Toglo gwelededd dewislen symudol

Helpu pobl sy'n cysgu ar y stryd yn Abertawe

Rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau i nodi pobl sy'n cysgu allan cyn gynted â phosib ac yn gweithio gyda nhw i gael hyd i'r gefnogaeth a'r help cywir.

Beth dylwn i ei wneud os rwyf yn gweld rhywun yn cysgu allan?

Gallwch helpu drwy adrodd am hyn i StreetLink, sef gwasanaeth 24 awr sydd ar gael ar draws y DU sy'n galluogi gwasanaethau lleol i ymgysylltu â phobl sy'n cysgu allan fel y gallant gael cefnogaeth a help:

  • 0300 500 0914
  • StreetLink
  • Mae ap StreetLink ar gael o'r App Store neu Google Play

Gallwch hefyd gysylltu â Thîm Ymyriad Pobl sy'n Cysgu Allan (RSIT) lleol Abertawe rhwng - 7.00am a 3.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 7.00am a 12.00pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul:

Nodwch ddisgrifiad o'r person, yr amser a'r lleoliad lle y gwelsoch chi ef.

Ffoniwch 999 os ydych yn teimlo bod y person mewn perygl dybryd neu fod angen cymorth meddygol arno.

Beth yw cysgu allan?
Gall cysgu allan olygu unrhyw un sy'n byw ac yn cysgu ar y stryd, wrth ddrysau, mewn parciau, cysgodfannau bws neu mewn adeiladau adfeiliedig nad ydynt ar gyfer byw ynddynt er mwyn cael lloches dros dro.

Pwy sy'n gyfrifol am ddod o hyd i bobl sy'n cysgu allan a beth sy'n digwydd unwaith y ceir hyd i rywun?
Mae RSIT, The Wallich yn ymweld â phob person hysbys sy'n cysgu allan yn Abertawe bob bore rhwng 7.00am ac 8.00am i gynnig diod boeth, bwyd poeth, pethau ymolchi, dillad a help i gysylltu â gwasanaethau cefnogi. Bydd RSIT yn ceisio nodi'r rheini sy'n cysgu allan cyn gynted â phosib i ddarparu cymorth a chefnogaeth i atal cysgu allan tymor hir yn Abertawe trwy gysylltu ag asiantaethau a all helpu.

Pa gymorth arall sydd ar gael?
Mae canolfannau galw heibio yn y ddinas sy'n darparu bwyd drwy gydol y dydd gan gynnwys Zac's Place, Matt's Café, Missions of Charity ac Ogof Adullam ym Mhen-lan. Mae'r gwasanaethau sy'n darparu cyngor a chefnogaeth yn cynnwys Goleudy (Caer Las yn flaenorol), Crisis, The Wallich, Shelter Cymru ac Opsiynau Tai. Mae ap ffôn clyfar a gwefan Hope in Swansea yn darparu gwybodaeth am wasanaethau cefnogi lleol a pherthnasol.

Os oes help ar gael, pam fy mod i'n dal i weld pobl yn cysgu allan?
Mae llawer o resymau dros pam mae pobl yn ddigartref ac yn cysgu allan. I rai, mae'n rhywbeth dros dro, ond i eraill, gall fod yn rhywbeth mwy parhaol neu ysbeidiol. Bydd gwasanaethau bob amser yn ceisio dod o hyd i'r math cywir o lety ar gyfer pob person sy'n cysgu allan.

Close Dewis iaith