Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Larymau

Os oes gennych larwm tresmaswyr, gellir ei seinio'n ddamweiniol. Os digwydd hyn pan fyddwch allan o'r tŷ, mae yna beryg y byddwch yn peri poendod i'ch cymdogion a thalu'r pris os bydd rhaid ei dawelu gan swyddogion rheoli sŵn.

Os ydych yn gadael i'ch larwm tŷ neu gar ganu am dros 20 munud neu'n aml gellir ei ystyried yn niwsans statudol. Os ddigwydd hyn gallwn gyflwyno rhybudd i chi i ddifodd y system larwm.  

Os na allwn ddod o hyd i'r person sy'n gyfrifol byddwn yn gwneud cais am warant gan ynad a naill ai'n datgysylltu'r larwm o'r bocs larwm allanol neu'n defnyddio saer cloeon i gael mynediad i'r tŷ a datgysylltu'r larwm o'r bocs rheoli canolog. Yna caiff yr eiddo ei ddiogelu ar ôl gadael y tŷ. Bydd rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y larwm dalu am waith y contractwr i ddatgysylltu'r larwm, neu'r saer cloeon yn ogystal ag amser y swyddogion.

Beth gallwch wneud os oes larwm yn canu yn agos atoch chi?

  • galw'r heddlu. Byddant yn delio â'r larwm os torrwyd i mewn i'r adeilad neu'r car
  • os yw'r larwm yn canu ac yn achosi niwsans i chi darganfyddwch o le mae'r sŵn yn tarddu
  • cofnodwch y cyfeiriad ac unrhyw fanylion sydd wedi'u nodi ar y bocs larwm e.e. enw'r gosodwr a rhif ffôn
  • gofynnwch i'r cymdogion os ydynt yn gwybod lle mae'r preswylwyr neu os oes gan unrhyw un arall allweddi
  • i roi gwybod i'r cyngor am larwm ffoniwch, 01792 635600. Y tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch 01792 636595. Gall gymryd ychydig oriau i ni ddiffodd y larwm.

Os ydych yn cynnal a chadw eich larwm ac yn trwsio unrhyw ddiffygion yn gyflym yna mae llai o debygolrwydd iddo ganu'n ddamweiniol. Gallwch hefyd osod dyfais sy'n diffodd y larwm ar ôl 20 munud. Ystyriwch gytundeb cynnal a chadw gyda chwmni larwm a all ddod i'r eiddo i drwsio'r larwm, os byddai'r larwm yn canu'n ddamweiniol. Pan fyddwch yn defnyddio'r larwm sicrhewch eich bod yn ei osod yn gywir a bod pob drws a ffenest ar gau.

Close Dewis iaith