Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwobrau Chwaraeon Abertawe mewn cydweithrediad a Freedom Leisure

Dathlu Pencampwyr Chwaraeon 2024

Sports Awards grid tile

Sports Awards 2024 anniversary logo

Cafodd chwaraewyr, gwirfoddolwyr, hyfforddwyr a chlybiau chwaraeon eu dathlu yng Ngwobrau Chwaraeon Abertawe, mewn cydweithrediad â Freedom Leisure ar 2 Ebrill, 2025. Cynhaliwyd y digwyddiad hwn yn Neuadd Brangwyn, lle roedd 500 o bobl yn bresennol i ddathlu cyflawniadau chwaraeon yn y ddinas yn 2024.

Cyflwynwyd mwy na 100 o enwebiadau ar draws 15 categori wrth i'r gwobrau ddathlu eu 25ain flwyddyn. Roedd y rhai hynny a gyrhaeddodd y rhestr fer yn cynrychioli amrywiaeth eang o glybiau a gweithgareddau cymunedol.

Gweler y Enillwyr Gobrau Chwaraeon Abertawe 2024 mewn cydweithrediad a Freedom Leisure (Yn agor ffenestr newydd).

Mae ein hathletwyr wedi gweithio'n galed iawn eleni ac rydym yn edrych ymlaen at gydnabod a nodi eu cyflawniadau a'u cyfraniadau gwych i chwaraeon yn ystod Gwobrau Chwaraeon Abertawe.

Mae 15 o wobrau ar draws y categorïau canlynol:

  • Person Ifanc Ysbrydoledig y Flwyddyn noddir gan ArvatoConnect (Yn agor ffenestr newydd)
    Yn agored i unrhyw berson ifanc, 25 oed neu iau ar 1 Ionawr 2024. Bydd enwebai wedi rhoi ei gorau i ysbrydoli mwy o fobl i gymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgaredd corfforol, neu ymgysylltu â nhw. Maent yn fodelau rôl cadarnhaol, ac maent yn defnyddio dulliau arloesol i annog eraill i gymryd rhan mewn chwaraeon. Rhaid i'r enwebeion gynnig help lle nad oes ganddynt wobr ariannol, nid yw'n rhan o'u gwaith, ac nid yw'n digwydd yn eu man gwaith.
     
  • Gwirfoddolwr y Flwyddyn noddir gan John Pye Auctions (Yn agor ffenestr newydd)
    Ar gyfer unrhyw wirfoddolwr gwrywaidd neu fenywaidd sydd wedi rhoi o'i amser a'i egni i wirfoddoli mewn sefydliad chwaraeon. Rhaid i'r enwebai gynnig help heb unrhyw wobr ariannol, nid yw'n rhan o'i swydd ac nid yw'n rhan o'i weithle. Oedran agored.
     
  • Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn noddir gan Chwaraeon Cymru (Yn agor ffenestr newydd)
    Rhaid i enwebeion fod yn hyfforddwyr cymwys sy'n gweithio'n wirfoddol ac wedi cyflawni llwyddiant wrth annog mwy o bobl i fod yn actif mewn chwaraeon a chynnal eu cyfranogiad mewn lleoliad cymunedol.
     
  • Hyfforddwr Perfformiad y Flwyddyn noddir gan Bae Abertawe (Yn agor ffenestr newydd)
    Rhaid i'r enwebai fod yn hyfforddwr cymwys yn ei gamp ac wedi cael llwyddiant wrth hyfforddi unigolion a thimau ar lefel ranbarthol, genedlaethol a/neu ryngwladol.
     
  • Chwaraewr Iau'r Flwyddyn noddir gan Tomato Energy (Yn agor ffenestr newydd)
    Ar gyfer enwebeion sy'n cystadlu ar lefel iau. Rhaid iddynt fod yn 18 oed neu'n iau ar 1 Ionawr 2024.
     
  • Chwaraewraig Iau'r Flwyddyn noddir gan Tomato Energy (Yn agor ffenestr newydd)
    Ar gyfer enwebeion sy'n cystadlu ar lefel iau. Rhaid iddynt fod yn 18 oed neu'n iau ar 1 Ionawr 2024.
  • Tîm Ysgol y Flwyddyn noddir gan Coleg Gwyr Abertawe (Yn agor ffenestr newydd)

    Ar gyfer timau Ysgolion Gynradd a Gyfun.  Rhaid i aelodau'r tîm fod wedi cynrychioli tîm yr ysgol sy'n cael ei enwebu rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2024. Defnyddiwch ffurflen enwebu ar wahân ar gyfer pob tîm rydych am ei enwebu.

  • Clwb neu Dîm Iau'r Flwyddyn noddir gan Peter Lynn and Partners (Yn agor ffenestr newydd)
    Ar gyfer timau sy'n cystadlu ar lefel iau. Rhaid i aelodau'r tîm fod yn 18 oed neu'n iau ar 1 Ionawr 2024.

  • Clwb neu Dîm Hŷn y Flwyddyn noddir gan Day's Motor Group (Yn agor ffenestr newydd)
    Ar gyfer timau amatur sy'n cystadlu ar lefel hŷn. Rhaid i dimau gynrychioli neu fod yn Abertawe.
     
  • Gwobr Annog Abertawe Actif noddir gan Healthy and Sustainable Pre-School Scheme - Swansea (Yn agor ffenestr newydd) 

    Mae'r wobr hon ar gyfer unrhyw unigolyn, grŵp o bobl, clwb, ysgol, sefydliad, digwyddiad, rhaglen neu brosiect, sydd wedi ysbrydoli mwy o bobl i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol neu sydd wedi ysgogi ei hun/eu hunain i ddod yn fwy actif rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2024. Dyma enghreifftiau  o'r hyn rydym yn chwilio amdano:

    - Tystiolaeth o gael cyfranogwyr newydd i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol.
    - Ymgysylltu â chymunedau amrywiol / grwpiau a dangynrychiolir.
    - Annog eraill i hybu gweithgarwch corfforol.
    - Syniadau newydd neu arloesol i oresgyn y rhwystrau sy'n atal cyfranogiad.
    - Nid 'camp' draddodiadol o reidrwydd.
    - Wedi creu profiad chwaraeon pleserus a chroesawus - heb ystyried gallu na chefndir.
    - Unigolyn sydd wedi goresgyn rhwystrau a heriau i ddod yn fwy actif.

  • Chwaraewr Iau ag Anabledd y Flwyddyn noddir gan Stowe Family Law (Yn agor ffenestr newydd)
    Ar gyfer enwebeion sy'n cystadlu ar lefel iau. Rhaid iddynt fod yn 18 oed neu'n iau ar 1 Ionawr 2024.

  • Chwaraewr ag Anabledd y Flwyddyn noddir gan Spartan Scaffolding Solutions (Yn agor ffenestr newydd)
    Yn agored i bob enwebai beth bynnag eu hoedran.
     
  • Chwaraewr y Flwyddyn noddir gan McDonald's (Yn agor ffenestr newydd)
    Yn agored i bob enwebai beth bynnag eu hoedran.
     
  • Cyfraniad Oes i Chwaraeon noddir gan Freedom Leisure (Yn agor ffenestr newydd)

    Mae'r categori hwn yn cydnabod unigolion sydd wedi cyfrannu'n sylweddol i'r sefydliad a/neu weinyddiaeth chwaraeon yn Abertawe dros flynyddoedd lawer.

  • Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig noddir gan Cynllun Hamdden Actif i Bobl 60+ oed

    Mae'r categori hwn yn cydnabod unigolion sydd wedi cyfrannu'n sylweddol i'r sefydliad a/neu weinyddiaeth chwaraeon yn Abertawe dros flynyddoedd lawer.

mewn cydweithrediad a Freedom Leisure (Yn agor ffenestr newydd)

Freedom Leisure

Rhestr Fer Gwobrau Chwaraeon Abertawe 2024

Rydym yn falch o gyhoeddi'r rhestr fer ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Abertawe 2024

Noddwyr Gwobrau Chwaraeon Abertawe 2024

Ni fyddai'n bosibl dathlu cyflawniadau a chyfraniadau chwaraewyr a gwirfoddolwyr Abertawe heb gefnogaeth ein noddwyr:

Enillwyr Gobrau Chwaraeon Abertawe 2024

Rydym yn falch o gyhoeddi enillwyr Gobrau Chwaraeon Abertawe 2024.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 03 Ebrill 2025