Toglo gwelededd dewislen symudol

Polisi Codi Tâl (y Gwasanaethau Cymdeithasol)

Talu am Wasanaethau Cymdeithasol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Lluniwyd y polisi hwn yn unol â'r gofynion cyfreithiol a nodwyd yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ("y Ddeddf") ac mae'n pennu sefyllfa Dinas a Sir Abertawe o ran codi tâl am wasanaethau cymdeithasol. 

Mae Polisi Codi Tâl Dinas a Sir Abertawe (y Gwasanaethau Cymdeithasol) yn darparu manylion am:

  1. Y newidiadau dan fframwaith codi tâl cenedlaethol Llywodraeth Cymru
  2. Ein hymagwedd a'r egwyddorion allweddol sy'n sail i'r taliadau
  3. Sut y codir tâl am wahanol fathau o wasanaethau a chefnogaeth ac nid am eraill
  4. Sut y bydd newidiadau yn effeithio ar wasanaethau yn y gymuned, gofal preswyl, taliadau uniongyrchol, gwasanaethau i blant a theuluoedd, gofal seibiant a gwasanaethau eraill
  5. Sut y bydd unrhyw ddisgresiwn a roddir i awdurdodau lleol yn cael ei weithredu'n ymarferol, gan gynnwys cytundebau talu wedi'u gohirio 
  6. Prosesau asesu ariannol, gan gynnwys adolygiadau ac apeliadau
  7. Rhestr o daliadau sy'n berthnasol o Ebrill 2019 (Atodiad 1)

Annual Review of Charges (Social Services) 2022 / 2023

Annual Review of Charges 2022 / 2023 Appendix A

Rhestr o Ffioedd Cyngor Abertawe 2024 - 2025

Dyma'r ffïoedd a godir i gleientiaid ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol, yn amodol ar unrhyw derfynau ar y ffi uchaf a nodwyd gan Lywodraeth Cymru.

1a.  Gwasanaethau Gofal a Chefnogaeth Preswyl (cyngor)

Mae gwasanaeth gofal preswyl mewnol y cyngor yn darparu gwasanaeth o safon i unigolion ag anghenion cymhleth, ac mae hefyd yn cynnig lleoliadau ar gyfer gofal ailalluogi a gofal seibiant.

Mae'r ffioedd a ddangosir isod ar gyfer y cartrefi gofal a gynhelir gan y cyngor yn unig ac maent yn dangos y costau wythnosol cyfartalog ar gyfer gofal a chefnogaeth yn unig, oherwydd y mae'n bosib y bydd gan rai unigolion anghenion ychwanegol i'w nodi a byddai'n rhaid codi tâl arnynt yn unol â hyn.

Mae'r holl ffïoedd ar gyfer gofal preswyl yn seiliedig ar brawf modd. Cyfraniad yn unig tuag at gyfanswm y gost wythnosol y gall fod angen i breswylwyr ei dalu. Mewn rhai amgylchiadau, efallai bydd angen i breswylwyr dalu'r gost lawn ar gyfer gofal preswyl.

Gofal Preswyl Tymor Hir - cyngor

Ffïoedd am Wasanaethau fesul categoriu

Ffïoedd wythnosol yn ystod 2023/24

Ffïoedd wythnosol yn ystod 2024/25

% y Cynnydd / Sylwad

Cartrefi gofal preswyl y cyngor

Gofal i'r henoed

£708.02£750.506%

Gofal dementia

£708.02£750.506%

Anableddau Dysgu

£1855.24£1966.556%

Iechyd Meddwl

£1855.24£1966.556%

Oedolion Iau

£1855.24£1966.556%

 

1b. Gwasanaeth Gofal Preswyl a Chefnogaeth (Cartrefi Preifat) 

Mae ffïoedd ar gyfer gofal preswyl yn seiliedig ar brawf modd. Cyfraniad yn unig tuag at gyfanswm y gost wythnosol y gall fod angen i breswylwyr ei dalu. Mewn rhai amgylchiadau, efallai bydd angen i breswylwyr dalu'r gost lawn ar gyfer gofal preswyl.
Mae'r costau a ddangosir isod ar gyfer cartrefi gofal preifat yn dangos y costau wythnosol mewn cartrefi gofal sy'n derbyn cyfraddau arferol y cyngor.  Efallai y bydd rhai cartrefi'n codi mwy. 

Gofal Preswyl Tymor Hir - preifat

Ffïoedd am Wasanaethau fesul categori

Ffïoedd wythnosol yn ystod 2023/24

Ffïoedd wythnosol yn ystod 2024/25

% y Cynnydd / Sylwad

Cartrefi gofal preifat

Gofal Preswyl

Pobl Hŷn

£800£8486%

Iechyd Meddwl

£800£8486%

Anableddau Dysgu

£800£8486%

Oedolion Iau

£800£8486%

Gofal nyrsio

Pobl Hŷn

£838£8886%

Iechyd Meddwl

£838£8886%

Anableddau Dysgu

£838£8886%

Gofal Nyrsio ar gyfer Dementia

£884£9376%

Oedolion Iau

£838

£838

6%

 

1ch. Gofal Preswyl Tymor byr

Diffinnir gofal preswyl tymor byr fel:

  • Seibiant cynlluniedig (lle mae'r dyddiadau derbyn/rhyddhau'n hysbys cyn derbyn e.e.: pan fydd aelodau'r teulu'n mynd ar wyliau)
  • Ailalluogi (cefnogi pobl i fod yn annibynnol)
  • Gwelyau camu i fyny/i lawr y gellir codi tâl amdanynt o Ddiwrnod 1 neu Ddiwrnod 15.

Camu i fyny / Camu i lawr

Lle na chynhaliwyd asesiad gwaith cymdeithasol ac nid oes cyfraniad ar gyfer yr unigolyn i dalu am bythefnos cyntaf y lleoliad.  Mae hyn i ganiatáu digon o amser i gynnal yr asesiad er mwyn nodi angen tymor hir.

Camu i fyny - Mynediad i gartref gofal o'r gymuned

Llwybr

Math o ffi

Yn effeithiol

Angen asesiad

Am ddim

Pythefnos cyntaf y lleoliad

Gofal tymor hir (yn aros am y cartref o ddewis)

Cyfraddau preswyl

Dyddiad yr asesiad neu wythnos 3 (p'un bynnag yw'r hwyraf)

Rhyddhau i'r gymuned (yn aros am becyn gofal)

Cyfraddau dibreswyl

Dyddiad yr asesiad neu wythnos 3 (p'un bynnag yw'r hwyraf)

Camu i lawr - Rhyddhau o'r ysbyty

Llwybr

Math o ffi

Yn effeithiol

Angen asesiad

Am ddim

Pythefnos cyntaf y lleoliad

Gofal tymor hir

Cyfraddau preswyl

Dyddiad yr asesiad neu wythnos 3 (p'un bynnag yw'r hwyraf)

Rhyddhau i'r gymuned (yn aros am becyn gofal)

Cyfraddau dibreswyl

Dyddiad yr asesiad neu wythnos 3 (p'un bynnag yw'r hwyraf)

Lle mae unigolion wedi derbyn asesiad cyn cael eu derbyn, bydd gofyn i'r unigolyn dalu cyfraniad tuag at eu lleoliad o Ddiwrnod 1.

Dyma enghreifftiau o ble byddai hyn yn digwydd:

Llwybr

Math o Ffi

Yn effeithiol o

Derbyn dros dro i gartref gofal oherwydd atgyweiriadau i'r cartref

Cwrs Preswyl

Diwrnod 1

Asesiad wedi'i roi ar waith yn yr ysbyty a'i symud i gartref gofal dros dro wrth aros am gartref gofal o ddewis

Cwrs Preswyl

Diwrnod 1

Derbyn dros dro i gartref gofal gan fod pecyn gofal cartref wedi methu

Dibreswyl

Diwrnod 1

Asesiad wedi'i roi ar waith yn yr ysbyty a'i symud i gartref gofal dros dro wrth aros am becyn gofal cartref

Dibreswyl

Diwrnod 1

Gofal Seibiant / Ailalluogi Wedi'i Gynllunio

Math o Ofal Tymor Byr

Llwybr

Math o Ffi

Yn effeithiol o

Gofal Seibiant Wedi'i Gynllunio

-        

Di-breswyl (£100 ar y mwyaf)

Dyddiad derbyn i'r cartref gofal

Ailalluogi

Gwely ailalluogi

Am ddim

Hyd at 6 wythnos

Rhyddhau i'r gymuned

Di-breswyl (£100 ar y mwyaf)

O ddyddiad yr asesiad

Lleoliad tymor hir

Ffi breswyl

O ddyddiad yr asesiad

 

2.  Gwasanaethau gofal a chefnogaeth dibreswyl yn y gymuned

  • Gofal Cartref - gofal yng nghartref y cleient a ddarperir gan ddarparwr yn y sector preifat
  • Gofal yn y Cartref - gofal yng nghartref y cleient a ddarperir gan y cyngor
Gwasanaethau gofal a chefnogaeth dibreswyl yn y gymuned

Ffïoedd am wasanaethau

Ffïoedd yn 2023/24

Ffïoedd yn 2024/25

% y Cynnydd / Sylwad

Yn seiliedig ar brawf modd- hyd at yr uchafswm ffi safonol fel yr amlinellir yn y categorïau isod

Gofal Cartref

Gofal Cartref neu Ofal yn y Cartref, gan gynnwys seibiant gartref, byw â chymorth

£21.84 yr awr

£23.16 yr awr

6%

Gwasanaethau Dydd i Bobl Hŷn

Gwasanaethau Dydd i Bobl Hŷn

£50.82 y dydd

£53.86 y dydd

6%

Gwasanaethau Dydd i Oedolion Iau

   

Gwasanaethau Dydd i Oedolion Iau/Anghenion Arbennig

£63.56 y dydd£67.36 y dydd6%

 

3.  Ffïoedd cyfradd safonol ar gyfer gwasanaethau eraill a ddarperir gan Gyngor Abertawe

Mae'r ffïoedd gofal cymdeithasol hyn ar gyfer y gwasanaethau a gynhelir gan y cyngor yn ddewisol ac nid ydynt yn amodol ar brawf modd nac uchafswm ffi.

Ffïoedd cyfradd safonol ar gyfer gwasanaethau eraill a ddarperir gan Gyngor Abertawe
Ffïoedd am wasanaethauFfïoedd yn 2023/24Ffïoedd yn 2024/25% y Cynnydd / Sylw

Larymau Cymunedol (Llinellau bywyd)

£165.88 heb gynnwys TAW

£199.00 heb gynnwys TAW

£175.83 heb gynnwys TAW

£210.94 heb gynnwys TAW

6%

Prydau (mewn gwasanaethau dydd cymunedol)

£4.46 y dydd

£4.73 y dydd

10%

Dirprwy'r Llys Gwarchod

Mae ffïoedd Dirprwy'r Llys Gwarchod wedi'u pennu yn ôl y gyfraith gan Y Weinyddiaeth Gyfiawnder

Mae ffïoedd Dirprwy'r Llys Gwarchod wedi'u pennu yn ôl y gyfraith gan Y Weinyddiaeth Gyfiawnder

 

Ffi gefnogi cyn dirprwyo

£5 yr wythnos

£5 yr wythnos

Dim newid

Close Dewis iaith