Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cyflwyno cais am hawlen barcio i breswylwyr neu adnewyddu'ch hawlen

Mae hawlenni parcio am ddim a'r bwriad yw eu bod yn galluogi preswylwyr i barcio'n agos at eu heiddo.

Gall gymryd hyd at 5 niwrnod gwaith i wirio a phrosesu ceisiadau. Nes eich bod yn derbyn eich hawlen ddigidol, ni fyddwch yn cael parcio mewn cilfach barcio i breswylwyr. Nid yw meddu ar hawlen i breswyliwr yn gwarantu lle i chi mewn cilfach barcio i breswylwyr.

Bydd angen darparu'r canlynol wrth gyflwyno cais/adnewyddu:

Cyn gwneud cais, darllenwch yr amodau a'r telerau.

Cyflwyno cais am hawlen barcio i breswylwyr neu adnewyddu'ch hawlen

 

Y dystiolaeth y mae ei hangen i gyflwyno cais am hawlen barcio i breswylydd neu ei hadnewyddu

  1. Eich trwydded yrru - rhaid iddi ddangos eich enw, eich cyfeiriad yn Abertawe a rhaid iddi fod yn gyfredol.
  2. Eich llyfr cofrestru V5 - rhaid iddo ddangos rhif cofrestru'r cerbyd, eich cyfeiriad yn Abertawe a rhaid iddo fod yn gyfredol.
  3. Bydd angen eich amserlen / tystysgrif yswiriant ar gyfer eich cais cychwynnol. Ni fydd ei hangen ar gyfer adnewyddu'ch trwydded parcio.

Tystiolaeth y mae ei hangen ar gyfer cerbyd cwmni

  1. Eich trwydded yrru - rhaid iddi ddangos eich enw, eich cyfeiriad yn Abertawe a rhaid iddi fod yn gyfredol.
  2. Llythyr oddi wrth eich cyflogwr ar bapur pennawd y cwmni - sy'n datgan bod angen y cerbyd arnoch i weithio ac y caiff y cerbyd ei barcio yn eich cyfeiriad dros nos (rhaid cynnwys y cyfeiriad lle caiff y cerbyd ei barcio dros nos yn y llythyr) a bod y cerbyd yn cael ei drethu, wedi cael ei MOT ac wedi'i yswirio gan y cwmni
    • NEU eich atodlen yswiriant neu'ch tystysgrif yswiriant a'r llythyr eglurhaol - os nad yw'r cwmni'n yswirio'r cerbyd, rhaid iddynt ddangos eich enw, y cyfeiriad yn Abertawe, rhif cofrestru'r cerbyd a dyddiad dechrau a gorffen yr yswiriant.
  3. Copi o'ch bil Treth y Cyngor (bydd angen i chi hefyd gofnodi rhif treth y cyngor o'r bil ar wahân).

Y dystiolaeth y mae ei hangen ar gyfer cerbyd prydles

  1. Eich trwydded yrru - rhaid iddi ddangos eich enw, eich cyfeiriad yn Abertawe a rhaid iddi fod yn gyfredol.
  2. Cytundeb y cwmni prydlesu - rhaid iddo ddangos y cyfeiriad yn Abertawe a rhif cofrestru'r cerbyd.
  3. Bydd angen eich amserlen / tystysgrif yswiriant ar gyfer eich cais cychwynnol. Ni fydd ei hangen ar gyfer adnewyddu'ch trwydded parcio.
  4. Copi o'ch bil Treth y Cyngor (bydd angen i chi hefyd gofnodi rhif treth y cyngor o'r bil ar wahân).

Y dystiolaeth y mae ei hangen ar gyfer crbyd motability

  1. Eich trwydded yrru - rhaid iddi ddangos eich enw, eich cyfeiriad yn Abertawe a rhaid iddi fod yn gyfredol.
  2. Eich cytundeb motability - rhaid iddo ddangos rhif cofrestru'r cerbyd, y cyfeiriad yn Abertawe a gyrrwr y cerbyd (tudalennau 1 a 3).
  3. Eich atodlen yswiriant motability - rhaid iddi ddangos rhif cofrestru'r cerbyd a dyddiad dechrau a gorffen yr yswiriant (tudalennau 1 a 3).
  4. Copi o'ch bil Treth y Cyngor (bydd angen i chi hefyd gofnodi rhif treth y cyngor o'r bil ar wahân).

Y dystiolaeth y mae ei hangen ar gyfer myfyrwyr sy'n byw yn Abertawe â thrwydded yrru Brydeinig

  1. Eich trwydded yrru - rhaid iddi ddangos eich enw, eich cyfeiriad yn Abertawe a rhaid iddi fod yn gyfredol.
  2. Eich llyfr cofrestru V5 - rhaid iddo ddangos rhif cofrestru'r cerbyd, eich cyfeiriad yn Abertawe a rhaid iddo fod yn gyfredol.
  3. Bydd angen eich amserlen / tystysgrif yswiriant ar gyfer eich cais cychwynnol. Ni fydd ei hangen ar gyfer adnewyddu'ch trwydded parcio.

Y dystiolaeth y mae ei hangen ar ddeiliaid trwyddedau gyrru tramor / rhyngwladol

  1. Eich trwydded yrru - rhaid iddi ddangos bod y drwydded yn gyfredol.
  2. Eich llyfr cofrestru V5 - rhaid iddo ddangos rhif cofrestru'r cerbyd, eich cyfeiriad yn Abertawe a rhaid iddo fod yn gyfredol.
  3. Bydd angen eich amserlen / tystysgrif yswiriant ar gyfer eich cais cychwynnol. Ni fydd ei hangen ar gyfer adnewyddu'ch trwydded parcio.
  4. Eich Bil Treth y Cyngor neu'ch bil cyfleustodau - rhaid iddo ddangos eich cyfeiriad yn Abertawe.

Os na allwch ddarparu'ch trwydded yrru neu'ch llyfr cofrestru V5 oherwydd eu bod yn dangos y cyfeiriad anghywir

Os nad ydych yn gallu darparu eich trwydded yrru neu'ch llyfr cofnodi V5 am fod gennych y cyfeiriad anghywir, gallwch newid eich cyfeiriad ar lyfr cofnodi eich cerbyd (V5C) (Yn agor ffenestr newydd)

Wrth i chi gyflwyno'ch cais ar-lein byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau eu bod wedi derbyn eich cais a gallwn dderbyn yr e-bost hwn fel tystiolaeth o'ch V5.

 

Os ydych yn wynebu unrhyw broblemau wrth gyflwyno cais ar gyfer hawlen barcio i breswylwyr ar-lein neu os oes gennych unrhyw ymholiadau sy'n berthnasol i hawlenni parcio i breswylwyr, e-bostiwch Preswylyddcaniatadymholiadau@abertawe.gov.uk.

Close Dewis iaith