Gweithio Abertawe
Chwilio am waith? Gallwn eich helpu chi.
- Cynlluniau gweithredu cyflogaeth wedi'u personoli
- Hyfforddiant i ddiwallu'ch anghenion
- Datblygu CV, sgiliau cyfweliad, cefnogaeth gyda cheisiadau am swyddi
- Profiad gwaith, lleoliadau, prentisiaethau a chyfleoedd am swyddi
- Cefnogaeth yn y gwaith
Cysylltwch heddiw ar 01792 578632, e-bostiwch gweithioabertawe@abertawe.gov.uk a dewch o hyd i ni ar Facebook neu Twitter.
Mae ein hwb cyflogaeth ar y dde wrth i chi ddod allan o'r orsaf fysus ac i mewn i'r Cwadrant (gyferbyn â Trespass/Superdrug).
Gofyn am help
Eich taith i fod yn fwy cyflogadwy.
Arweiniad cryfderau a gwendidau
Gallwn eich helpu i weld lle mae angen gwneud newidiadau.
Sut dwi'n cyflwyno fy hun?
Mae gennym lawer o awgrymiadau gwych fel y gallwch greu argraff dda gyda'ch ffurflen gais, mewn cyfweliad neu ar eich diwrnod cyntaf yn y gwaith.
Arweiniad ar gynllunio a chyrraedd nodau
Gallwn eich helpu gyda chynllunio fel y gallwch gyrraedd eich nodau.
Arweiniad gwybodaeth, sgiliau a galluoedd
Ar ôl datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r galluoedd, efallai bydd angen help arnoch o hyd i wybod sut i'w defnyddio er mwyn symud ymlaen yn eich gyrfa.
Datblygiad proffesiynol parhaus
Gall Abertawe'n Gweithio helpu i ddadansoddi'ch rôl, eich cyfrifoldebau a'ch ffiniau eich hun yn y sefydliad.
Cysylltwch â Abertawe Gweithio
- Enw
- Abertawe Gweithio
- E-bost
- gweithioabertawe@abertawe.gov.uk
- Rhif ffôn
- 01792 578632
Addaswyd diwethaf ar 26 Ionawr 2023