Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithgareddau heneiddio'n dda

Cyfleoedd i aros yn heini a chwrdd â phobl newydd yn Abertawe.

COAST - Digwyddiadau fforddiadwy neu am ddim rhwng 15 Gorffennaf ac 8 Medi 2023 ar gyfer y rheini sy'n 50+ oed sy'n byw yn Abertawe neu'n derbyn cefnogaeth yno

Dydd Llun yn yr Amgueddfa

Bob dydd Llun, 1.00pm - 4.00pm
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Ystafell y Cefnfor

Ymunwch â ni am weithgareddau gwahanol bob wythnos ac i gymdeithasu ag eraill.

(Mewn partneriaeth â Gweithredu dros Bobl Hŷn ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau)

Te a Sgwrs yr Enfys LHDTC+  

Bob nosLun, 5.30pm - 7.30pm
Pump House, yr Ardal Forol, Abertawe SA1 1TT

Man hwyl, hamddenol i bobl gwrdd a gwneud ffrindiau newydd.

(Mewn partneriaeth â Sadies Butterflies)

Ymunwch â ni ar gyfer y Sgrin Arian

"Cyfle i fynd allan o'r tŷ a chwrdd â phobl newydd"

Bob dydd Mawrth, 1.00pm

Odeon Parc Tawe, Quay Parade, Parc Tawe, Abertawe SA1 2BA.

£4 - Mae'r pris yn cynnwys ffilm, diod boeth a bisgedi

www.odeon.co.uk/silvers

Sylwer bod y ffilmiau'n newid yn wythnosol.

Bore Coffi LGBT+ am ddim

Ymunwch â ni am goffi a sgwrs hamddenol!

Cyfle i fynd allan o'r tŷ, cwrdd â phobl a gwneud ffrindiau newydd

Coast Café, Trawler Road, Ardal Forol, SA1 1XA.

Bob dydd Mercher 10:30 - 12:30

Dydd Mercher - Bowlio i bobl hŷn

Ymunwch â ni bob dydd Mercher rhwng 1.00pm a 3.00pm yn Tenpin, Parc Tawe, Abertawe

Dwy gêm o fowlio am £5 gan gynnwys diodydd poeth 

Tro Cymdeithasol ym Marina Abertawe

Ymunwch â ni bob bore dydd Iau am 10.30am.

Rydym yn cwrdd ger The Swigg am 10.15am.
Byddwn yn mynd am dro hamddenol o amgylch y Marina ac yna'n dychwelyd i The Swigg am sgwrs a phaned.

(Mewn partneriaeth â Gweithredu dros Bobl Hŷn)

Te a Sgwrs

Bob dydd Gwener, 11.00am - 1.00pm

Ymunwch â ni yn The Swigg bob dydd Gwener am de, sgwrs a hwyl.

The Swigg -1b, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, SA1 3RD.

(Mewn partneriaeth â Gweithredu dros Bobl Hŷn)


I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'r gweithgareddau hyn, cysylltwch â:

Rhys Ananicz, Cydgysylltydd Partneriaeth a Chyfranogiad Heneiddio'n Dda
Ffôn: 07442 839441  

Ebost: heneiddiondda@abertawe.gov.uk       

Heneiddio'n dda

Close Dewis iaith