Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhybudd tywydd coch - Storm Darragh

Gwybodaeth am newidiadau i wasanaethau'r cyngor a chau lleoliadau ac atyniadau yn ystod cyfnod y rhybudd tywydd coch.

Rhoi gwybod i ni eich bod yn bwriadu hawlio Budd-dâl Tai a/neu Budd-dâl Treth y Cyngor

Fel arfer, mae Budd-dâl Tai a Gostyngiad Treth y Cyngor yn dechrau pan fyddwn yn derbyn eich ffurflen gais. Fodd bynnag, os ydych yn gwybod eich bod am hawlio, defnyddiwch y ffurflen ar-lein hon heddiw i gofrestru eich cais a gofyn i ni bostio ffurflen bapur atoch.

Yna bydd gennych un mis calendr o heddiw i ddychwelyd y ffurflen bapur ac unrhyw ddogfennau cefnogi.

Gallwch gwblhau'r ffurflen hon eich hun neu gall rhywun ei chwblhau ar eich rhan.

Os byddwn yn derbyn eich ffurflen gais bapur wedi'i chwblhau o fewn mis, byddwn yn trin eich cais fel petai wedi cael ei wneud heddiw. Chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod y ffurflen, ac unrhyw dystiolaeth angenrheidiol arall, yn ein cyrraedd mewn da bryd.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Chwefror 2024