Gwobrau Chwaraeon Abertawe mewn cydweithrediad a Freedom Leisure
Dathlu Pencampwyr Chwaraeon 2025
Ydych chi'n adnabod hyfforddwr, tîm neu athletwr sy'n haeddu cydnabyddiaeth am ei waith caled a'i benderfyniad?
Mae gan Abertawe draddodiad balch o greu chwaraewyr gwych. Mae angen ymroddiad, penderfyniad ac oriau o waith caled i gynnal y ddinas chwaraeon rydyn ni'n ei hadnabod ac yn dwlu arni. Boed yn wirfoddolwyr neu'n hyfforddwyr sy'n rhoi awr ar ôl awr o'i amser yn y cefndir, yn dîm sydd wedi bod y mwyaf llwyddiannus drwy gydol y flwyddyn neu'n chwaraewr sydd wedi cyflawni'r mwyaf yn ei gamp, mae Abertawe'n ddinas sy'n llawn pencampwyr chwaraeon.
Cynhelir seremoni Gwobrau Chwaraeon Abertawe mewn cydweithrediad â Freedom Leisure, nos Iau 2 Ebrill 2026 yn Neuadd Brangwyn.
Bydd enwebiadau ar agor 4 Tachwedd, 2025, bydd enwebiadau'n cau ar 31 Rhagfyr 2025.
Gweler y Enillwyr Gobrau Chwaraeon Abertawe 2024 mewn cydweithrediad a Freedom Leisure (Yn agor ffenestr newydd).
Mae 15 o wobrau ar draws y categorïau canlynol:
- Chwaraewr y Flwyddyn
 Yn agored i bob enwebai waeth beth fo'u hoedran.
 
- Chwaraewraig Iau'r Flwyddyn
 Yn agored i enwebeion sy'n cystadlu ar lefel iau. Rhaid i'r enwebeion fod yn 18 oed neu'n iau ar 1 Ionawr 2025.
 
- Chwaraewr Iau'r Flwyddyn
 Yn agored i enwebeion sy'n cystadlu ar lefel iau. Rhaid i'r enwebeion fod yn 18 oed neu'n iau ar 1 Ionawr 2025.
 
- Chwaraewr y Flwyddyn ag Anabledd
 Yn agored i bob enwebai waeth beth fo'u hoedran.
 
- Chwaraewr Iau ag Anabledd y Flwyddyn noddir gan Stowe Family Law (Yn agor ffenestr newydd)
 Yn agored i enwebeion sy'n cystadlu ar lefel iau. Rhaid i'r enwebeion fod yn 18 oed neu'n iau ar 1 Ionawr 2025.
 
- Hyfforddwr Perfformiad y Flwyddyn
 Dylai enwebeion fod yn hyfforddwyr cymwys yn eu camp, gyda hanes profedig o helpu unigolion neu dimau i lwyddo - boed a yw hynny ar lefel ranbarthol, genedlaethol neu ryngwladol.
 
- Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn
 Dylai enwebeion fod yn hyfforddwyr cymwys sy'n rhoi o'u hamser yn hael fel gwirfoddolwyr yn eu camp. Byddant wedi cael effaith wirioneddol trwy ysbrydoli mwy o bobl i fod yn actif a'u helpu i barhau i gymryd rhan mewn chwaraeon yn eu cymuned leol.
 
- Gwirfoddolwr y Flwyddyn noddir gan EYST Wales (Yn agor ffenestr newydd)
 Mae'r wobr hon ar gael i unrhyw wirfoddolwr anhygoel sydd wedi rhoi ei amser a'i egni i gefnogi sefydliad chwaraeon. Mae'n rhaid i enwebeion gynnig help heb wobr ariannol, nad yw'n rhan o'i swydd ac nad yw'n digwydd yn ei weithle.
 
- Person Ifanc Ysbrydoledig y Flwyddyn
 Yn agored i unrhyw berson ifanc 25 oed neu'n iau ar 1 Ionawr 2025.
 Mae'r wobr hon yn dathlu gwirfoddolwyr sydd wedi rhoi o'u hamser yn hael i ennyn cariad at chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn eraill. Mae'r enwebeion hyn yn fodelau rôl go iawn - maent yn greadigol, yn angerddol, ac yn ymroddedig i gadw eu diddordeb. Mae'n rhaid i enwebeion gynnig help heb wobr ariannol, nad yw'n rhan o'i swydd ac nad yw'n digwydd yn ei weithle.
 
- Clwb neu Dîm Hŷn y Flwyddyn
 Yn agored i dimau o chwaraewyr amatur sy'n cystadlu ar lefel hŷn. Rhaid bod timau'n cynrychioli Abertawe neu eu bod wedi'u lleoli yn Abertawe.
 
- Clwb neu Dîm Iau'r Flwyddyn noddir gan Route Media (Yn agor ffenestr newydd)
 Yn agored i dimau sy'n cystadlu ar lefel iau. Mae'n rhaid bod aelodau tîm yn 18 oed neu'n iau ar 1 Ionawr 2025.
 
- Tîm Ysgol y Flwyddyn noddir gan Coleg Gwyr Abertawe (Yn agor ffenestr newydd)
 Yn agored i dimau ysgolion cynradd ac uwchradd. Rhaid bod aelodau'r tîm wedi cynrychioli tîm yr ysgol a enwebwyd rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2025.
 Defnyddiwch ffurflen wahanol ar gyfer pob tîm yr hoffech ei enwebu.
 
- Gwobr Annog Abertawe Actif
Mae'r wobr hon yn dathlu pobl neu grwpiau sydd wedi helpu eraill i wneud gweithgarwch corfforol rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2025 - boed a yw hynny trwy glwb, ysgol, sefydliad, digwyddiad, rhaglen neu brosiect, neu trwy ysbrydoli eu hunain neu eu cymuned i fod yn fwy actif.
Rydym yn chwilio am enwebeion sy'n dangos y canlynol:
• Annog pobl newydd i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol
• Ymdrechion i geisio cyrraedd cymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol neu gymunedau amrywiol
• Ysbrydoli eraill i ledaenu'r gair a hyrwyddo bod yn actif
• Syniadau creadigol neu newydd sy'n helpu i chwalu rhwystrau i gyfranogiad
• Gweithgareddau nad ydynt o reidrwydd yn chwaraeon traddodiadol
• Profiadau difyr a chynhwysol sy'n gwneud i bawb deimlo bod croeso iddynt - waeth beth fo'u cefndir neu eu gallu
•    Unigolion sydd wedi goresgyn heriau personol i ddod yn fwy actif
 
- Cyfraniad Oes i Chwaraeon
 Mae'r categori hwn yn cydnabod unigolion sydd wedi cyfrannu'n sylweddol i'r sefydliad a/neu weinyddiaeth chwaraeon yn Abertawe dros flynyddoedd lawer.
 
- Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig
 Mae'r categori hwn yn cydnabod cyflawniadau sylweddol pobl ym myd chwaraeon, yn eu camp neu gampau, dros flynyddoedd lawer.
Mewn cydweithrediad a Freedom Leisure (Yn agor ffenestr newydd)
 
		
 
			 
			 
			