Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cyngor ar fudd-daliadau os ydych yn landlord

Gwybodaeth ddefnyddiol i landlordiaid os oes ganddynt denantiaid/deiliaid contract sy'n hawlio Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol.

Gwybodaeth y gallwn ei rhoi i chi am Fudd-daliadau Tai

Mae manylion unrhyw hawl ar gyfer budd-dal a wneir gan eich tenant/deiliad contract yn gyfrinachol. Os nad yw Budd-dal Tai'n cael ei dalu i chi, ni allwn hyd yn oed ddweud wrthych a oes hawl wedi cael ei wneud oni bai bod eich tenant/deiliad contract wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny.

Os yw Budd-dal Tai'n daladwy i chi, byddwn yn gallu dweud wrthych:

  • yr hawliad wythnosol (faint fyddwch chi'n cael eich talu)
  • pryd mae budd-dal yn dechrau ac yn dod i ben
  • pryd mae'r hawliad yn newid

Ni ellir rhoi unrhyw wybodaeth arall am hawl i landlordiaid oni bai ein bod yn cael caniatâd ysgrifenedig gan y tenant/deiliad contract i wneud hynny.

Allwn ni dalu Budd-dal Tai eich tenant/deiliad contract yn uniongyrchol i chi?

Fel arfer, i'r rhan fwyaf o denantiaid/deiliaid contract newydd, yr ateb i'r cwestiwn hwn yw na allwn. Fel arfer mae tenantiaid/deiliaid contract newydd yn hawlio Budd-dal Tai o dan y rheolau Lwfans Tai Lleol ac ni allant ddewis i'r budd-dal gael ei dalu'n uniongyrchol i'r landlord.

Efallai y gallwn wneud y taliad yn uniongyrchol i chi dan yr amgylchiadau canlynol. Bydd angen i ni fod yn ymwybodol y gall fod un neu fwy o'r meini prawf yn berthnasol a bydd angen i ni weld tystiolaeth i gefnogi unrhyw ddatganiadau a wneir:

  • os oes gan eich tenant/deiliad contract ôl-ddyledion rhent o wyth wythnos neu fwy, cysylltwch â ni cyn gynted â phosib. Pan fyddwn yn fodlon bod arno lai nag wyth wythnos o rent, gallwn ddechrau talu eich tenant/deiliad contract eto
  • os yw eich tenant/deiliad contract yn fregus ac yn methu rheoli ei faterion ei hun
  • ​os nad yw eich tenant/deiliad contract yn debygol o dalu ei rent
  • os oes didyniadau'n cael eu gwneud i Gymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith eich tenant/deiliad contract i dalu'r ôl-ddyledion rhent

Sut i ofyn am wneud taliadau Budd-dal Tai i landlord

Y ffordd orau o ofyn i ni am daliadau uniongyrchol Budd-dal Tai tenantiaid/deiliaid contract yw drwy lawrlwytho a llenwi'r ffurflen isod ac yna'i e-bostio at Budd-daliadau@abertawe.gov.uk.

Ffurflen gais taliad lwfans tai lleol i landlord (PDF) [47KB]

Os yw eich tenantiaid/deiliaid contract wedi bod gyda chi am beth amser (blynyddoedd fel arfer) ac nid yw eich hawl ar gyfer Budd-dal Tai'n rhan o'r rheolau Lwfans Tai Lleol, gallant ddewis i daliadau gael eu gwneud yn uniongyrchol i chi. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol y gallant hefyd ofyn i ni beidio â thalu i chi'n uniongyrchol ar unrhyw adeg.

Os yw eich tenant/deiliad contract yn derbyn Credyd Cynhwysol

Os yw eich tenant/deiliad contract yn derbyn Credyd Cynhwysol, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ymdrin â phob ymholiad neu gais am daliad gan landlordiaid.    Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a chyngor ar wefan Gov.uk Credyd Cynhwysol: tudalennau gwybodaeth ar gyfer landlordiaid (Yn agor ffenestr newydd).

Close Dewis iaith