Toglo gwelededd dewislen symudol

Llethrau Trewyddfa

Mae rhan ogleddol y safle'n cynnwys brith o laswelltir corsiog a phrysgwydd.

Mae'r cyrion pellaf deheuol yn cynnwys ardaloedd o laswelltir niwtral heb eu difetha a glaswelltir amwynderau gydag ardaloedd cymharol fwy o rostir sych a rhostir asidig sych - brith o laswelltir asidig (cynefinoedd blaenoriaeth BAP). Mae nant fechan yn trawstorri'r safle.

Uchafbwyntiau

Mae adar prin fel giachod wedi'u gweld ar y safle.

Dynodiadau

  • Safle o Bwys Cadwraeth Natur (SBCN 13)

Gwybodaeth am fynediad

Cyfeirnod Grid SS665965
Map Explorer yr AO 165 Abertawe

Mae mynediad i'r safle drwy Deras y Parc a'r caeau chwarae oddi ar y B4603, Heol Castell-nedd. Mae llwybrau'n croesi'r safle.

Bysus

Mae bysus rheolaidd yn teithio ar hyd Heol Castell-nedd (B4603)

Close Dewis iaith