Toglo gwelededd dewislen symudol

Consortiwm llwyddiannus yn ymrwymo i fod yn rhan o brosiect Eden Las

Mae consortiwm rhyngwladol o gwmnïau llwyddiannus wedi ymrwymo i helpu i gyflwyno prosiect ynni adnewyddadwy pwysig yn Abertawe.

hydrogen hub 1

Mae'r cwmni peirianneg ac adeiladu mawr sef HDR a'r arbenigwyr datrysiadau isadeiledd Enable ymysg y cwmnïau sydd wedi ymrwymo i hyn, gyda gwasanaethau digidol byd-eang ac arbenigwyr isadeiledd TG yn bartneriaid yn y prosiect.

Mae'r consortiwm yn gweithio hefyd gyda chwmni ynni mawr a bwriedir rhyddhau cyhoeddiadau pellach yn yr wythnosau i ddod.

Mae'r prosiect sylweddol hwn yn ardal SA1 y ddinas, a hwylusir gan Gyngor Abertawe ac a arweinir gan y cwmnïau Batri Ltd a DST Innovations o Ben-y-bont ar Ogwr, yn cwmpasu'r gorau mewn technoleg gynaliadwy.

Bwriedir sefydlu hwb trafnidiaeth ynni adnewyddadwy fel rhagflaenydd i'r cynllun mwy, a disgwylir i'r cyfleuster trafnidiaeth hwn fod y mwyaf o'i fath yn y DU.

Bydd yr hwb yn cynnwys cyfleusterau gwefru hydrogen a thrydan ar gyfer ceir a cherbydau cludiant cyhoeddus, e-feiciau a sgwteri, ardaloedd hamdden ac ardal fwytai dan do.

Bydd yr hwb ynni'n rhan o'r cynllun mwy a fydd yn ail-lunio ardal y doc ac a fydd yn cynnwys morlyn llanw, canolfan ddata fawr, gwaith cynhyrchu batris uwch-dechnoleg, man cynhyrchu hydrogen gwyrdd, paneli solar arnofiol a chyfleuster storio batris ar gyfer yr ynni adnewyddadwy a gaiff ei gynhyrchu ar y safle.

Mae elfennau eraill o'r cynllun mwy yn cynnwys cartrefi fforddiadwy a chanolfan ymchwil gefnforol a newid yn yr hinsawdd.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae cyhoeddi partneriaid o'r safon hon a chanddynt y fath enw da'n ddatganiad o fwriad ar gyfer y prosiect hwn, a fydd yn golygu bod Abertawe'n flaenllaw ym maes technoleg a chynhyrchu ynni adnewyddadwy, a hynny'n fyd-eang.

"Yn ogystal â helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd drwy ddatgarboneiddio'r ddinas ymhellach, yn unol â'n targedau sero net, bydd y prosiect hwn hefyd yn creu miloedd lawer o swyddi i bobl leol wrth ddarparu mwy fyth o gyfleusterau gwefru ar gyfer cerbydau trydan a hydrogen i ddiwallu anghenion pobl am flynyddoedd lawer."

Meddai Richard Morgan, Cyfarwyddwr HDR, "Mae adfywio trefol llawn dychymyg a fydd yn dod â gweledigaeth Cyngor Dinas Abertawe'n fyw yn uchelgais mor ganmoladwy. Mae'n gymaint o fraint y bydd HDR yn gallu rhannu'i arbenigedd o bob cwr o'r byd, i helpu i wireddu dyheadau'r holl bartneriaid sy'n rhan o hyn.

"Bydd cefnogi'r fenter hon yn ceisio dod â ffyniant i'r ardal a chreu cyfleoedd i bobl leol, a bydd pob un ohonom yn gweld Abertawe a'r ardal o'i chwmpas yn cael eu trawsnewid. Mae HDR yn wirioneddol falch o fod yn rhan o'r cyfle unwaith mewn bywyd hwn."

Meddai Shane O'Halloran, Prif Swyddog Gweithredol Enable, "Rydym wrth ein bodd i gyhoeddi bod Enable wedi llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth gyda Batri a DST Innovations er mwyn darparu'r Hwb Ynni yn Abertawe.

"Rydym wrth ein boddau i fod yn rhan o'r prosiect arloesol hwn ac yn gyffrous ynghylch y cyfleodd a ddaw yn sgîl y berthynas a'r cydweithio arbennig hyn yn y dyfodol."

Byddai gwaith yn dechrau ar y safle yn 2023, yn amodol ar ganiatâd gynllunio.