Toglo gwelededd dewislen symudol

Leadfield, Ffynnon Deml

Yn wahanol i'r tirlun a ddyluniwyd gerllaw ym Mharc Treforys, mae hon yn ardal fawr o laswelltir (mae merlod yn pori yno ar hyn o bryd) gydag ardal gorsiog sy'n gynefin gwych i amffibiaid fel brogaod, llyffantod a madfallod.

Rai blynyddoedd yn ôl, bu'r cymunedau lleol yn brwydro yn erbyn cais cynllunio i ddatblygu'r safle ac ymddengys fod ei ddyfodol fel ardal agored bellach yn ddiogel.

Ar hyn o bryd, does dim llawer o goed yno, and mae cynlluniau i blannu coedwig gymunedol yn y dyfodol. Mae rhai nodweddion archeolegol diddorol ar y safle, gan gynnwys hen ffynnon a gweddillion gwaith maes hynafol.

Uchafbwyntiau

  • Golygfeydd anhygoel.

Gwybodaeth am fynediad

Mynydd-bach, y Clâs, Treforys
Cyfeirnod Grid SS659982
OS Explorer Map 165, Abertawe

Mynedfa oddi ar Heol Caemawr neu drwy Barc Treforys.

Close Dewis iaith