Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth i rieni plant sy'n derbyn gofal

Beth sy'n digwydd pan fydd eich plentyn yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.

Byddwn yn cefnogi plant i fyw gyda'u teuluoedd eu hunain pan fydd hyn er eu lles pennaf hwy.  Fodd bynnag, weithiau nid yw hyn yn bosib am amrywiaeth o resymau, gan gynnwys risg i ddiogelwch eich plentyn. Mewn achosion o'r fath, bydd angen gwneud trefniadau gofal eraill. Efallai y bydd hyn am gyfnod byr, ond bydd yn dibynnu ar y sefyllfa ac anghenion eich plentyn.

Gwneud trefniadau

Bydd yr hyn rydym yn ei drefnu gyda chi ynglŷn â gofal eich plentyn yn dibynnu ar eu hanghenion ac ystyriaethau diogelwch.

  • Lle ceir perthnasau neu ffrindiau a allai, o bosib, ddarparu gofal amgen i'ch plentyn, byddwn bob amser yn archwilio'r opsiwn yma gyda chi. Ceir mwy o wybodaeth am y mathau hyn o drefniadau yn: Gofalu am blentyn rydych eisoes yn ei adnabod (kinship care).
  • Os nad yw hyn yn opsiwn addas i'ch plentyn, y trefniad mwyaf cyffredin yw bod eich plentyn yn byw gyda gofalwyr maeth. Cymeradwyir gofalwyr maeth a chânt eu hyfforddi'n arbennig gan naill ai'r awdurdod lleol neu asiantaeth annibynnol i ddarparu gofal ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.
  • Ar gyfer nifer bach o blant, bydd angen i ni drefnu iddynt fyw mewn cartref preswyl neu leoliad gofal arbenigol er mwyn diwallu eu hanghenion yn effeithiol.

Mewn rhai achosion, bydd angen cael Gorchymyn Llys i sicrhau bod trefniadau sydd er lles pennaf y plentyn yn cael eu rhoi ar waith.

Pan fydd pawb sy'n rhan o'r broses yn cytuno â'r trefniadau arfaethedig ar gyfer gofalu am eich plentyn i ffwrdd o'r cartref, gall fod yn bosib i hyn ddigwydd ar sail wirfoddol heb Orchymyn Llys.

Beth nesaf?

Pa drefniadau bynnag a wneir, mae'r gyfraith yn dweud bod nifer o bethau y mae'n rhaid i'r awdurdod lleol eu gwneud i sicrhau bod plant sy'n derbyn gofal yn ddiogel, yn iach ac yn cael y gofal iawn.

Bydd hyn yn cynnwys:

  • Cynllun Gofal a Chefnogaeth - Ar ôl trafodaethau sy'n cynnwys pawb a fydd yn rhan o rwydwaith cefnogi'ch plentyn, ysgrifennir Cynllun Gofal a Chefnogaeth. Mae hyn yn esbonio i bawb yr hyn y cytunwyd arno, yr hyn sy'n gorfod digwydd nesaf a phwy sy'n gorfod gwneud hynny.
  • Ymweld â'ch plentyn yn rheolaidd yn y man lle mae'n byw.
  • Adolygu'r sefyllfa gyda chi, eich plentyn a phobl eraill sy'n gweithio gyda chi.  Gelwir hyn yn Adolygiad PDG.
  • Sicrhau y cynhelir archwiliadau iechyd rheolaidd.

Pan fydd eich plentyn yn derbyn gofal, byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â chi, a byddwch yn rhan o'u bywyd o hyd.  Mae'r Cynllun Gofal a Chefnogaeth yn esbonio sut bydd hyn yn digwydd, gan gynnwys pryd y byddwch yn gweld eich gilydd.  Cyfeirir at hyn fel cyswllt.

Mae cyfarfodydd adolygu'n amser allweddol pan fyddwch yn gallu mynegi'ch barn wrthym am y cynllun, yr hyn sy'n gweithio'n dda a phethau rydych yn pryderu amdanynt.

Close Dewis iaith