac yn deg.
8.2. Er enghraifft, dylid trin pob cleient sydd â'r un angen asesedig bras am ofal a chymorth yn gyfartal ac felly dylai'r un taliadau gros fod yn berthnasol.
8.3. Byddai'r swm i'w dalu ar y diwedd yn amodol ar asesiad ariannol a fydd yn adlewyrchu gallu unigol pobl i dalu.
8.4. Gall y Cyngor godi tâl am hyd at y gost o ddarparu'r gwasanaeth yn unig, felly bydd cost wirioneddol darparu gwasanaeth yn cael ei phennu bob blwyddyn, yna bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch y tâl llawn i'w godi, gan ystyried y gost honno a'r gofynion uchod.
9. Adolygiad blynyddol o daliadau gofal cymdeithasol
9.1. Adolygir penderfyniadau i godi tâl neu beidio o dan bwerau disgresiwn yr awdurdod a'r swm i'w godi yn flynyddol wrth bennu'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, neu'n fwy rheolaidd os oes angen. Bydd hyn yn cael ei wneud yn unol â threfniadau rheoli corfforaethol. Bydd y taliadau diwygiedig hyn, mewn amgylchiadau arferol, yn berthnasol ar ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf, ond lle yr ystyrir bod hynny'n angenrheidiol ac yn briodol gellir dewis dyddiad cychwyn gwahanol.
9.2. Caiff manylion y taliadau eu cyhoeddi'n flynyddol yn adroddiad adolygiad blynyddol y Cyngor o daliadau'r Gwasanaethau Cymdeithasol.
10. Newidiadau yn ystod y flwyddyn i daliadau gofal cymdeithasol presennol neu newydd
10.1. Gall fod amgylchiadau pan fydd angen newid y tâl presennol neu godi tâl newydd yn ystod blwyddyn ariannol.
10.2. Bydd unrhyw newidiadau o'r fath i'r taliadau yn destun prosesau adolygu achos busnes arferol, ymgynghoriad cyhoeddus lle bo'n briodol ac asesiad effaith integredig yn ôl yr angen.
10.3. Bydd y broses honno'n cynnwys penderfynu ar y dyddiad y daw'r tâl newydd i rym, y swm i'w godi a phob mater perthnasol arall.
11. Faint o arian fydd yn rhaid i berson ei dalu tuag at y gost lawn am ei ofal?
11.1. Mae deddfwriaeth a chanllawiau, gan gynnwys Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015, Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffïoedd) (Cymru) 2015 a Chôd Ymarfer Rhan 4 a 5 (Codi Ffïoedd ac Asesiadau Ariannol) Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd o dan Adran 145 o'r Ddeddf, yn nodi'r darpariaethau ynghylch asesu cyfraniad cleient tuag at gost ei wasanaeth gofal cymdeithasol a chymorth.
11.2. Os nad yw unigolyn neu ofalwr yn dymuno cael asesiad ariannol neu os yw'n gwrthod cydweithredu â'r broses asesu ariannol, tybir bod ganddo'r modd i dalu am gost lawn ei ofal yn achos gofal preswyl, neu hyd at yr uchafswm wythnosol a bennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau gofal a chymorth eraill.
11.3. Os oes gan y Cyngor reswm i gredu y gallai'r unigolyn fod wedi ceisio osgoi talu am ofal a chymorth yn fwriadol drwy beidio â datgelu'n llawn fanylion ei amgylchiadau personol ac ariannol, neu drwy leihau ei asedau, boed hynny'n gyfalaf neu'n incwm, bydd yr awdurdod yn ceisio adennill y costau hynny.
- Lle bo'r Cyngor yn fodlon bod unigolyn wedi trosglwyddo cyfalaf neu ased cyfalaf i drydydd parti, neu wedi cael gwared ar ased cyfalaf i osgoi neu leihau taliadau, caiff ei gyfraniad tuag at ei gostau gofal ei asesu fel pe bai ganddo'r cyfalaf hwnnw o hyd.
- Lle bo'r Cyngor yn penderfynu bod unigolyn wedi trosglwyddo'r ased i drydydd parti er mwyn osgoi taliadau'n rhannol neu'n gyfan gwbl, gall y trydydd parti fod yn agored i dalu i'r awdurdod lleol y gwahaniaeth rhwng yr hyn y byddai wedi'i godi a'r hyn sy'n cael ei godi mewn gwirionedd ar yr unigolyn sy'n derbyn gwasanaethau gofal a chymorth, gan ystyried gwerth yr ased.
11.4. Ar gyfer pobl sydd wedi darparu'r wybodaeth angenrheidiol i alluogi'r Cyngor i gynnal asesiad ariannol o'u gallu i dalu taliadau gofal, bydd yr asesiad yn cyfrifo'r swm mwyaf y gofynnir i unigolyn ei dalu tuag at ei gostau gofal.
11.5. Ar gyfer Gwasanaethau Gofal Seibiant Preswyl lle na fwriedir i rywun aros am fwy nag 8 wythnos, bydd y tâl yn cynnwys uchafswm tâl wythnosol a bennir gan Lywodraeth Cymru fel a nodir yn Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffïoedd) (Cymru) 2015.
11.6. Yn achos gwasanaethau gofal a chymorth dibreswyl, bydd y tâl hefyd yn cynnwys uchafswm tâl wythnosol a bennir gan Lywodraeth Cymru fel a nodir yn Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffïoedd) Cymru 2015. Fodd bynnag, dim ond y gwasanaethau gwirioneddol y mae'r unigolyn yn eu derbyn y bydd yn talu amdanynt, a all gostio llai na'r uchafswm tâl wythnosol a aseswyd.
11.7. Gellir codi taliadau cyfradd safonol ar wahân ac efallai na fyddant yn ddarostyngedig i'r uchafswm tâl wythnosol am ofal a chymorth fel a nodir gan Lywodraeth Cymru.
12. Dyled
12.1. Ystyrir unrhyw anfonebau nad ydynt yn cael eu talu'n ddyled a bydd y Cyngor yn eu hadennill. Gall hyn arwain at gamau adennill dyledion drwy'r llysoedd os nad yw'r taliad yn cael ei dderbyn. Achos llys yw'r dewis olaf a ddefnyddir pan fo'r dyledwr wedi methu ymgysylltu'n gadarnhaol â'r awdurdod mewn perthynas â thalu.
12.2. Cynigir taliad gohiriedig lle bo'n briodol. Mewn achosion lle mae taliad gohiriedig wedi'i wrthod, neu lle nad yw'r unigolyn yn gymwys, mae gan yr awdurdod lleol y pŵer o dan Adran 71 o'r Ddeddf i greu arwystl dros fuddiant yr unigolyn mewn tir i sicrhau taliad sy'n ddyledus am wasanaethau gofal a chymorth lle nad yw taliad wedi'i wneud.
13. Costau ychwanegol (taliadau trydydd parti ychwanegol)
13.1. Mae rhai cartrefi gofal yn codi taliadau uwch na'r rhai safonol a delir gan yr awdurdod. Os gellir darparu'r gwasanaethau gofal a chymorth y mae eu hangen gan gartrefi gofal sy'n derbyn y taliadau safonol, yna bydd yr awdurdod yn talu swm sy'n cyfateb i'r taliadau hynny yn unig.
13.2. Fodd bynnag, gall person ddewis cartref gofal sy'n codi mwy nag y byddai'r awdurdod lleol fel arfer yn disgwyl ei dalu am ddarparu llety o'r fath ar gyfer yr unigolyn hwnnw.
13.3. Os yw'r unigolyn wedi dewis cartref gofal drutach, bydd angen dod i gytundeb ynghylch sut i dalu'r gwahaniaeth mewn cost. Y gost ychwanegol hon yw'r gwahaniaeth rhwng swm taliadau safonol yr awdurdod lleol a chost wirioneddol y cartref gofal a ddewisir gan yr unigolyn.
13.4. Bydd yn rhaid i'r unigolyn nodi trydydd parti (nid y person sy'n derbyn gofal) sy'n gallu talu cost ychwanegol y llety a ddewisir am gyfnod llawn ei arhosiad. Gall yr awdurdod asesu gallu'r trydydd parti hwnnw i dalu'r gost ychwanegol am gyfnod y trefniant. Mewn rhai achosion, efallai y caniateir i'r unigolyn dalu'r gost ychwanegol ei hun.
13.5. Os bydd amgylchiadau ariannol neu bersonol y trydydd parti yn newid i'r graddau nad yw'n gallu parhau i dalu'r costau ychwanegol, efallai y bydd angen i'r person sy'n derbyn gofal symud i lety arall lle nad oes taliadau ychwanegol ar ei gyfer.
14. Beth fydd y gost laawn am wasnaethau gofal cymdeithasol?
14.1. Mae atebolrwydd am dalu am wasanaethau gofal cymdeithasol fel arfer yn dechrau o'r diwrnod cyntaf y darperir gofal a chymorth.
14.2. Fodd bynnag, ni fydd angen i'r defnyddiwr gwasanaeth gyfrannu at y taliadau hynny nes y bydd yr awdurdod lleol yn anfon hysbysiad sy'n cyhoeddi'r cyfraniad y mae angen ei wneud a'r dyddiad y mae angen dechrau talu'r cyfraniad hwnnw. Gall gymryd rhai wythnosau i gyhoeddi hysbysiad.
15. Ailasesu a dulliau apelio
15.1. Pryd y gallai fod angen asesiad ariannol newydd?
15.1.1. O dro i dro, bydd angen cynnal asesiad ariannol newydd i sicrhau bod cyfraniad y defnyddwyr gwasanaeth tuag at eu costau gofal yn gywir ac yn gyfredol. Er enghraifft, os yw incwm neu gyfalaf unigolyn wedi newid, os yw ei amgylchiadau personol wedi newid neu os yw ei gynllun gofal a chymorth wedi newid.
15.1.2. Mae'n bosib, ar ôl yr adolygiad/ailasesiad ariannol, y bydd newid i'r swm y mae'n ofynnol i unigolyn ei gyfrannu. Bydd yr unigolyn yn cael ei hysbysu ynghylch canlyniad yr asesiad yn ysgrifenedig.
15.2. Cais am adolygiad o ganlyniad asesiad ariannol
15.2.1. Os nad yw unigolyn yn cytuno â chanlyniad asesiad ariannol, y taliadau a godir neu'r cyfraniad y mae'n rhaid iddo ei dalu, gall wneud cais am adolygiad. Gall y cais am adolygiad gael ei wneud unrhyw bryd ar ôl i'r awdurdod lleol wneud ei benderfyniad ac ar ôl i'r penderfyniad hwn gael ei gyfleu i'r unigolyn. Mae'n rhaid i'r unigolyn ddatgan y rhesymau dros wneud cais am adolygiad a dylid gwneud hyn yn ysgrifenedig i sicrhau bod gan y Cyngor yr holl wybodaeth angenrheidiol i gynnal yr adolygiad.
15.2.2. Gall cynrychiolydd weithredu ar ran yr unigolyn i ofyn am adolygiad.
15.2.3. I wneud cais am adolygiad o'r canlyniad, dylai'r unigolyn neu ei gynrychiolydd gysylltu â Thîm Incwm a Chyllid Gofal Cymdeithasol y Cyngor, a fydd yn:
- Gwirio bod yr wybodaeth ariannol yn y cyfrifiad yn gywir.
- Edrych ar unrhyw wybodaeth newydd a ddarperir gan yr unigolyn.
- Gwirio bod y cyfraniad a aseswyd wedi'i gyfrifo'n gywir.
- Penderfynu a oedd y penderfyniad yn deg ac yn gywir.
Bydd yr unigolyn yn cael ei hysbysu am ganlyniad yr adolygiad yn ysgrifenedig.
15.2.4. Os yw'r Cyngor wedi penderfynu bod unigolyn wedi trosglwyddo asedau i berson arall (y trosglwyddai atebol) er mwyn lleihau ei dâl neu ei gyfraniad, gall y 'trosglwyddai atebol' ofyn am adolygiad o'r penderfyniad i godi tâl arno gan ddefnyddio'r broses a nodir uchod.
15.3 Apeliadau yn erbyn canlyniad asesiad ariannol
15.3.1. Os yw unigolyn yn parhau i anghytuno â chanlyniad yr adolygiad, gall gyflwyno cwyn ffurfiol i'r Cyngor drwy ei weithdrefn gwynion ffurfiol.
15.3.2. Bydd yr unigolyn yn cael ei hysbysu ynghylch canlyniad y gŵyn yn ysgrifenedig. Dim ond pan fydd yn ystyried nad yw'r Cyngor wedi gwneud penderfyniad a ystyriwyd yn briodol wrth benderfynu ar ei adolygiad y gall unigolyn wneud cwyn, er enghraifft:
- Nid yw wedi dilyn y polisi codi tâl ar gyfer gwasanaethau gofal a chymorth (y polisi hwn)
- Nid yw wedi dilyn Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
- Nid yw wedi ystyried yr wybodaeth berthnasol yn iawn.
16. Twyll
16.1. Mae'n ofynnol i Gyngor Abertawe ddiogelu'r arian cyhoeddus y mae'n ei weinyddu. Credir mai twyll sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol i oedolion yw un o'r meysydd twyll â'r risg uchaf, ac mae'n costio tua £13.7 miliwn y flwyddyn i gynghorau ar draws y DU. Gwerth pob achos ar gyfartaledd yw £29,000.
16.2. Mae enghreifftiau o dwyll sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol i oedolion yn cynnwys y canlynol:
- Gorliwio anabledd neu salwch i dderbyn mwy o gymorth.
- Peidio â datgan incwm, budd-daliadau, cynilion, neu gyfalaf mewn asesiadau ariannol, neu beidio â datgan y symiau llawn.
- Defnyddio taliadau uniongyrchol ar gyfer gwariant nad yw'n ymwneud â gofal.
- Darparwyr gofal yn hawlio am oriau gofal nas darparwyd.
16.3. Bydd y Cyngor yn croeswirio'r data sydd ganddo eisoes a bydd yn ei groeswirio gyda sefydliadau eraill fel yr Adran Gwaith a Phensiynau i ganfod ac atal twyll gofal cymdeithasol.
16.4. Lle y bo'n briodol, bydd yn erlyn unrhyw un y mae'n ystyried ei fod yn euog o droseddau o'r fath yn ôl y gyfraith.
16.5. Gall hefyd rannu gwybodaeth a ddarperir iddo â chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus er mwyn atal a chanfod gweithredoedd twyllodrus eraill.
17. Gwasanaethau a ddarperir gan y Gyfarwyddiaeth Gofal Cymdeithasol y tu allan i ddarpariaeth y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.
17.1. Y sail statudol ar gyfer codi tâl am wasanaethau y tu allan i'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
17.1.1. Mae Deddf Llywodraeth Leol 2003 yn cynnwys pŵer cyffredinol i awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru a Lloegr godi tâl am wasanaethau dewisol. Mae dyletswydd ar awdurdodau i sicrhau nad yw incwm o daliadau yn fwy na chostau'r ddarpariaeth o flwyddyn i flwyddyn. Rhaid i awdurdodau hefyd feddu ar y pŵer i ddarparu'r gwasanaeth eisoes. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau dewisol a ddarperir o dan bwerau lles yn Neddf Llywodraeth Leol 2000.
17.1.2. Ar hyn o bryd, mae'r Gyfarwyddiaeth Gofal Cymdeithasol yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau eraill nad ydynt efallai'n cael eu hystyried yn draddodiadol yn ddarpariaeth gofal cymdeithasol. Lle caniateir gwneud hynny, bydd y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol yn codi tâl am wasanaethau o'r fath, yn amodol ar unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol.
17.1.3. Gwasanaethau y tu allan i'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y codir tâl amdanynt:
- Gwasanaethau Dysgu Gydol Oes
- Canolfannau a gweithgareddau dysgu yn yr awyr agored
- Pasbort i Hamdden
17.2. Faint o dâl o godir am y gwasanaethau hyn?
17.2.1. Bydd y gost wirioneddol o ddarparu'r gwasanaethau gofal cymdeithasol amrywiol yn cael ei chyfrifo bob blwyddyn yn y cyfnod cyn pennu cyllideb flynyddol y Cyngor gan ddefnyddio'r wybodaeth sydd ar gael bryd hynny. Bydd y cyfrifiad hwnnw'n cael ei ddefnyddio i gyfrifo'r tâl llawn ar gyfer pob math o wasanaeth a bydd yn cael ei gyhoeddi'n flynyddol.
17.2.2. Yn dibynnu ar natur y gwasanaeth, efallai y bydd ystyriaethau eraill hefyd yn cael eu defnyddio i benderfynu ar y tâl terfynol, a all gynnwys dichonoldeb masnachol a grymoedd y farchnad lle bo'n briodol.
17.2.3. Disgwylir i reolwyr adolygu ffïoedd a thaliadau yn flynyddol fel rhan o broses y gyllideb, gyda rhagdybiaeth y bydd y cyfan yn cynyddu'n unol â chwyddiant.
17.2.4. Caiff manylion y taliadau eu cyhoeddi'n flynyddol yn adroddiad adolygiad blynyddol y Cyngor o daliadau'r Gwasanaethau Cymdeithasol.
17.3. Adolygiad blynyddol o daliadau am wasanaethau y tu allan i'r Ddeddf Gwasanaethau cymdeithasol a Llesiant 2014
17.3.1. Adolygir penderfyniadau i godi tâl neu beidio o dan bwerau disgresiwn yr awdurdod a'r swm i'w godi yn flynyddol wrth bennu'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, neu'n fwy rheolaidd os oes angen. Bydd hyn yn cael ei wneud yn unol â threfniadau rheoli corfforaethol. Bydd y taliadau diwygiedig hyn, mewn amgylchiadau arferol, yn berthnasol ar ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf, ond lle yr ystyrir bod hynny'n angenrheidiol ac yn briodol gellir dewis dyddiad cychwyn gwahanol.
17.3.2. Caiff manylion y taliadau eu cyhoeddi'n flynyddol yn adroddiad adolygiad blynyddol y Cyngor o daliadau'r Gwasanaethau Cymdeithasol.
17.3.3. Caiff manylion y taliadau eu cyhoeddi'n flynyddol yn adroddiad adolygiad blynyddol y Cyngor o daliadau'r Gwasanaethau Cymdeithasol.
17.4. Newidiadau yn ystod y flwyddyn i daliadau presennol neu newydd am wasanaethau y tu allan i'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014
17.4.1. Gall fod amgylchiadau pan fydd angen newid y tâl presennol neu godi tâl newydd yn ystod blwyddyn ariannol. Bydd unrhyw newidiadau o'r fath i'r taliadau yn destun prosesau adolygu achos busnes arferol, ymgynghoriad cyhoeddus lle bo'n briodol ac asesiad effaith integredig yn ôl yr angen.
17.4.2. Bydd y broses honno'n cynnwys penderfynu ar y dyddiad y daw'r tâl newydd i rym, y swm i'w godi a phob mater perthnasol arall.
17.4.3. Caiff manylion y taliadau eu cyhoeddi'n flynyddol yn adroddiad adolygiad blynyddol y Cyngor o daliadau'r Gwasanaethau Cymdeithasol.
18. Atodiad 1 - Canllawiau a dogfennau perthnasol
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 https://www.legislation.gov.uk/cy/anaw/2014/4/contents
- Rheoliadau https://gofalcymdeithasol.cymru/adnoddau-canllawiau/hyb-gwybodaeth-a-dysgu/deddf-sswb/deddf-sswb-rheoliadau
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: côd ymarfer diwygiedig rhan 4 a 5 www.llyw.cymru/codi-tal-am-ofal-cymdeithasol
19. Atodiad 2 - gwariant sy'n gysylltiedig ag anabledd (Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Chymorth)
19.1. Disgresiwn i ddiystyru unrhyw dreuliau ychwanegol sy'n ymwneud ag anabledd
Mae gan y Cyngor y disgresiwn i ddiystyru unrhyw dreuliau ychwanegol sy'n ymwneud ag anableddau mewn rhai amgylchiadau. Y Pennaeth Gwasanaeth neu ei gynrychiolydd enwebedig fydd yn penderfynu pryd i ddefnyddio'r disgresiwn hwnnw.
19.2. Gwasanaethau Gofal Preswyl
Mae gan y Cyngor ddisgresiwn i ddiystyru treuliau ychwanegol dros y rhai sy'n cael eu diystyru fel rhai safonol, ac a ysgwyddir yn rhesymol gan breswylwyr ar gyfer eitemau sy'n ymwneud ag anabledd nad ydynt yn cael eu darparu gan y cartref gofal neu gan y Bwrdd Iechyd, neu sydd ar gyfer treuliau sy'n ymwneud â'r eiddo y maent yn berchen arno.
19.3. Gwasanaethau gofal dibreswyl
Mae gan y Cyngor ddisgresiwn i ddiystyru treuliau ychwanegol dros y rhai sy'n cael eu diystyru fel rhai safonol, ac a ysgwyddir yn rhesymol gan breswylwyr ar gyfer eitemau sy'n ymwneud ag anabledd sy'n gysylltiedig ag anghenion a nodir yng nghynllun gofal a chymorth person a fydd yn ei helpu i fyw'n annibynnol, lle nad yw'r rhain wedi'u cynnwys yn y lwfansau sydd wedi'u cynnwys yn awtomatig yn yr asesiad ariannol.
19.4. Beth yw costau gwariant sy'n gysylltiedig ag anabledd?
19.4.1. Fel arfer mae'r costau hyn yn perthyn i un o'r tri chategori hyn:
- Eitemau a gwasanaethau arbenigol: eitemau i helpu gydag anableddau fel cadeiriau olwyn neu gadeiriau gogwyddol trydan.
- Cynnydd o ran y defnydd o eitemau a gwasanaethau nad ydynt yn arbenigol: gall fod yn rhaid i bobl anabl ddefnyddio mwy o bethau, fel trafnidiaeth neu wres.
- Eitemau a gwasanaethau cost uwch nad ydynt yn arbenigol: gall fod yn rhaid i berson ddefnyddio pethau sy'n costio mwy na'r cyfartaledd, fel gwasanaeth dosbarthu i'r cartref.
19.4.2. Ni chaiff lwfansau dewisol ar gyfer gwariant sy'n ymwneud ag anabledd eu rhoi oni bai fod y costau hynny:
- Yn cael eu talu'n llawn gan y person sy'n cael ei asesu'n ariannol.
- Yn ymwneud yn arbennig â'r anabledd dan sylw.
- Yn uwch na'r hyn y disgwylir yn rhesymol y byddai person nad yw'n anabl yn ei wario.
19.4.3. Byddai disgwyl bod y person wedi ymchwilio'n rhesymol i ddod o hyd i'r pris gorau cyn gwario unrhyw arian, fel y byddai unrhyw un yn ei wneud wrth wario swm sylweddol ar rywbeth.
19.4.4. Mae'n bosib y gofynnir i ymgeiswyr ddarparu rhagor o wybodaeth i gefnogi eu cais, fel tystiolaeth ategol i brofi bod y gost ychwanegol wedi'i hysgwyddo a thystiolaeth bod y gost yn gysylltiedig â'u hanabledd. Gellir gofyn am y dystiolaeth honno o bryd i'w gilydd i sicrhau bod yr asesiad ariannol yn parhau'n gyfredol.
19.4.5. Wrth ystyried a ellir cyfrif y gost ychwanegol a ddatganwyd, bydd y Cyngor yn ystyried materion amrywiol gan gynnwys y canlynol. Ni fwriedir i'r rhestr hon fod yn hollgynhwysfawr, nac yn rhagnodol. Ei unig fwriad yw dangos y materion y bydd y Cyngor yn eu hystyried:
- Ai'r person sy'n cael ei asesu'n ariannol sy'n gyfrifol am y gwariant?
- A yw'r person yn derbyn budd-dal sy'n ymwneud ag anabledd?
- A ellir ystyried yn rhesymol fod yr eitem yn gost sy'n gysylltiedig ag anabledd mewn perthynas ag angen a nodwyd drwy asesiad gofal y person?
- A yw'r gost yn ymwneud yn benodol â'r anabledd dan sylw?
- A yw'r gost yn rhywbeth rheolaidd?
- A yw'r gost yn uwch na'r hyn y disgwylir yn rhesymol y byddai person nad yw'n anabl yn ei wario?
- A oes dewis rhesymol arall ar gael am gost ratach?
- A fydd yr eitem/gwasanaeth dan sylw yn helpu'r person i fyw'n annibynnol?
- A yw'r eitem yn cael ei darparu mewn ffordd arall neu a ellid darparu ar ei chyfer mewn ffordd arall, er enghraifft drwy fudd-daliadau, grant neu'r GIG?
- A all y person, ac a ddylai'r person, fod yn cyflawni'r dasg ei hun? Er enghraifft, gallai garddio fod o fudd i'w iechyd corfforol a/neu feddyliol.
19.4.6. Bydd Cyngor Abertawe'n cynnwys taliad Lifeline fel gwariant ychwanegol sy'n gysylltiedig ag anabledd wrth gyfrifo cyfraniad person tuag at gost ei ofal cymdeithasol, pan fo person yn gwneud taliadau o'r fath. Mae hyn oherwydd bod Lifeline yn cyflawni swyddogaeth hollbwysig drwy alluogi pobl i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.
19.5. Pa gostau na fyddent fel arfer yn cael eu hystyried yn wariant sy'n ymwneud ag anabledd?
Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr nac yn rhagnodol:
- Cost gofal iechyd preifat (e.e. tanysgrifiad BUPA)
- Trin gwallt (gan gynnwys steilio, lliwio, torri ac eraill). Dim ond golchi gwallt fyddai'n rhan o'r cynllun gofal a chymorth
- Cost gofal deintyddol preifat
- Costau byw safonol (e.e. bwyd, trwydded deledu, tocynnau ar gyfer y sinema, mynd i'r dafarn, llinell ffôn, y gampfa, etc.)
- Trefniadau ar gyfer angladdau
- Hyfforddwr personol
- Anghenion deietegol nad ydynt yn angenrheidiol yn feddygol (e.e. diodydd swigod a danteithion etc.)
- Gofal personol - i'w gynnwys yn y cynllun gofal a chymorth
- Gofal seibiant preifat dewisol/gwyliau - i'w gynnwys yn y cynllun gofal a chymorth
- Cludiant i apwyntiadau meddygol ac oddi yno
- Cludiant i leoedd a nodwyd i ddiwallu anghenion cymwys (e.e. canolfannau dydd) ac oddi yno - i'w gynnwys yn y cynllun gofal a chymorth
- Costau cyfreithiol a ysgwyddir gan oedolion i gynnal unrhyw hawliau cyfreithiol
- Ffisiotherapi, hydrotherapi a therapïau amgen eraill - os yw'r rhain yn anghenion iechyd, bydd y GIG yn eu hariannu
- Garddio (gan gynnwys tirlunio, gwelyau blodau etc.) - oni bai ei fod yn gyfyngedig i gostau rhesymol cynnal a chadw gardd sylfaenol ac os oes angen hynny oherwydd anabledd yr unigolyn - e.e. mynedfa flaen a chefn i sicrhau mynediad diogel, neu oni bai fod gofyniad penodol yng nghytundeb tenantiaeth y person.
- Treuliau meddygol/deintyddol nad ydynt yn gysylltiedig ag anabledd
- Cytundeb ffôn symudol
- Costau dirprwyaeth (a godir gan Dîm Dirprwyaeth Abertawe neu unrhyw weithiwr proffesiynol arall)
- Gofal cartref preifat/glanhawr
19.6. Sut y cyfrifir cost sy'n ymwneud ag anabledd?
Mae'r ffordd yr ydym yn cyfrifo cost pob eitem/gwasanaeth yn dibynnu ar beth yw'r eitem/gwasanaeth dan sylw. Bydd y Cyngor yn derbyn amcangyfrif rhesymol pan nad yw cyfrifiad manwl gywir yn bosib. Dyma rai enghreifftiau:
- Offer/cymhorthion: rhannu cost yr eitem â'i hyd oes disgwyliedig. Dyma'r gost dros amser. Er enghraifft, os prynwyd matres arbennig oherwydd anghenion meddygol am £480 ac mae disgwyl iddi bara dwy flynedd: £480 ÷ 24 = £20 y mis.
- Ar gyfer taliadau rheolaidd am wasanaethau fel gofal ac yswiriant cadair olwyn, dylai anfonebau/biliau fod ar gael.
- Costau cyfleustodau ychwanegol: gellir defnyddio'r gost wirioneddol a thynnu'r cyfartaledd ar gyfer cartref maint tebyg.
Bydd penderfyniadau ynghylch a ellir ystyried treuliau rhesymol ychwanegol eraill sy'n ymwneud ag anabledd yn asesiad ariannol person yn cael eu gwneud gan Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion neu ei gynrychiolydd enwebedig.
20. Atodiad 3 - Isafswm Incwm
20.1. Isafswm incwm ar gyfer asesiadau ariannol am ofal dibreswyl
20.1.1. Wrth gyfrifo taliad person, rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod unigolyn yn derbyn incwm wythnosol net nad yw'n is na'r Isafswm Incwm.
20.1.2. Os yw'r unigolyn yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Credyd Cynhwysol, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Gredyd Pensiwn (gwarantedig), yr isafswm incwm yw swm nad yw'n llai na 35% o uchafswm hawl safonol y budd-dal hwnnw, yn ogystal ag o leiaf 10% pellach o'r swm hwnnw i wneud iawn am wariant sy'n gysylltiedig ag anabledd.
20.1.3. Os nad yw unigolyn yn derbyn budd-dal perthnasol, man cychwyn y cyfrifiad yw hawl sylfaenol person i fudd-daliadau yn ôl asesiad rhesymol gan yr awdurdod lleol, gan ystyried ei oedran, ei amgylchiadau a lefel ei anabledd (yr hawl sylfaenol amcangyfrifedig).
20.1.4. Nid yw'r budd-dal penodol y mae gan unigolyn hawl sylfaenol i'w dderbyn wedi'i nodi yn y rheoliadau ac nid yw ychwaith wedi'i egluro yn y côd ymarfer. Felly mae Cyngor Abertawe wedi gwneud y penderfyniad rhesymol:
- Ar gyfer pensiynwyr - hawl sylfaenol yw hawl person sengl i gredyd gwarant (ond mae'r swm wedi'i gynnwys ar gyfer anabledd difrifol)
- Ar gyfer pobl nad ydynt yn bensiynwyr - hawl sylfaenol yw hawl person sengl i Gymhorthdal Incwm (gan gynnwys y premiwm anabledd uwch)
20.1.5. Telir y premiwm Anabledd Difrifol i helpu'r rhai sy'n ei dderbyn i dalu am eu gofal a chymorth lle bodlonir amodau cymhwyso penodol. Felly, mae'n rhesymol disgwyl iddynt ei ddefnyddio at y diben hwnnw. Mae'n cael ei ystyried fel incwm am yr un rheswm.
20.1.6. Bydd yr isafswm incwm yn cael ei gadarnhau yn y llythyr hysbysu a anfonwyd at yr unigolyn fel "Lwfansau Pellach".
20.1.7. Mae'r Lwfansau Budd-daliadau yn seiliedig ar ddadansoddiad o hawl person i fudd-daliadau'r wladwriaeth a fydd wedi'i chadarnhau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
20.1.8. Os nad yw'r unigolyn yn derbyn unrhyw fudd-daliadau gan y wladwriaeth ar gyfer incwm (fel Credyd Cynhwysol, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Gredyd Pensiwn), yna defnyddir isafswm incwm y lwfans sylfaenol.
20.1.9. Gall yr isafswm incwm a dderbynnir amrywio yn dibynnu ar oedran y dinesydd yn unol â'r rheoliadau sy'n berthnasol i'r budd-dal a dderbynnir. Bydd yr ystod oedran yn cynyddu yn unol â chynnydd arfaethedig y llywodraeth i oedran ymddeol y wladwriaeth.
20.1.10. Bydd y Cyngor yn arfer ei ddisgresiwn i gynyddu lwfans sylfaenol yr isafswm incwm fesul wythnos i gyd-fynd â lefel y premiwm anabledd uwch ar gyfer pobl sy'n bodloni'r meini prawf a nodir yn Atodiad 4 y ddogfen hon.
20.1.11. Bydd yr isafswm incwm yn cael ei adolygu bob blwyddyn a'i gynnwys yn adolygiad blynyddol y Cyngor o daliadau'r Gwasanaethau Cymdeithasol.
21. Atodiad 4 - Penderfyniadau mewn perthynas â darpariaethau dewisol yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac isddeddfwriaeth
21.1. Codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol a chymorth
Mae Cyngor Abertawe wedi penderfynu codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol a chymorth o dan Adran 59 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.
21.2. Cynnydd i'r Isafswm Incwm Sylfaenol
Fel rhan o adolygiad o weithdrefnau'r Cyngor i benderfynu a oedd unrhyw faterion yn codi o achos "Norfolk", nodwyd mai dim ond yr Isafswm Incwm "sylfaenol" isaf a ddefnyddir yn asesiadau ariannol nifer o ddinasyddion gan nad oes modd iddynt hawlio rhai budd-daliadau anabledd. Mae'r rhain yn bennaf yn cynnwys:
- Oedolion ifanc sy'n parhau mewn addysg amser llawn ar ôl 18 oed.
- Oedolion o oedran gweithio yn y cam asesu neu sydd ar Gredyd Cynhwysol - unwaith y byddant wedi'u hasesu, efallai y byddant yn gymwys i dderbyn y budd-daliadau anabledd hynny a bennir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Fodd bynnag, yn seiliedig ar dystiolaeth anecdotaidd, fel arfer byddai ganddynt hawl i'r lwfansau ychwanegol hynny ar ôl eu hasesu.
- Oedolion o oedran gweithio nad oes ganddynt hawl i fudd-daliadau anabledd sy'n dibynnu ar brawf modd am resymau ariannol, e.e. oherwydd incwm eu partner.
21.2.1. Ar gyfer y rhan fwyaf o'r cleientiaid hyn, wrth i'w hincwm gynyddu, gallai eu cyfraniad leihau mewn gwirionedd oherwydd bod yr incwm ychwanegol a roddir yn lwfans anabledd ac mae eu hawl i'r lwfans hwnnw'n cynyddu eu hisafswm incwm. O ganlyniad, mae'n rhaid i'r dinasyddion hynny nad yw eu hawl derfynol i fudd-daliadau sy'n gysylltiedig ag anabledd wedi'i phennu eto, neu nad ydynt yn gallu hawlio budd-daliadau anabledd sy'n gysylltiedig ag incwm ar gyfradd uwch am resymau ariannol, dalu mwy tuag at gost eu gofal cymdeithasol. Gall hyn fod yn barhaol neu nes bod proses asesu'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi'i chwblhau.
21.2.2. Er mwyn cymryd camau i unioni'r hyn y gellid ei ystyried yn anghydraddoldeb ac yn annhegwch, bydd lwfans sylfaenol yr isafswm incwm yn cael ei gynyddu fesul wythnos i gyd-fynd â lefel y premiwm anabledd uwch ar gyfer pobl sy'n bodloni'r meini prawf a nodir isod. Bydd y swm hwn yn cael ei adolygu bob blwyddyn i gyd-fynd ag unrhyw gynnydd yn y premiwm hwnnw a weithredir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
21.2.3. Rhaid i'r person fod â hawl i'r isafswm incwm sylfaenol yn unig yn ei asesiad ariannol, a rhaid bod â hawl i gyfradd uwch o Lwfans Byw i'r Anabl neu Elfen Byw Bob Dydd y Taliad Annibyniaeth Personol ar gyfradd uwch a:
a) Rhaid i'r person fod yn oedolyn ifanc sydd wedi parhau mewn addysg amser llawn ar ôl iddo gyrraedd 18 oed neu.
b) Rhaid i'r person fod yn oedolyn o oedran gweithio nad oes ganddo hawl i fudd-dal anabledd sy'n dibynnu ar brawf modd am resymau ariannol, e.e. oherwydd incwm ei bartner, ei gyfalaf ei hun etc., neu
c) Rhaid i'r person fod o oedran gweithio ac yng ngham asesu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Gredyd Cynhwysol.
21.2.4. Mewn perthynas â phobl yng ngrŵp c), os yw'r Adran Gwaith a Phensiynau, ar ddiwedd y cyfnod asesu, yn penderfynu nad oes ganddynt hawl i Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Gredyd Cynhwysol am unrhyw reswm heblaw am resymau ariannol, byddai atgyfeiriad yn cael ei wneud i Dîm Hawliau Lles y Cyngor i ystyried a ddylid apelio yn erbyn penderfyniad yr Adran Gwaith a Phensiynau neu a fyddai'n briodol ceisio cyngor arall ar gynyddu incwm. Gwneir hyn cyn i'r isafswm incwm ychwanegol gael ei ddileu o'r asesiad ariannol.
21.3. Disgresiwn cyffredinol i amrywio asesiadau ariannol mewn amgylchiadau eithafol
21.3.1. Mae gan yr awdurdod yr hawl i amrywio telerau arferol asesiad ariannol mewn amgylchiadau eithafol i gydnabod anghenion eithriadol unigolyn sy'n derbyn gofal lle bo angen gwneud hyn. Gallai gwneud hynny leihau neu gynyddu cyfraniad asesedig yr unigolyn sy'n derbyn gofal tuag at gost ei ofal.
21.3.2. Efallai y bydd goblygiadau ariannol yn deillio o wneud addasiadau dewisol i'r asesiad ariannol safonol, gan y bydd y baich ariannol o leihau cyfraniad unigolyn sy'n derbyn gofal yn golled incwm y byddai'n rhaid ei thalu drwy gynnydd yn lefel gyffredinol Treth y Cyngor i drethdalwyr Abertawe.
21.3.3. Fodd bynnag, ni fydd unrhyw benderfyniad a wneir yn cyfeirio at unrhyw ystyriaethau cyllidebol, er gwaethaf y ffaith bod yn rhaid cydbwyso unrhyw ddyfarniadau yn erbyn anghenion trethdalwyr lleol a fydd yn y pen draw yn gyfrifol am dalu am ostyngiad yn incwm yr awdurdod.
21.3.4. O ganlyniad i hyn, dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y bydd y Cyngor yn ystyried defnyddio ei bwerau i leihau'r cyfraniad y byddai unigolyn sy'n derbyn gofal yn ei wneud dan delerau asesiad ariannol 'safonol' dan y lefel honno. Hefyd, rhaid cael tystiolaeth glir bod gan unigolyn amgylchiadau eithriadol nad ydynt yn cael eu hachosi gan esgeulustod neu ddiffyg gweithredu ar ei ran. Rhaid i'r unigolyn sy'n derbyn gofal fod wedi gwneud pob ymdrech resymol i ymdrin â'r amgylchiadau hynny cyn gwneud cais am ryddhad yn ôl disgresiwn, gan gynnwys gwneud y mwyaf o'i adnoddau ariannol neu ddefnyddio ei adnoddau ariannol presennol i dalu'r gost.
21.3.5. Penderfynir ar bob achos yn ôl ei deilyngdod yn seiliedig ar yr wybodaeth/dystiolaeth ategol a ddarperir i'r awdurdod. Bydd penderfyniadau ynghylch a ddylid amrywio telerau unrhyw asesiad ariannol yn cael eu gwneud gan y Pennaeth Gwasanaeth neu ei gynrychiolydd enwebedig.