Toglo gwelededd dewislen symudol

Abertawe'n cofio'r rheini a ddioddefodd hil-laddiadau ledled y byd.

Anogir preswylwyr y ddinas i roi cannwyll yn eu ffenestr un noson yn hwyrach y mis hwn wrth i'r byd ddod ynghyd i nodi Diwrnod Coffáu'r Holocost.

holocaust memorial day 2022

Bydd cymunedau, ysgolion, grwpiau lleol a sefydliadau eraill yn ymuno â Chyngor Abertawe ar 27 Ionawr ar gyfer y digwyddiad blynyddol i goffáu'r rheini sydd wedi colli eu bywydau oherwydd hil-laddiad.

Eleni, yn dilyn ymgynghoriad â grwpiau perthnasol, cynhelir digwyddiadau coffáu Abertawe yn rhithwir yn hytrach nag yn bersonol, i helpu i gadw pobl yn ddiogel ac atal ymlediad COVID-19.

Fe'i harweinir gan grwpiau cymunedol lleol, ysgolion a sefydliadau eraill ar ffurf darllediad fideo gyda'r hwyr ar 27 Ionawr.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae 27 Ionawr yn nodi'r diwrnod ym 1945 pan gafodd Auschwitz, gwersyll difa'r Natsïaid yng Ngwlad Pwyl, ei ryddhau, ynghyd â'r carcharwyr a oedd ar ôl. Llofruddiwyd miliynau yno ac mewn mannau eraill ar draws Ewrop oherwydd eu hunaniaeth.

"Mae Diwrnod Coffáu'r Holocost wedi dod yn ddigwyddiad coffáu i'r rheini sydd wedi dioddef a marw o ganlyniad i hil-laddiad, gan gynnwys mewn lleoedd fel Darfur, Cambodia, Rwanda a Bosnia.

"Yn Abertawe rydym yn cynnau canhwyllau bob blwyddyn i nodi eu colled. Rydym yn adrodd ac yn ailadrodd straeon bob blwyddyn oherwydd, drwy rannu'r digwyddiadau hyn, rydym yn cofio ac yn herio'n hunain i sefyll yn erbyn gormes o'r fath a'i hatal rhag digwydd eto."

Dywedodd Alyson Pugh, Aelod Cabinet ar y Cyd Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, y gall preswylwyr dalu eu teyrnged unigol eu hunain ar y diwrnod drwy gynnau cannwyll yn eu ffenestri am 8pm.

Meddai, "Ym mhob cwr o'r byd bydd pobl yn cynnau canhwyllau yn eu ffenestri ar Ddiwrnod Coffáu'r Holocost. Felly, er na fyddwn yn sefyll ochr yn ochr, byddwn yn sefyll gyda'n gilydd i ddangos parch ac i gofio.

"Bydd Cyngor Abertawe hefyd yn goleuo Neuadd y Ddinas yn borffor ar 27 Ionawr fel rhan o'n digwyddiad coffáu dinesig ar gyfer y rheini y mae hil-laddiad wedi effeithio arnynt."

Ychwanegodd y Cynghorydd Louise Gibbard, Cyd-Aelod y Cabinet dros Gefnogi Cymunedau: "Mae'n hanfodol nad ydym yn anghofio'r Holocost a digwyddiadau eraill o hil-laddiad sy'n bwrw cysgod tywyll ar ddynoliaeth.

"Mae'n wir dweud bod y rheini sy'n anghofio hanes yn sicr o'i ailadrodd. Dyna pam mae Diwrnod Coffáu'r Holocost yn ddigwyddiad cymunedol pwysig yn Abertawe. Mae'n dod â phobl o bob ffydd, y rheini heb fydd ac aelodau cymunedau eraill ar draws y byd sydd wedi cael eu croesawu i Abertawe ac sy'n parhau i adeiladu cartref yma, at ei gilydd."

Caiff y fideo coffaol sy'n cynnwys negeseuon gan ysgolion, sefydliadau cymunedol ac eraill ei ddarlledu ar-lein am 6pm ar 27 Ionawr. Bydd manylion ynghylch sut i'w wylio yn cael eu rhyddhau yn agosach at y diwrnod.

 

 

Close Dewis iaith