Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Awst

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Hyfforddiant llywodraethwyr - hunan-adolygu a rolau a chyfrifoldebau

Mae'r Tim Ysgolion a Llywodraethwyr yn cynnig sesiynau hyfforddi pwrpasol.

Hunan-adolygu

Darperir y sesiwn yn eich ysgol a gofynnir i lywodraethwyr gyflawni cyfres o gwestiynau mewn grwpiau. Mae'r grwpiau'n rhoi adborth i'r holl lywodraethwyr a chynhyrchir cynllun gweithredu ar sail yr atebion a roddir. Dyma enghreifftiau o gwestiynau i'w hateb:

  1. Ydy cyfarfodydd ein corff llywodraethu'n cael eu cynnal yn effeithlon?
  2. Ydy maint, cyfansoddiad a strwythur pwyllgorau ein corff llywodraethu'n addas at y diben?
  3. Sut ydyn ni'n gwrando ar ein disgyblion, ein rhieni a'n staff ac yn eu deall?

Yr arfer gorau yw cyflawni ymarferion hunan-adolygu'n rheolaidd er mwyn nodi cryfderau a meysydd i'w gwella, y gellir ymdrin a hwy drwy hyfforddiant, ceisiadau am fwy o wybodaeth neu drwy fabwysiadu arferion gweithio gwahanol. Mae enghreifftiau o sesiynau ar feysydd i'w gwella yn cynnwys cynllunio olyniaeth, cyfarfodydd mwy amserol ac adolygu pwyllgorau.

Hyfforddwyr: Claire Abraham (Swyddog Cefnogi Ysgolion a Llywodraethwyr) a Kate Phillips (Pennaeth yr Uned Cefnogi Ysgolion).

Rolau a chyfrifoldebau

Mae'r sesiwn hon yn cynnwys hyfforddiant gloywi ar y canlynol:

  • Rolau statudol y corff llywodraethu
  • Cyfrifoldebau craidd
  • Pwyllgorau (statudol ac anstatudol)
  • Cefnogoaeth a her

Rydym hefyd yn gallu addasu'r sesiwn i gynnwys meysydd penodol yn eich corff llywodraethu y mae angen sylw arnynt ee. cyfrinachedd, cwynion, egwyddorion ymddygiad ar gyfer eich llywodraethwyr.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 27 Mai 2021