Swyddi gwag mewnol
Swyddi sydd ond ar gael i staff a gyflogir eisoes gan Ddinas a Sir Abertawe.

Mae'r swyddi hyn yn cael eu hysbysebu yma fel y gall yr holl weithwyr yn y cyngor, lle bynnag y maent yn gweithio, gael mynediad i'r wybodaeth.
*Ymgeiswyr mewnol yn unig*
Partner Cyllid (dyddiad cau: 28/11/23)
£32,020 to £35,411 y flwyddyn. Mae hwn yn gyfle cyffrous i'r unigolyn cywir chwarae rhan bwysig yn Adran Gyfrifeg yr adran Gyllid. Byddwch yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau Cyfrifeg proffesiynol i un neu fwy o gyfarwyddiaethau'r Cyngor.
Rheolwr Safle Gweithredol (dyddiad cau: 29/11/23)
*Ymgeiswyr Mewnol Yn Unig* £32,020 to £35,411 y flwyddyn. Mae'r Gwasanaethau Adeiladu yn awyddus i recriwtio Rheolwr Cynnal a Chadw i weithio o fewn yr adran Cynnal a Chadw a Gynlluniwyd.
Swyddog Cymdogaeth (dyddiad cau: 29/11/23)
*Ymgeiswyr mewnol yn unig* £29,777 - £33,024 y flwyddyn. Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Gwasanaeth Tai i weithio fel Swyddog Cymdogaeth mewn Swyddfa Tai Ardal. Mae hon yn rôl sy'n rhoi sylw i gwsmeriaid a byddwch yn ymgysylltu'n uniongyrchol â'n cwsmeriaid, yn helpu ac yn cynghori tenantiaid a phreswylwyr ar ystod o faterion yn ymwneud â thenantiaeth tai a rheoli ystadau.
Swyddog Eiddo a Chyllid Cleientiaid (dyddiad cau: 05/12/23)
*Ymgeiswyr Mewnol Yn Unig* £ 33,495 - £37,336 y flwyddyn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rheoli llwyth achosion cleientiaid, gan ymuno â thîm sy'n ymroddedig i gefnogi defnyddwyr gwasanaethau 'oedolion mewn perygl' analluog yn feddyliol y Gwasanaethau Cymdeithasol wrth reoli eu cyllid a'u heiddo mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd yn y cartref.