Toglo gwelededd dewislen symudol

Iechyd meddwl

Cefnogaeth yn y gymuned i bobl sydd ag anawsterau iechyd meddwl, eu teuluoedd a gofalwyr.

Ar gyfer y rhan fwyaf o bobl, y man cyswllt cyntaf am gefnogaeth gyda phroblemau iechyd meddwl yw eu meddyg teulu a fydd yn nodi a oes angen asesiad gan weithiwr iechyd meddwl proffesiynol.

Gwasanaeth cefnogi iechyd meddwl sylfaenol lleol

Gellir cael mynediad i'r Gwasanaeth Cefnogi Iechyd Meddwl Cychwynnol Lleol trwy eich meddyg teulu.  Mae'n darparu asesiad a therapi tymor byr strwythuredig a chefnogaeth yn y gymuned ar gyfer materion iechyd meddwl ysgafn megis ffobiâu, iselder, anhwylder gorfodaeth obsesiynol, pryder cymdeithasol neu faterion rhyngbersonol eraill.  Mae'r gefnogaeth sydd ar gael yn cynnwys cwnsela a therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) a gellir ei darparu'n unigol neu mewn grŵp.  Mae cysylltiadau hefyd â nifer o grwpiau cymunedol sy'n helpu pobl i fagu eu hyder.

Timau iechyd meddwl cymunedol

Mae tîmau Iechyd Meddwl Cymunedol, sy'n cynnwys staff y gwasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd, yn darparu gwasanaeth asesu a chydlynu gofal i'r unigolion hynny â salwch meddwl difrifol neu ddwys sy'n effeithio'n sylweddol ar eu gweithrediadau a'u gallu i fyw eu bywydau pob dydd. Fel arfer, caiff pobl â phroblemau iechyd meddwl eu cyfeirio at dimau Iechyd Meddwl Cymunedol gan eu meddyg, ond gallant hefyd gysylltu â'r timau'n uniongyrchol.

 

Gwasanaethau a chefnogaeth

Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth GIG Abertawe Bro Morgannwg (Yn agor ffenestr newydd), cynghrair o ddarparwyr gwasanaethau dydd a grwpiau defnyddwyr/gofalwyr gwasanaeth iechyd meddwl yn Abertawe i ddarparu rhwydwaith o wasanaethau o bobl â phroblemau iechyd meddwl dwys neu barhaus, eu teuluoedd a'u gofalwyr.

Mae gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl yn cynnwys gwasanaethau dydd, yng Nghanolfan Ddydd Cwmbwrla ac yn y gymuned. Ceir cysylltiadau agos hefyd â cholegau a gwasanaethau preswyl lleol sy'n gallu bod yn rhan o'r rhaglen ailsefydlu. Nod y gwasanaethau hyn yw helpu pobl i dderbyn triniaeth, gofal a chefnogaeth effeithiol i ddatblygu sgiliau a diddordebau fel y gallant fyw bywydau mor llawn ac annibynnol â phosib.

Dilynir egwyddorion adfer a bydd rhaglen yr unigolyn yn newid wrth i'w anghenion newid. Caiff defnyddwyr gwasanaethau eu hannog i fod yn rhan o'r broses arwain grwpiau a gweithgareddau, yn ogystal â chymryd rhan. Pwysleisir cred, dewis a dyheadau unigol, gan hyrwyddo mwy o annibynniaeth ac integreiddiad yn y gymuned. 

Os yw eich iechyd meddwl gwaethygu ar ôl rhyddhau

O dan Ddeddf Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, gall pobl sy'n cael eu rhyddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd gyfeirio eu hunain yn ôl i'r gwasanaeth ar gyfer asesiad o fewn 3 blynedd.

Os yw person wedi cael ei ryddhau o'r gwasanaethau eilaidd am dros 3 blynedd, mae'n rhaid iddo fynd at ei feddyg teulu am asesiad.

Os hoffech gyfeirio'ch hun ar gyfer asesiad o fewn y cyfnod 3 blynedd, mae angen i chi gysylltu â'r gwasanaeth sy'n gweithredu yn eich ardal.

Mae manylion cyswllt gwahanol ar gyfer pobl sy'n defnyddio'r Gwasanaethau i Oedolion a phobl sy'n defnyddio'r Gwasanaethau Pobl Hŷn.

Os oes angen cefnogaeth arnoch i ailddefnyddio gwasanaeth, cysylltwch â  Cefnogaeth Eiriolaeth Cymru, gwasanaeth am ddim yw hwn .

 

Byw gyda dementia

Gall y Gwasanaethau Cymdeithasol a grŵpiau cefnogi eraill ddarparu gwybodaeth a chymorth ymarferol sy'n gallu helpu rhywun â dementia i wneud hynny gyda dewisiadau ac annibyniaeth.

Rhagor o wybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar gyfer lles meddyliol

Mae nifer o sefydliadau, lleol ac cenedlaethol, yn darparu gwybodaeth, cyngor neu gymorth ar gyfer iechyd meddwl.
Close Dewis iaith