Toglo gwelededd dewislen symudol

Oes gennych bwnc yr hoffech i ni graffu arno?

Gall pawb sy'n bwy neu'n gweithio yn ein dinas a sir wneud cais i'r tîm Craffu ystyried materion sy'n effeithio ar ein cymuned.

Os oes gennych bwnc sy'n peri pryder yr hoffech i'r tîm Craffu ei ystyried, llenwch y ffurflen isod a gwnewch yn siŵr eich bod yn clicio 'cyflwyno' ar waelod y dudalen pan fyddwch wedi'i llenwi.

Yna caiff eich pwnc sy'n peri pryder ei ystyried gan Gadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu. Gall hyn arwain at gynnwys y mater yn y rhaglen waith craffu ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol a/neu gyfeirio'r mater i'r Aelod Cabinet perthnasol er mwyn cael ymateb, neu ei gyfeirio at rywle arall. Bwriadwn roi gwybod i chi beth sy'n digwydd gyda'ch cais craffu o fewn 10 niwrnod gwaith.

Cysylltwch â'r tîm Craffu i ofyn i Gynghorwyr Abertawe edrych ar faterion sy'n effeithio ar yr holl gymuned. I godi materion o bryder unigol, cysylltwch â Thîm Cwynion y Cyngor.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Gorffenaf 2024