Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhoi gwybod am weithgarwch amheus

Mae Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel yn annog pob preswylydd yn y gymuned i roi gwybod am unrhyw gerbydau amheus neu weithgareddau fel galwyr diwahoddiad, difrod troseddol neu achlysuron o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae pob digwyddiad y dywedir wrth Heddlu De Cymru amdano'n cael ei werthfawrogi. Gan ddibynnu ar natur yr adroddiad, efallai na fydd yn arwain at ymateb di-oed, ond caiff ei gofnodi a gweithredir arno.

Wrth roi gwybod am ddigwyddiadau, po fwyaf o wybodaeth a gofnodir, gorau oll. Gallwch ddefnyddio'r ffurflen adrodd am ddigwyddiad i gofnodi unrhyw beth amheus a welwch.

Taflen gofnodi Abertawe Mwy Diogel (Word doc) [12KB]

Partneriaid yn erbyn trosedd

Chi sydd yn y sefyllfa orau i wella diogelwch yn eich cymuned leol. Rydych chi'n byw neu'n gweithio yn yr ardal ac yn ei hadnabod yn well na neb arall. Rydych chi'n ymwybodol o'r grwpiau diamddiffyn, y problemau go iawn a'r pryderon lleol.

Wrth gwrs, dyletswydd yr heddlu a Phartneriaeth Abertawe Mwy Diogel yn gyfan yw ymladd troseddau a diogelu'r cyhoedd ond mae angen help arnom oddi wrth bobl leol. Mae'r canlyniadau a gawn bob amser yn dibynnu ar help gan y cyhoedd wrth iddynt adrodd am droseddau a rhoi achlustiau a thystion yn darparu tystiolaeth er mwyn euogfarnu troseddwyr.

Nid yw gwyliadwriaeth yn eich gwneud yn warchodwr. Mae'n ymwneud â chwarae rôl weithredol wrth leihau troseddau yn eich cymdogaeth.

Peidiwch â rhoi eich hun mewn perygl drwy wynebu troseddwyr

Rhifau Defnyddiol

Heddlu - argyfwng 999

Heddlu - os nad yw'n argyfwng 101

Cymorth i Ddioddefwyr - 0808 1689 111

Crimestoppers - 0800 555111

Mae Abertawe yn lle diogel i fyw a chyda'ch help chi gallwn ei wneud yn fwy diogel fyth.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Awst 2021