Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Kev Johns wedi'i enwebu ar gyfer Rhyddid er Anrhydedd Abertawe

Disgwylir i'r eicon o Abertawe a seren y panto, Kevin Johns MBE, dderbyn Rhyddid er Anrhydedd y ddinas.

kevin johns panto snow white

kevin johns panto snow white

Mae Mr Johns yn cael ei anrhydeddu am ei waith elusennol ac am fod yn un o lysgenhadon mwyaf adnabyddus ein dinas. Bydd adroddiad a fydd yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor Llawn yr wythnos nesaf yn gofyn i gynghorwyr gymeradwyo'r cynnig.

Os caiff y cynnig ei gymeradwyo, bydd Mr Johns yn dilyn Catherine Zeta Jones, arwr y byd rygbi, Alun Wyn Jones a nifer o bobl eraill sydd wedi cael yr anrhydedd ar hyd y blynyddoedd.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Kevin Johns yw un o gymeriadau mwyaf adnabyddus a hoffus Abertawe.

"Mae Kevin wedi defnyddio'i broffil i gefnogi llawer o elusennau lleol ac wedi hyrwyddo ein dinas i eraill. Er ei fod yn sylw'r cyhoedd yn aml, mae yna lawer hefyd y mae Kevin yn ei wneud y tu ôl i'r llenni i gefnogi pobl mewn angen a dyna un o'r rhesymau pam ei fod yn haeddu'r clod hwn.

Meddai'r Cyng. Stewart, "Kevin oedd hen wreigan y panto yn Theatr y Grand y llynedd, ac mae wedi bod yn serennu mewn sioeau am nifer o flynyddoedd.

"Mae e'n wyneb cyfarwydd yn Stadiwm Liberty yn ystod gemau'r Elyrch ac mae'n ddarlledwr gwych.

"Pan wnaethom ddathlu pen-blwydd ein dinas yn 50 oed cwpl o flynyddoedd yn ôl, Kevin oedd ar frig pleidlais y cyhoedd i'w enwi'n Eicon Abertawe. Mae'n dangos pa mor boblogaidd yw e' yn ei ddinas enedigol."

Er mae'n debyg bod Mr Johns yn fwyaf adnabyddus am ei brif rannau ym mhanto Theatr y Grand, mae hefyd wedi chwarae prif rannau gyda Chwmni Theatr Cymru a Chwmni Theatr Fleullen.

Cafodd hefyd ei gyfarwyddo gan Michael Sheen yng nghynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o The Passion, gan ymddangos fel meistr y seremonïau y Swper Olaf.

Fel cefnogwr nifer o elusennau lleol, mae Mr Johns yn llywydd neu'n noddwr elusennau sydd wedi'u lleoli yn Abertawe gan gynnwys Cwmni Theatr Rising Stars, Côr Meibion Abertawe a Ffrindiau Stepping Stones.

Derbyniodd MBE am ei wasanaethau i elusennau yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2010 a chasglodd ei fedal oddi wrth Ei Mawrhydi y Frenhines mewn seremoni ym Mhalas Buckingham.

Os yw'r cyngor yn cymeradwyo'r cynnig, cynhelir digwyddiad seremonïol yn ddiweddarach i ddathlu'r anrhydedd.

Bydd Mr Johns yn dilyn olion traed pobl fel yr Arlywydd Jimmy Carter, y cyfansoddwr Syr Karl Jenkins MBE a seren y byd pêl-droed, Chris Coleman. Ymhlith y rhai eraill sydd wedi cael eu hanrhydeddu mae HMS Cambria, HMS Scott, Y Gwarchodlu Cymreig ac, yn fwyaf diweddar, cangen Abertawe o Gymdeithas y Llynges Fasnachol.