Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhybudd tywydd coch - Storm Darragh

Gwybodaeth am newidiadau i wasanaethau'r cyngor a chau lleoliadau ac atyniadau yn ystod cyfnod y rhybudd tywydd coch.

Noddwyr Gwobrau Chwaraeon Abertawe 2024

Ni fyddai'n bosibl dathlu cyflawniadau a chyfraniadau chwaraewyr a gwirfoddolwyr Abertawe heb gefnogaeth ein noddwyr:

Cynhelir Gwobrau Chwaraeon Abertawe, a drefnwyd gan dîm Chwaraeon ac Iechyd Cyngor Abertawe bellach mewn partneriaeth â Freedom Leisure (Yn agor ffenestr newydd), sef partner nid er elw'r cyngor a ddewiswyd er mwyn cynnal chwe chanolfan chwaraeon cymunedol a chanolfannau hamdden a'r LC.

Freedom Leisure


Person Ifanc Ysbrydoledig y Flwyddyn a noddir gan ArvatoConnect (Yn agor ffenestr newydd)

Arvato

ArvatoConnect ydym ni. Rydym yn bartner profiad cwsmeriaid a gwella effeithlonrwydd busnesau i sefydliadau sy'n barod i ail-lunio ac ailddyfeisio'r ffordd y maen nhw'n gweithio ac yn cysylltu â'r rheini sydd o'r pwys mwyaf. Rydym yn llunio dyfodol gwell ar gyfer y byd hefyd. Grymuso'n pobl a'n cymunedau, adeiladu diwylliant cynhwysol ac amrywiol, lleihau ein heffaith amgylcheddol a chreu cadwyn gyflenwi gadarn. Mae ein partneriaethau tymor hir sydd â'u canolfannau yn y rhanbarth yn cynnwys Yr Adran Drafnidiaeth, Cyngor Castell-nedd Port Talbot ac Ambiwlans Awyr Cymru.

Agorodd ein safle yn Abertawe yn 2013, gan ddarparu gwasanaethau a rennir i amrywiaeth o gleientiaid llywodraeth ganolog. Rydym bellach yn cyflogi mwy na 200 o bobl, rydym wedi sefydlu rhaglen brentisiaeth a graddedigion ac rydym yn cefnogi mentrau elusennol a chymunedol amrywiol yn yr ardal leol.


Gwirfoddolwr y Flwyddyn noddir gan John Pye Auctions (Yn agor ffenestr newydd)

John Pye Auctions

John Pye Auctions yw Tŷ Arwerthu manwerthu mwyaf y DU. Gwerthir miloedd o eitemau bob wythnos, o gelfi, dillad ac offer electronig i nwyddau gwyn a mwy. Mae ein safle ym Mhort Talbot yn cynnig cyfle i chi weld pob eitem bob dydd Llun o 8am i 12pm. Ewch i www.johnpye.co.uk i gael gwybod mwy. Edrychwch, cynigiwch, prynwch, mae'n hawdd!


Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn noddir gan Chwaraeon Cymru (Yn agor ffenestr newydd)

Sport Wales

Rydym am weld cenedl iachach a mwy heini. Rydym am i bob person ifanc gael dechrau da mewn bywyd fel y gall pob un fynd ymlaen i fwynhau oes o chwaraeon. Rydym hefyd yn ymrwymedig i roi'r gefnogaeth angenrheidiol i'n hathletwyr mwyaf addawol fel y gallant gystadlu'n llwyddiannus ar lwyfan y byd.


Hyfforddwr Perfformiad y Flwyddyn


Chwaraewr Iau'r Flwyddyn


Chwaraewraig Iau'r Flwyddyn


Tîm Ysgol y Flwyddyn noddir gan Coleg Gwyr Abertawe (Yn agor ffenestr newydd)

Gower College Swansea

Mae'n bleser gan Goleg Gŵyr Abertawe noddi gwobr Tîm Ysgolion y Flwyddyn. Mae gan y coleg hanes cadarn o gynhyrchu sêr chwaraeon eithriadol, gan gynnwys Leigh Halfpenny, Jazz Carlin, Justin Tipuric, Nicky Smith a Danny Williams, gyda llawer o'i fyfyrwyr o'r gorffennol a'r presennol yn cynrychioli'u sir yn y gamp o'u dewis wrth astudio yn y coleg. Mae'n darparu un o'r amrywiaethau ehangaf o academïau chwaraeon yn y wlad ac mae ganddo dros 300 o fyfyrwyr sy'n cynrychioli'r coleg yn rheolaidd. Mae rhaglen yr Academi Chwaraeon yn cynnwys amrywiaeth o gyfleoedd chwaraeon gan gynnwys chwaraeon tîm ac unigol. Mae myfyrwyr yn cael y cyfle i ddatblygu mewn amgylchedd cefnogol wrth barhau i ddatblygu ar eu llwybr academaidd a galwedigaethol. Mae gan y coleg raglen bwrsariaeth a mentora i athletwyr profiadol, sy'n cynnwys elfennau ariannol a chyfannol.


Clwb neu Dîm Iau'r Flwyddyn noddir gan  Peter Lynn and Partners (Yn agor ffenestr newydd)

Peter Lynn


Clwb neu Dîm Hŷn y Flwyddyn


Gwobr Annog Abertawe Actif


Chwaraewr Iau ag Anabledd y Flwyddyn noddir gan Stowe Family Law (Yn agor ffenestr newydd)

Stowe Family Law

Yma yn Stowe Family Law, ni yw'r cwmni cyfraith teulu mwyaf a mwyaf clodwiw yn y DU. Gyda rhwydwaith helaeth o 79 o swyddfeydd a thîm o dros 150 o gyfreithwyr ymroddgar, rydym wedi bod yn arbenigo mewn amrywiaeth eang o faterion cyfraith teulu ers i ni gael ein sefydlu ym 1982.


Chwaraewr ag Anabledd y Flwyddyn


Chwaraewr y Flwyddyn noddir gan McDonald's (Yn agor ffenestr newydd)

McDonald's logo M

Mae McDonald's unwaith eto'n falch o fod yn un o noddwyr Gwobrau Chwaraeon Abertawe i gydnabod mabolgampwyr neilltuol a'u cyflawniadau. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cael eu henwebu. 


Cyfraniad Oes i Chwaraeon


Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig



Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 25 Hydref 2024